CYFLE I WNEUD GRADD PHD YM MHRIFYSGOL ABERYSTWYTH – CASGLIAD AFALAU A GELLYG TREFTADAETH GYMREIG

Mae Danny Thorogood newydd gysylltu i rannu cyfle gwych i un o’n haelodau sydd eisiau ymgymryd â phrosiect ymchwil…

Dyma gyfle cyffrous i unigolyn sydd wedi graddio mewn cemeg/biocemeg sydd â diddordeb mewn bioleg gyfrifiadol a dadansoddeg data mawr. Byddwch yn astudio ar gyfer gradd PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda rhywfaint o’r hyfforddiant cychwynnol yn digwydd ym Mhrifysgol Cranfield. Byddwch yn cyfrannu at nodweddu casgliad o afalau a gellyg treftadaeth Gymreig. Byddwch yn dadansoddi proffiliau metabolaidd cymhleth casgliad pwysig o afalau, sy’n gysylltiedig â’u blas a’u priodweddau synhwyraidd ac ystod amrywiol o briodoleddau maethlon, gan ddefnyddio offer Cromatograffaeth Hylif a Sbectrometreg Màs.

Dyma un o’r prosiectau PhD a gynigir trwy Raglen Hyfforddiant Doethurol BBSRC FoodBioSystems, sydd wedi’i hariannu’n hael. Mae’r rhaglen yn gydweithrediad rhwng sawl Prifysgol ymchwil flaenllaw yn y DU dan arweiniad Prifysgol Reading.

Mae disgrifiad o’r prosiect a manyleb person ar gael yma: https://research.reading.ac.uk/foodbiosystems/wp-content/uploads/sites/145/advert-files/FBS2020-35-THOROGOOD-AC-ADVERT-final.pdf

Mae manylion ynghylch sut i wneud cais ar gael yma: https://research.reading.ac.uk/foodbiosystems/apply-for-a-phd/

Mae manylion am y prosiect ar gael yma hefyd: https://www.findaphd.com/phds/program/foodbiosystems-bbsrc-doctoral-training-partnership-phd-studentships-available/?i3p4806