CLWSTWR PERLLANNAU TREFTADAETH GENEDLAETHOL CYMRU

Lansiwyd Clwstwr Perllannau Treftadaeth Genedlaethol Cymru ym mis Chwefror 2019, gan gydweithio ag IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth yng ngogledd Cymru a bydd yn ymestyn ledled Cymru, i hyrwyddo plannu coed ffrwythau amrywiol o dreftadaeth Gymreig, i fapio perllannau ac annog cydweithrediad rhwng tyfwyr i archwilio marchnadoedd newydd a gwneud y gorau o osod prisiau.

Ganwyd y Clwstwr hwn, unwaith eto, yn organig, yn ystod cyfarfod yn IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gallai cynhyrchu afalau a gellyg fod yn ddewis cadarnhaol i dyfwyr sydd angen arallgyfeirio a byddai casgliad Perllannau Treftadaeth Genedlaethol Cymru yn cynyddu gwerth a tharddiad y cnwd. Roedd y bartneriaeth gydag IBERS, a oedd yn meddu ar yr wybodaeth a’r arbenigedd, a Garddwriaeth Cymru, a oedd yn meddu ar dyfwyr a oedd yn dymuno datblygu meysydd newydd o gynnyrch, yn drefniant cydweithio amlwg.

Mae’r Clwstwr yn cyd-fynd yn dda â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac yn cydweithio’n frwd â phrosiectau a mentrau eraill, gan gynnwys:

· Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus – Y Goedwig Hir sy’n eistedd law yn llaw â phlannu perllannau treftadaeth
· 
Tyfu’r Dyfodol
· 
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
· 
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru
· Cyfeillgar i wenyn, cadw gwenyn a chynhyrchu mêl
· Agwedd gymdeithasol/cymunedol, yn enwedig mewn perthynas ag iechyd meddwl a lles

Wrth symud ymlaen, anogir y rhai hynny sy’n symud i ffwrdd o gynhyrchu cig, i ddewis opsiwn Treftadaeth Perllannau, gan ei fod yn opsiwn cynnyrch uchel, lle nad oes fawr o waith cynnal a chadw.

Mae rhai aelodau o un rhanbarth yn cynllunio cwmni cynhyrchu sudd afal cydweithredol, lleol. Mae eraill wedi codi cwestiynau ynglŷn ag addasrwydd y pridd mewn rhanbarthau amrywiol ac wedi awgrymu y dylid cynnal ymchwil i benderfynu’r amrywiaethau sy’n gweddu orau i bob rhanbarth. Mae rhaglen bridio ac impio afalau wedi cael ei hawgrymu hefyd i fodloni anghenion yn y dyfodol.