Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd

Enw Tarddiad Gwarchodedig Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd

Cyflwyniad

Llongyfarchiadau! Ar ôl llawer o waith caled ac amser, bu i “Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd” ennill statws Enw Bwyd a Warchodir gan yr Undeb Ewropeaidd (EUPFN) a statws Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO) ar 19eg Chwefror 2019.

Mae’r dynodiad PDO yn golygu:-

Bod rhaid i bob agwedd ar gynhyrchu, gan gynnwys tarddu deunyddiau, gymryd lle yn yr ardal ddaearyddol. Rhaid cynhyrchu, prosesu a pharatoi’r cynnyrch mewn ardal benodol.

Ethos y Cynllun EUPFN yw ei fod yn gynllun cynhwysol. Mae hyn yn golygu bod gan unrhyw dyfwr sy’n bodloni Manyleb Cynnyrch “Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd” ac yn cael ei archwilio yn ei herbyn yr hawl i ddefnyddio’r enw.

Gweler Manyleb Cynnyrch ar gyfer PDO “Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd” drwy ddilyn y ddolen ganlynol.

Enw’r bwyd a warchodir: Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd

Dylid cynnal archwiliad bob 1-3 blynedd.

Y Corff Arolygu enwebedig i gynnal yr archwiliad yw:-

Tîm Diogelwch Bwyd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyfeiriad: Swyddfeydd Dinesig

Bae Colwyn

Conwy

LL29 8AR

e-bost:    foodsafety-healthandsafety@conwy.gov.uk

Ffôn: 01492 575218

Mae angen i holl dyfwyr “Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd” fodloni gofynion logo a labelu yr EUPFN fel y nodir isod.

Gofynion Logo a labelu Enw Bwyd a Warchodir gan yr Undeb Ewropeaidd.

 Mae defnyddio logo’r PDO yn orfodol i farchnata cynnyrch sy’n gofrestredig fel PDO. Rhaid i’r logo ddangos yn yr un cylch gweld â’r enw gwarchodedig.  Gellir defnyddio’r termau ‘Enw Tarddiad Gwarchodedig’, neu’r byrfodd cyfatebol ‘PDO’ yn ogystal â’r logo.

Gellir lawrlwytho logos argraffadwy o wefan y Comisiwn Ewropeaidd. Dilynwch y ddolen isod:

http://ec.eur opa.eu/agriculture/quality/schemes/logos/index_en.htm

Dyma ofynion eraill sydd i’w hystyried wrth ddefnyddio’r logo:

  • Teipograffeg: – Rhaid defnyddio’r ffont Times Roman mewn priflythrennau ar gyfer yr ysgrifen
  • Maint lleiaf symbolau’r Undeb yw 15 mm mewn diamedr, fodd bynnag, gellir ei leihau i 10 mm mewn achosion o becynnau neu gynnyrch bach.

Atodiad A

Rhaid tyfu ‘Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd’ yn ardal ddaearyddol ddynodedig Dyffryn Clwyd yn Sir Ddinbych fel y nodir isod.

Rhan (i)

Mae’r PDO (Enw Tarddiad Gwarchodedig) yn cwmpasu’r wardiau/perllannau canlynol;-

  1. a) Aberchwiler
  2. b) Bodfari,
  3. c) Cefn Meiriadog,
  4. d) Clocaenog,
  5. e) Cyffylliog,
  6. f) Dinbych,
  7. g) Efenechdyd,
  8. h) Henllan,
  9. i) Llanbedr Dyffryn Clwyd,
  10. j) Llandyrnog,
  11. k) Llanelidan,
  12. l) Llanfair Dyffryn Clwyd,
  13. m) Llangynhafal,
  14. n) Llanrhaeadr yng Nghinmeirch,
  15. o) Llanynys,
  16. p) Nantglyn,
  17. q) Rhuddlan
  18. r) Rhuthun,
  19. s) Llanelwy,
  20. t) Trefnant ,
  21. u) Tremeirchion Cwm
  22. v) Waen
  23. w) a ward Llansannan.

Rhan (ii)

Rhaid i bob coeden ffrwythau gael ei hymgysylltu â’r wardiau/perllannau priodol

  1. a) Aberchwiler,
  2. b) Bodfari,
  3. c) Cefn Meiriadog,
  4. d) Clocaenog,
  5. e) Cyffylliog,
  6. f) Dinbych,
  7. g) Efenechdyd,
  8. h) Henllan,
  9. i) Llanbedr Dyffryn Clwyd,
  10. j) Llandyrnog,
  11. k) Llanelidan,
  12. l) Llanfair Dyffryn Clwyd,
  13. m) Llangynhafal,
  14. n) Llanrhaeadr yng Nghinmeirch,
  15. o) Llanynys,
  16. p) Nantglyn,
  17. q) Rhuddlan
  18. r) Rhuthun,
  19. s) Llanelwy,
  20. t) Trefnant ,
  21. u) Tremeirchion Cwm
  22. v)
  23. w) a ward Llansannan

e.e.

Lleoliad y ward Rhif adnabod y goeden unigol Sylwadau:
Ward A) Aberchwiler A.a) 01 – 20

Atodiad B – Manyleb Ffrwyth a Choeden Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd

Ffrwyth

Mae gan ‘Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd’ y nodweddion canlynol yn ddibynnol ar a oes angen yr eirinen at ddibenion coginio a’i chynaeafu ganol Awst cyn ei bod wedi aeddfedu neu a yw’n eirinen bwdin lle gaiff yr eirinen aros i aeddfedu ar y goeden a’i chynaeafu yn hwyr ym mis Awst neu’n gynnar ym mis Medi.

Coginio

  • Eirinen yn gadarn i’w theimlo
  • Maint 65mm hyd at 45mm o ben y coesyn i’r pen arall
  • 55mm hyd at 40mm ar draws y diamedr
  • Lliw orennaidd-cochaidd gyda mannau melyn pan fo’r eirinen yn dechrau aeddfedu.
  • Gwawr gŵyr yn dechrau dangos
  • Y tu mewn yn gadarn ac yn lliw melyn cyfoethog gydag arlliw o felyngoch-gwyrdd
  • Y tu mewn yn glynu ar y garreg

Pwdinau

  • Eirinen yn dechrau meddalu pan gaiff ei gwasgu’n ysgafn
  • Maint 65mm hyd at 45mm o ben y coesyn i’r pen arall
  • 55mm hyd at 40mm ar draws y diamedr
  • Siâp – Sfferaidd neu ychydig yn eliptaidd.
  • Lliw – coch cyfoethog sydd ag arlliw o borffor, gyda brychni euraid. Mae ffrwythau’n tywyllu’n naturiol wrth i’r ffrwyth aeddfedu.
  • Eirin wedi’u gorchuddio â gwawr gŵyr (gwawr wynnaidd weledol) sy’n datblygu po hiraf y cânt eu gadael ar y goeden.
  • Tu mewn sy’n naturiol feddal a llawn sudd sydd â lliw melyn cyfoethog gydag arlliw oren-gwyrdd.
  • Tu mewn – hanner glynu at y garreg yn unig.
  • Nifer cymedrig o ffrwyth fesul kg 9-15 (cymedr 12)
  • Prawf Brix (mesur melyster) 16-19.

Manyleb Coeden

Coeden; Brigau syth ar goeden fach i ganolig, dim arwydd o unrhyw ddaliad i lawr neu ganghennau’n gogwyddo tuag i lawr fel Victoria oni bai ei bod yn drwm iawn gyda chnwd. Crachgoed yn rhydd o’r gwreiddiau, hyd yn oed o beth pellter oddi wrth y goeden, hyd at 3-4m. Mae coed ar y cyfan yn epilio o’r crachgoed hyn ac nid trwy drawsblannu er bod epilio trwy drawsblannu yn dderbyniol. Rhisgl yn llwyd tywyll ac yn esmwyth pan nad yw wedi’i ddifrodi.

Deilen: Gwyrdd tywyll, ddim yn fawr, ddim yn gogwyddo tuag i lawr ond yn syth a llydan. Edrych yn iach ac o bosibl yn gallu gwrthsefyll y pryf glas, gan fod rhai amrywiaethau eraill a welwyd ar y diwrnod yn llawn pla.

Atodiad C

Gofynion Sicrhau Ansawdd ‘Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd’ – Eirin Pwdin

Gofyniad Sut y mesurir
Maint 45mm – 65mm o ben y coesyn i’r pen arall  templed
Maint 40mm hyd at 55mm ar draws y diamedr  templed
Lliw – coch cyfoethog sydd ag arlliw o borffor. Mae ffrwythau’n tywyllu’n naturiol gydag oedran Siart liw
Nifer cymedrig o ffrwythau/kg 9-15/kg Cyfrif a defnyddio clorian wedi’i graddnodi
Prawf Brix 16-19 Rhoi pwlp o’r eirinen yn y lliain caws a gwasgu allan y sudd. Profwyd gan ddefnyddio reffractomedr.

 Gofynion Sicrhau Ansawdd ‘Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd’ – Eirin Coginio

Gofyniad Sut y mesurir
Maint 45mm – 65mm o ben y coesyn i’r pen arall  templed
Maint 40mm hyd at 55mm ar draws y diamedr  templed
Lliw- pan fo’r eirinen yn dechrau aeddfedu, – oren -coch gyda mannau melyn Siart liw
Nifer cymedrig o ffrwythau/kg 9-15/kg Cyfrif a defnyddio clorian wedi’i graddnodi

Matrics Hyfforddi Prif Gynhyrchwyr

Teitl y Cwrs Dyddiad y Cwrs Maes llafur y cwrs a gyflwynwyd Pwy Gyflwynodd Tystysgrif hyfforddiant a gyflawnwyd
e.e. Plâu ac Afiechydon Sylfaenol        
Tocio        
Hylendid        
Olrheiniadwyedd        
         
Cofnod Cynnal Gofal Coed

Rhif Adnabod y Safle

Cyfeirnod OS/GPS

Rhif Adnabod y Goeden Wedi’u lleoli yn y wardiau fel y rhestrwyd yn Atodiad A Gweithgaredd Dyddiad y Gweithgaredd Sylwadau
           
Enw Tarddiad Gwarchodedig Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd

Cofnod Cynaeafu

Wedi’u lleoli yn y wardiau fel y rhestrwyd yn

Atodiad A

Rhif Adnabod/Tag y Goeden Dyddiad Cynaeafu Cyfanswm y cnwd fesul coeden Cyfartaledd y

cnwd fesul coeden fesul tymor

Rhif Adnabod y Casglwr Cod y Bin Defnydd Bwriadedig Ffrwyth yn bodloni gofynion sicrhau ansawdd fel y rhestrwyd yn Atodiad C Storio
              Coginio Pwdinau Maint Lliw Nifer cymedrig o ffrwythau/kg

Prawf melyster Brix Arolygiad cyn storio wedi’i gynnal Tymheredd <25oC Amser 10 diwrnod