EAT MY FLOWERS

Sarah eat my flowers

Mae Sarah Hughes yn rhedeg Eat My Flowers o’i fferm deuluol yng Nghae Mawr lle mae hi’n byw gyda’r gŵr, Philip a’i dau fab. Mae Philip yn gweithio i Stad Rhug a gyda’i dad ar eu fferm bîff a defaid yn Nyffryn Dyfrdwy. Daeth busnes Sarah i fodolaeth yn 2011 pan fachodd ar y cyfle i arallgyfeirio gan wella’r cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd.

Mae Sarah yn tyfu blodau y gallwch eu bwyta drwy eu crisialu ar gyfer cacennau a thoes.

“Roeddwn ni’n arfer gweithio fel cynghorydd busnes i Lywodraeth Cymru pan oedd fy mhlant yn fach iawn ond pan aethant i’r ysgol roedd rhaid i mi ddod o hyd i waith oedd yn addas ar gyfer eu nôl o’r ysgol a gwaith ar y fferm.

“Edrychais ar nifer o fusnesau posib ac fe wnes i lawer iawn o waith ymchwil. Edrychais ar osod tai gwyliau a phethau eraill. Yn Rhug, roedd fy ngŵr wedi helpu i greu ffermydd cig organig ar gyfer bwytai moethus Llundain.

“O glywed am eu profiad o gyflenwi i fwytai moethus, edrychais ar dyfu blodau ffres a oedd yn fwytadwy ond oherwydd nad ydynt yn para yn hir, meddyliais na fyddai’r model busnes yn ymarferol yn enwedig a minnau yng Ngogledd Cymru a’m cwsmeriaid yn Llundain a dinasoedd mawr eraill fel Manceinion. Mae blodau ffres yn marw. Byddai’n rhaid i mi eu gyrru i’r bwytai yn sydyn; fel arall byddent yn dda i ddim.”

Cafodd Sarah y syniad o wneud blodau wedi eu crisialu pan awgrymodd ffrind y byddai blodau oedd Sarah wedi eu gwneud ar gyfer cacen Basg yn syniad busnes da. Drwy grisialu’r blodau a’u peintio gyda gwynnwy a siwgr, roedd posib ymestyn eu bywyd o ychydig ddiwrnodau i fisoedd.

“Roeddwn i wedi gwneud gwaith ymchwil yn barod ar gyfer y busnes wrth i mi edrych ar flodau ffres bwytadwy”, dywedodd.

“Mae blodau wedi eu crisialu yn para misoedd. Does dim angen cyfleusterau storio arbennig.”

Mae Sarah yn tyfu fioledau, briallu a rhosod mewn twnnel tyfu yn ei chartref. Ar ôl crisialu’r blodau drwy eu peintio gyda llaw gyda gwynnwy a siwgr, caiff y blodau eu gwerthu i fusnesau ar draws y DU lle cant eu defnyddio ar gyfer cacennau a thoes neu mae hi’n defnyddio’r blodau ffres ar gyfer ei lolipops blodau. Mae gan Sarah gysylltiadau gyda Harrods a Gwesty’r Berkeley yn Llundain ac mae hi’n gwneud llawer iawn o waith ar gyfer digwyddiadau corfforaethol.

“Mae wedi bod yn fusnes  gwych” meddai. “Mae’n hyblyg iawn a dwi’n gwybod fy mod i wedi tyfu popeth fy hun. Mae yna lot o foddhad personol i’w gael. Drwy fy ngwaith dwi wedi teithio i lefydd fel Dulyn a Dwbai. Mae yna lawer iawn o gefnogaeth i’w gael gan Lywodraeth Cymru wrth i chi gynhyrchu bwyd. Mae’n neis gwybod y gallwch dyfu pethau ar ychydig o dir a dwi’n gwneud bywoliaeth.

“Dyma fusnes y gallwch ei gychwyn heb lawer o fuddsoddiad. Mae wedi bod yn waith caled cyrraedd lle dwi wedi ei gyrraedd ond bellach mae fy ngwaith a bywyd yn cydbwyso. Mae’n fusnes cynaliadwy. Dwi wrth fy modd bob diwrnod ac yn mwynhau siarad gyda fy nghwsmeriaid o bob rhan o’r byd.”

Am fwy o wybodaeth am Eat My Flowers ewch i www.eatmyflowers.co.uk

Gallwch hefyd ddarganfod tudalen Eat My Flowers ar Facebook neu Twitter @eatmyflowers