PEINTIO’R MYNYDDOEDD YN LAS

Mae Vera Fitzsimmons-Thoss yn ddarlithydd cemeg gynaliadwy ym Mhrifysgol Bangor. Mae Vera yn rhedeg Vera Bluebell yn Llanberis lle mae’n byw gyda’i gŵr, Jason, a’i merch, Hannah.

Trwy ddamwain, dechreuodd Vera ei chwmni pan oedd hi’n tyfu’r planhigyn ar ei thir i gynnal dadansoddiad gwyddonol, ond ar ôl i’r gair ledaenu bod Vera wedi tyfu’r planhigyn, roedd pobl yn gofyn iddi am gael prynu bylbiau.

“Dwi’n wyddonydd. Roeddwn i eisiau edrych ar gemeg clychau’r gog. Ond ar ôl i mi gael trwydded, roedd pobl yn gofyn i mi am fylbiau, a dyna sut y dechreuais.

“Mae gan Glychau’r Gog gyfansoddiad cemegol diddorol. Er enghraifft, yn y 13eg ganrif, roedd Meddygon Myddfai yn cynnwys clychau’r gog mewn triniaeth yn erbyn y gwahanglwyf. Mae darganfyddiad cyffuriau yn parhau i edrych ar ba blanhigion y gallwn eu defnyddio i drin afiechydon, ac yn ddiweddar, cafodd mêl Cymreig a oedd yn actif yn erbyn MRSA ei gael yn rhannol o glychau’r gog.

“Rydym eisoes yn ymchwilio i ddefnydd clychau’r gog ac wedi canfod saponin sy’n gallu cael ei ddefnyddio fel triniaeth ar gyfer mwydod parasitig. Dwi’n gweithio ar hyn gyda chydweithiwr i mi.

“Mae gan rai mêl Cymreig, fel mêl Manuka elfennau gwrth facteria. Fe’i defnyddir mewn meddygaeth amgen. Mae yna lawer o gyfleoedd i ddatblygu.”

Mae Vera yn credu bod Cymru, ac yn enwedig Mynyddoedd Eryri, yn lleoliad delfrydol i dyfu clychau’r gog yn fasnachol oherwydd bod cynaeafu’r planhigion mewn tir uwch yn cynhyrchu cnwd gwydn. Daw llawer o’r clychau’r gog a werthir yn y DU o’r Iseldiroedd. Mae Vera yn dweud nad yw llawer o blanhigion a dyfir ar dir mawr Ewrop yr un mor wydn, ac felly mae hi’n credu bod clychau’r gog a dyfir yn ei chartref, ar ochr mynydd, yn fwy cadarn.

“Byddai hefyd yn dda cael ardystiad fel bod pobl yn gwybod bod cynnyrch wedi’i dyfu yng Ngogledd Cymru,” meddai.

“Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o’r clychau’r gog yn dod o’r Iseldiroedd, ond mae’n haws i’r planhigyn ffynnu os yw’r planhigyn yn dod o hinsawdd debyg. Daw ein clychau’r gog ni o 250 metr uwchben lefel y môr; maent yn blanhigion gwydn. Maent yn cael pedwar metr o law bob blwyddyn. Dwi’n gobeithio y bydd gwerthiant yn gwella. Mae’r cynaladwyedd yno. Byddai’n ddiddorol dod i wybod am fwy o boblogaethau pur sy’n bodoli yn barod. ”

Mae Vera yn cefnogi cynlluniau Garddwriaeth Cymru i ddatblygu clystyrau o fusnesau garddwriaeth ledled y wlad, fel y gall busnesau helpu ei gilydd. Mae hi hefyd yn credu y bydd planhigion cynhenid sy’n tyfu yma yn helpu i atal lledaeniad clefydau botanegol.

“Yn hytrach na defnyddio planhigion o’r Iseldiroedd, gallwn ddatblygu marchnad Brydeinig. Dwi’n credu y byddai’r syniad o sefydlu clystyrau’n helpu. Yn ddiweddar, rydym wedi sylweddoli, o ganlyniad i faterion bioddiogelwch, y byddai’n fanteisiol cynhyrchu mwy o blanhigion yng Nghymru, gan ddefnyddio hadau stoc Gymreig. ”

“Dwi’n edrych ymlaen at ddod o hyd i bobl sy’n meddwl fel fi. Os oes gennych bobl sy’n rhannu diddordeb, mae’n fuddiol, ac, wrth gwrs, byddai’n dda pe bai’n broffidiol.

“Rydym wedi dysgu llawer am ecoleg clychau’r gog; mae’r planhigyn yn anodd ei sefydlu. Ond rydym wedi gwella ein cynaeafu. Yn y dyfodol, hoffwn ddatblygu poblogaethau eraill lle mae’r planhigyn yn wyllt ac yn bur ac efallai gweithio ar sail ymgynghori.

“Mae’n hawdd iawn dinistrio poblogaeth ond mae’n anodd iawn sefydlu poblogaeth newydd.”

Ychwanegodd Vera, “Hoffwn beintio’r mynyddoedd yn las. Mae clychau’r gog yn denu ymwelwyr. Mae’n siŵr mai dyma’r unig blanhigyn lle mae son amdano ar y newyddion.”

Am fwy o wybodaeth ewch i http://www.verabluebell.co.uk/