CYNAEAFU CYNALIADWY

Mae Llyr Jones yn rhedeg cwmni Blodyn Aur yn Llanfihangel Glyn Myfyr lle mae’n cynhyrchu olew had rêp. Mae Llyr, 39, yn cynhyrchu olew yng nghartref ei deulu yn Fferm Derwydd. Mae’n byw yno gyda’i wraig Emma, 39, a’i blant Dwynwen sy’n ddwy a William eu babi bach.

Mae Llyr yn ffermio defaid, gwartheg ac ieir ond mae hefyd wedi arallgyfeirio i gynhyrchu olew had rêp gan wneud ei fferm yn fwy cynaliadwy.

Mae Blodyn Aur yn cynhyrchu tri amrywiaeth o ddresin o’r olew gan gynnwys betys a theim, balsam a mêl a mwstard.

Ugain mlynedd yn ôl, doedd dim caeau melyn, ond mae gan olew had rêp ei fanteision,” meddai Llyr.

“Os ydych yn tyfu grawn bob blwyddyn, mae’n dwyn maeth y pridd i gyd. Daw’r had rêp o deulu’r Brassica ac mae’n adnewyddu’r tir os ydych yn tyfu hwnnw un flwyddyn a grawn y flwyddyn wedyn. Felly, pan dwi’n tyfu grawn flwyddyn ar ôl tyfu had rêp, dwi’n cael cnwd da iawn o rawn oherwydd bod y tir wedi cael cyfle i orffwys ac mae’r pridd yn cael budd o’r maeth.”

Mae Llyr yn credu nad oes yna lawer iawn o gnwd yr un mor gynaliadwy ag olew had rêp. Fel perchennog busnes sy’n poeni am yr amgylchedd, dywed Llyr nad yw’n cynhyrchu unrhyw wastraff ac mae hyd yn oed yn defnyddio’r protein a gaiff ei dynnu o’r cynhyrchiant i fwydo ei wartheg gan arbed arian a helpu’r amgylchedd.

“Mae had rêp yn hunan-gynaliadwy. Does dim gwastraff. Nid oes gennym ni wastraff. Dwi hyd yn oed yn defnyddio’r gwellt sydd weddill i amsugno’r olew pan fydd peiriannau yn gollwng. Felly nid yw ein gwastraff yn wastraff. Mae’r holl fusnes yn wyrdd. Mae sgil-gynnyrch yr olew yn brotein o ansawdd dwi’n gallu ei gynhyrchu am hanner y pris, sydd o fudd i’r fferm. Taswn ni ddim yn tyfu had rêp, byddai’n rhaid i mi brynu soia o’r Ariannin neu Frasil i fwydo’r gwartheg sydd ddim yn dda i’r fforestydd glaw chwaith. Felly mae’r holl broses yn hunan-gynaliadwy.”

Mae maethegwyr yn cytuno mai olew had rêp sy’n cynnwys y lleiaf o fraster dirlawn allan o bob olew coginio ac mae Llyr yn dweud bod y budd i iechyd o goginio gydag olew had rêp yn golygu bod mwy yn ei ddefnyddio. Mae ASDA, Sainsbury’s, Morrisons a nifer iawn o siopau fferm yn stocio olew Blodyn Aur a dywed Llyr bod ganddo gynlluniau mawr ar gyfer ei gynnyrch.

“Mantais arall yw ei fod yn olew iach, dim ond hanner y braster dirlawn sydd ynddo; mae cynnwys omega tri; mae lefel fitamin e ynddo yn uchel ac mae ganddo bwynt mygu uchel sy’n golygu y gall goginio ar dymheredd uchel iawn.”

Ychwanegodd: “Caiff popeth ei dyfu, gwasgu a’i botelu yng Nghymru. Dyma’r unig olew had rêp a gaiff ei gynhyrchu yng Nghymru. Fy nod yw bod yna botel o Blodyn Aur ym mhob cegin.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.madryn.co.uk/pages/blodyn-aur

Gallwch hefyd ddilyn Blodyn Aur ar Facebook neu Twitter ar @BlodynAur