CLWSTWR CADWYN GYFLENWI FER

Mae’r Clwstwr Cadwyn Gyflenwi Fer wedi sefydlu ei Glwstwr cyntaf yng ngogledd-ddwyrain Cymru gyda siopau cymunedol, siopau fferm ac eraill yn stocio nwyddau a gynhyrchir yn lleol. Maent bellach yn gweithio gyda’i gilydd i wneud y gorau o’r adnoddau a rhannu arbenigedd.

Dyma oedd y Clwstwr cyntaf, a sefydlwyd yn ne-ddwyrain Cymru ac roedd yn canolbwyntio ar gysylltu siopau cymunedol a siopau fferm gyda thyfwyr a chynhyrchwyr lleol. Gwnaeth cyfarfod cyntaf y Clwstwr gynnig cyfleoedd ar gyfer stocio cynnyrch lleol, gan gael effaith gadarnhaol ar leihau milltiroedd o’r pridd i’r plât, ar unwaith.

Sefydlwyd yr ail Glwstwr rhanbarthol yng ngorllewin canolbarth Cymru gyda chanlyniadau tebyg ac mae trydydd Clwstwr wedi ei drefnu ar gyfer lansiad ym mis Tachwedd, yn nwyrain canolbarth Cymru.

Mae’r Clystyrau hyn yn eithaf organig ac maent wedi cael eu datblygu’n unigol i fod i fudd i’r holl gynhyrchwyr bwyd lleol, nid garddwriaethwyr yn unig. Mae aelodau wedi cydweithio a sefydlu cysylltiadau sy’n addas ar gyfer eu graddfa cynhyrchu eu hunain, bach neu fawr, y math o allfeydd adwerthu yn y rhanbarth, ac i wneud y defnydd gorau o’r arbenigedd sydd ar gael yn rhanbarth bob Clwstwr, ac rydym yn hyderus y bydd hyn yn parhau.

Wrth symud ymlaen, byddem yn disgwyl y bydd yna fwy o gydweithio rhwng y Clystyrau yn y grŵp 201 i ddatblygu cadwyni cyflenwi bychain, ac rydym yn teimlo, y byddai, efallai o fudd i’r diwydiant i gael cyfarfodydd rhanbarthol bychain i symud hyn yn ei flaen. Cynhaliwyd enghraifft dda o hyn dros yr haf gan Lywodraeth Cymru ym Mhenarlâg.