Digwyddiad Nadolig

 

Cafodd y siopwyr a’r stondinwyr Nadoligaidd fwynhad yn y Farchnad Nadolig yn Neuadd Bentref Cilcain yn Sir y Fflint!

Y farchnad oedd y digwyddiad cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau a fydd ymlaen ar draws Cymru i hybu garddwriaeth, tyfwyr, cynhyrchwyr a busnesau o Gymru.

Wedi ei drefnu gan Garddwriaeth Cymru, roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys sesiwn rhwydweithio i fusnesau ddod i adnabod ei gilydd a sefydlu cadwyni cyflenwi lleol.

(Yn y Llun: Rhian Jones, rheolwr Siop gymunedol Siop Pwll Glas a Helen Mannion a Gillian Ladell, cyd-reolwyr Siop a Chaffi Cymunedol Pentref Llandegla).