Yn ei chanol hi

FlintShare

Mae tyfwyr llysiau cymunedol yn Sir y Fflint yn agor eu drysau i aelodau newydd ac yn helpu eu cymuned i fwyta bwyd ffres sydd wedi’i dyfu’n organig. Wedi’i lleoli ar ei safleoedd yng Nghilcain, Llaneurgain a Phenarlâg, mae FlintShare,… Read more »

LLWYDDIANT Y MADARCH!

Mae Cynan Jones, ffermwr sy’n denant i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn rhedeg yr Ardd Fadarch o’i fferm. Wedi ei leoli yn Nantmor, ger Beddgelert, mae Cynan yn tyfu madarch shitake a madarch wystrys y coed, sy’n cael eu sychu a’u defnyddio… Read more »

Sarah eat my flowers

EAT MY FLOWERS

Mae Sarah Hughes yn rhedeg Eat My Flowers o’i fferm deuluol yng Nghae Mawr lle mae hi’n byw gyda’r gŵr, Philip a’i dau fab. Mae Philip yn gweithio i Stad Rhug a gyda’i dad ar eu fferm bîff a defaid… Read more »

HAU HADAU NATUR

Mae Jan Miller yn rhedeg Saith Ffynnon Wildlife Plants o’i chartref ger Treffynnon – busnes sy’n arbenigo mewn hadau a phlanhigion gwyllt, gan gynnwys rhai sy’n frodorol i’r DU, sy’n ddefnyddiol i fywyd gwyllt. Yn ei chartref sy’n hen ffermdy,… Read more »

PEINTIO’R MYNYDDOEDD YN LAS

Mae Vera Fitzsimmons-Thoss yn ddarlithydd cemeg gynaliadwy ym Mhrifysgol Bangor. Mae Vera yn rhedeg Vera Bluebell yn Llanberis lle mae’n byw gyda’i gŵr, Jason, a’i merch, Hannah. Trwy ddamwain, dechreuodd Vera ei chwmni pan oedd hi’n tyfu’r planhigyn ar ei… Read more »

CYNAEAFU CYNALIADWY

Mae Llyr Jones yn rhedeg cwmni Blodyn Aur yn Llanfihangel Glyn Myfyr lle mae’n cynhyrchu olew had rêp. Mae Llyr, 39, yn cynhyrchu olew yng nghartref ei deulu yn Fferm Derwydd. Mae’n byw yno gyda’i wraig Emma, 39, a’i blant… Read more »

HELPU POBL DYFU

Ers dros deg ar hugain o flynyddoedd, mae Meithrinfa Bryn Euryn wedi darparu gweithgareddau dyddiol i rai gydag anableddau dysgu mewn meithrinfa arddwriaethol brysur. Mae’r feithrinfa ym Mae Colwyn yn cynnig cyfle i’r rhai sy’n mynychu i ddysgu sgiliau garddwriaethol… Read more »