HAU HADAU NATUR

Mae Jan Miller yn rhedeg Saith Ffynnon Wildlife Plants o’i chartref ger Treffynnon – busnes sy’n arbenigo mewn hadau a phlanhigion gwyllt, gan gynnwys rhai sy’n frodorol i’r DU, sy’n ddefnyddiol i fywyd gwyllt.

Yn ei chartref sy’n hen ffermdy, mae Jan, sy’n naturiolwr, yn tyfu planhigion a blodau yn ei gardd ac yn casglu ac yn pecynnu’r hadau, yna mae hi’n eu gwerthu ar ei gwefan. Mae Jan hefyd yn gwerthu planhigion, ac mae tua 10% o’i helw yn cael ei roi i brosiectau cadwraeth lleol.

Ond mae gan Jan ddiddordeb arbennig mewn cadwraeth pryfed, gloÿnnod byw a gwenyn. Mae hi wedi tyfu sawl rhywogaeth o blanhigion gwyllt brodorol a phlanhigion gardd, gan gynnwys eupatorium, blodyn sy’n cynhyrchu neithdar sy’n denu gloÿnnod byw a chacwn.

Yn wir, mae ei gardd yn ffynnu gyda channoedd o rywogaethau brodorol, gan gynnwys llawer o flodau fel Bysedd y Cŵn, Meillionen Troed Adar, y Bengaled a’r Feillionen Goch ac maent i gyd yn hanfodol i’r 250 o rywogaethau gwenyn sydd yn y DU.

Eglurodd Jan sut y dechreuodd gyda’r ddôl a sut mae hi wedi ei ddatblygu dros ddeng mlynedd ar hugain.

“Roedd gen i ddiddordeb mewn blodau gwyllt lawer o flynyddoedd yn ôl, a phan gawsom y cyfle i symud yma yn yr wythdegau cynnar, roedd sôn bod yr holl ddolydd blodau gwyllt yn marw ac roeddwn eisiau rhywfaint o dir i gael dolydd blodau gwyllt,” meddai.

“Ond yna dechreuais sylwi ar yr holl bryfed a oedd yn dod at y blodau gwyllt a’r glaswellt gwyllt, felly dechreuais gymryd diddordeb ynddynt hefyd.”

Mae gan Jan bedwar cae o amgylch ei chartref ac mae’n dewis torri’r glaswellt ddim mwy na phob yn ail flwyddyn neu hyd yn oed bob tair neu bedair blynedd. Drwy wneud hyn, mae’r hen laswellt yn syrthio a’r glaswellt newydd yn tyfu, gan greu toc. Gall gloÿnnod byw sydd angen llonydd dros y gaeaf mewn glaswellt marw wneud hynny a goroesi. Ond heb yn wybod, mae’r amgylchedd yma wedi denu llygod ac yna tylluanod ysgubor! Mae Jan wedi adeiladu ‘tyrrau pryfaid’ o baletau pren sy’n denu llawer o bryfed i’w dolydd.

Eglurodd Jan pam fod cadwraeth dôl gwyllt yn bwysig iddi ac mae hi’n cefnogi ymgyrch Garddwriaeth Cymru i sefydlu clystyrau garddwriaethol o fusnesau ledled y wlad, gan helpu pobl o’r un meddylfryd i rwydweithio a chyd-hyrwyddo ei gilydd.

“Rydym wedi colli 98% o’n dolydd blodau gwyllt yng Nghymru a’r DU ers y rhyfel. Rydym yn colli gloÿnnod byw a phryfed sy’n peillio ar gyfradd frawychus. Mae hynny’n effeithio ar ein bwyd ni a bywyd gwyllt arall.

“Mae angen gwneud rhywbeth ar frys, a dyna pam fy mod yn angerddol am hyn. Yr hyn dwi’n ei fwynhau ei wneud yw dangos i bobl y cynefinoedd yr wyf yn eu creu; mae’n anodd gwneud bywoliaeth gan nad wyf yn cael digon o gyhoeddusrwydd. Ond mae’r mater yn cael mwy o sylw nawr. Mae yna ddiddordeb mawr mewn bywyd gwyllt, ac mae mwy o bobl yn dechrau dangos diddordeb yn y farchnad hon.

“Gallai’r farchnad dyfu petai pobl sy’n gweithio mewn garddwriaeth ymuno i helpu pobl i dyfu mwy o blanhigion ar gyfer bywyd gwyllt yn eu gerddi.”

Mae Jan wedi cyhoeddi ei llyfr Gardening for Butterflies, Bees, and other Beneficial Insects, sydd ar gael ar Amazon neu o’i gwefan.

Os oes gennych ddiddordeb yng ngwaith cadwraeth Jan neu eisiau prynu ei hadau a phlanhigion, ewch i wefan Jan ar www.7wells.co.uk

Mae Jan hefyd ar Facebook, chwiliwch am Gardening for Butterflies Bees and Other Beneficial Insects neu Twitter @JanKleinMiller