FlintShare

Mae tyfwyr llysiau cymunedol yn Sir y Fflint yn agor eu drysau i aelodau newydd ac yn helpu eu cymuned i fwyta bwyd ffres sydd wedi’i dyfu’n organig.

Wedi’i lleoli ar ei safleoedd yng Nghilcain, Llaneurgain a Phenarlâg, mae FlintShare, a sefydlwyd yn 2010, yn fenter gymdeithasol a reolir gan y gymuned sy’n rhoi’r cyfle i aelodau dyfu eu llysiau a’u ffrwythau eu hunain gyda’i gilydd.

Mae’r grŵp yn cynnwys tyfwyr sy’n dysgu a rhai profiadol, ac mae’n cynhyrchu ystod eang o gnydau traddodiadol, yn cadw gwenyn ar gyfer mêl, yn tyfu helyg ar gyfer gwneud basgedi, yn cynnal gweithdai, ac yn mwynhau amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol. Gall aelodau ddefnyddio naill ai eu gwaith yn y gerddi, neu arian, i brynu eu cynnyrch fel rhan o Gynllun Cyfrif Llysiau arloesol.

Yn ogystal â chynnyrch mwy traddodiadol, mae FlintShare yn rhoi cynnig ar ffrwythau a llysiau mwy anghyffredin megis afal daear Periwaidd, mashua, oca ac achocha. Mae amrywiaethau diddorol eraill a dyfir yn cynnwys tromboncino, gwreiddiau ysgellog, a phersli panasaidd.

Mae FlintShare yn anfon cylchlythyr i’w haelodau bob pythefnos i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â nhw. Mae’r grŵp hefyd yn gobeithio cynhyrchu llyfr o ryseitiau prydau llysiau a ffrwythau iach a blasus.

Eglurodd Pam Worthington, sy’n rheoli safle Cilcain, sut mae’r cynllun wedi bod o fudd i’w aelodau a’r gymuned leol:

“Rydym yn grŵp o bobl o’r un meddwl sy’n cynhyrchu bwyd gyda’n gilydd. Rydym yn mwynhau tyfu, dysgu, rhannu syniadau, a dathlu bwyd fel cymuned. Byddwn hefyd yn bwyta bwyd hynod ffres, blasus a lleol – gyda’n gilydd yn aml!

“Mae croeso i bawb ymuno â ni, waeth beth yw eu gwybodaeth, gallu, oedran, rhywedd, neu gefndir diwylliannol. Rydym yn gymysgedd o ddysgwyr a thyfwyr profiadol, felly mae wastad rhywun ar gael i’ch helpu – nid oes rhaid i chi wybod llawer am arddio i fod yn aelod o FlintShare. Y cwbl rydym yn ei ofyn yw i chi ymuno a mwynhau!

“Defnyddiwn ddulliau tyfu organig a byddwn yn tyfu gan roi ystyriaeth i’n hamgylchedd. Rydym yn ceisio ymyrryd cyn lleied â phosibl â phrosesau naturiol ar ein safleoedd, sy’n golygu nad oes gormod o waith palu! Ac mae’n well gennym ni i ddefnyddio adnoddau ar y safle bob tro os gallwn wneud hynny, yn hytrach na’u prynu.

“Rhoddir cynnyrch dros ben i siop y gymuned leol yng Nghilcain i gael cyfraniadau er budd elusennau lleol, i helpu i leihau gwastraff, ac o’r safle yn Llaneurgain i fanc bwyd lleol.”

Mae gan FlintShare sawl twnel polythen ar ei safle yn Llaneurgain sy’n eu galluogi i dyfu cnydau meddal megis melonau, eirin gwlanog, planhigion wy, pupurau, tsilis, a thomatos. Mae gan y safle ym Mhenarlâg welyau uchel, sy’n gwneud garddio yn hygyrch i bobl sydd â phroblemau symudedd. Mae safle Cilcain wedi’i leoli o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd ac yn darparu’r rhan fwyaf o’r cnydau awyr agored.

Mae ‘hybiau’ dydd Sadwrn yn cylchdroi rhwng y tri safle er mwyn casglu llysiau a ffrwythau wedi’u cynaeafu i aelodau gael eu casglu os na allant gnydio o’r safleoedd eu hunain.

Fel arfer, bydd aelodau’n cyfarfod ar ddydd Mawrth yng Nghilcain, dydd Mercher yn Llaneurgain ac, ar hyn o bryd, boreau Iau ym Mhenarlâg. Mae te a choffi bob amser i’w cael yno, gan amlaf ynghyd â theisennau a byns! Mae croeso mawr i aelodau newydd bob amser, yn ogystal â phobl sydd â diddordeb ac yn dymuno cerdded o gwmpas a dysgu mwy.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â flintshire_csa@hotmail.co.uk neu i ymaelodi cysylltwch â rachaelmstanley@gmail.com