LLWYDDIANT Y MADARCH!

Mae Cynan Jones, ffermwr sy’n denant i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn rhedeg yr Ardd Fadarch o’i fferm.

Wedi ei leoli yn Nantmor, ger Beddgelert, mae Cynan yn tyfu madarch shitake a madarch wystrys y coed, sy’n cael eu sychu a’u defnyddio ar gyfer sesnin.

Dywed Cynan ei fod wedi ymddiddori mewn chwilota am fadarch gwyllt erioed ac, drwy ddatblygu ei ddiddordeb, daeth yn rhan o brosiect ymchwil Prifysgol, a arweiniodd ato’n dechrau ei fusnes madarch wystrys y coed a madarch shitake, degawd yn ôl. Fel arbenigwr ar fadarch, mae hefyd yn cynnal cyrsiau chwilota yn yr ardal.

Mae’r madarch yn cael eu tyfu ar flociau wedi eu gwneud o dderw Cymreig ac yn cael eu cadw ar dymheredd cyson er mwyn eu galluogi i ddatblygu cyn i’r tymheredd gael ei newid i hybu twf.

Mae cynnyrch yr Ardd Fadarch – madarch wedi sychu, sesnin, a phowdwr madarch – yn cael eu gwerthu yn siopau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mewn siopau bwyd ac maent hefyd ar gael i’w archebu drwy’r post.

Fe enillodd yr Ardd Fadarch wobr Great Taste am ei sesnin newydd Umami.

Mae’n bosib ailgylchu’r holl ddeunydd pacio, ac mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn arwain y ffordd gyda’i hymrwymiad i roi gorau i ddefnyddio plastig untro yn ei siopau erbyn 2022 ac mae Cynan yn dweud ei fod yn cefnogi hynny.

Am fwy o wybodaeth, ewch i: http://snowdoniamushrooms.co.uk/

Gallwch wylio cyfweliad youtube Cynan, yma: https://youtu.be/sbE4fWHjlMo