AMDANOM NI

Isobel Smith, Swyddog Datblygu Prosiectau – Garddwriaeth Cymru.

Mae cefndir Isobel mewn Rheoli Prosiectau. Astudiodd radd mewn busnes a’r gwyddorau cymdeithasol ac mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau wedi’u hariannu yng Nghymru, gan ymgorffori elfennau amgylcheddol. Datblygodd ei diddordeb mewn garddwriaeth o oedran cynnar. Roedd ei rhieni’n angerddol am arddwriaeth, ac roedd bron yn anochel y byddai hi’n dod yn arddwr brwd hefyd. Caiff Isobel ei hysbrydoli gan dyfwyr a chynhyrchwyr o Gymru a dysgu mwy am eu busnesau amrywiol ac amlochrog.

Isobel.smith@glyndwr.ac.uk

Jane Edwards, Swyddog Adrodd a Digwyddiadau – Garddwriaeth Cymru.

Mae Jane wedi gweithio ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr, yn bennaf o fewn y Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ers 25 mlynedd. Mae hi’n falch iawn i ymuno â’r prosiect Garddwriaeth Cymru ac yn mwynhau cysylltu â phobl ledled Cymru i gefnogi eu gweithgareddau garddwriaethol niferus ac amrywiol. Dyweda bod tirwedd garw Cymru yn falm i’w henaid, felly mae’n aml yn diflannu am deithiau cerdded hir gyda’i chi. Mae ganddi bedwar o blant sydd wedi tyfu i fyny ac mae hi wedi bod yn briod ers 34 mlynedd, ac nid oes dim yn well ganddi na dod â’r teulu cyfan at ei gilydd.

J.edwards@glyndwr.ac.uk

Laura Gough, Rheolwr Datblygu Busnes – Trosglwyddo Gwybodaeth ac Arloesi- Garddwriaeth Cymru.

Mae Garddwriaeth Cymru yn un o nifer o brosiectau y mae Laura yn eu rheoli i’r brifysgol. Mae Laura wedi bod yn gweithio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam ers bron i 19 mlynedd (mae hi wrth ei bodd!), ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae hi wedi gweithio ar draws nifer o wahanol adrannau a phrosiectau. Mae gan Laura ddau fab ifanc sy’n ei chadw’n brysur, ac mae hi wrth ei bodd â cheir cyflym, ac yn caru anhrefn trefnus.

L.gough@gyndwr.ac.uk