GALWAD AGORED – RHANNWCH HANES EICH BUSNES YN ADDASU YN YSTOD COVID-19

Mae hon yn alwad agored i’n holl aelodau. Rydym yn awyddus i ddeall a rhannu sut ydych chi wedi ymdopi yn ystod y misoedd heriol diwethaf. Gwyddom eich bod yn gwerthfawrogi clywed hanesion ynglŷn â sut mae eraill wedi ymdopi, ac mae’n gyfle i ni rannu eich profiadau gyda Llywodraeth Cymru. Byddwch yn cael eich cynnwys mewn stori newyddion ar ein gwefan, a fydd yn cael ei rhannu ar draws ein sianelau cyfryngau cymdeithasol. Byddwn hefyd yn anfon rhan ohoni yn ein cylchlythyr e-bost.

Os ydych yn awyddus i gymryd rhan, cysylltwch ag Emma, ein Swyddog Cyfathrebu drwy e-bost.

Bydd Emma yn trefnu i gysylltu â chi ar amser sy’n gyfleus i chi, i drafod:

  • Sut/ os ydych chi wedi newid model eich busnes
  • Sut ydych chi wedi addasu’r hyn rydych yn ei dyfu neu ei werthu eleni, a sut ydych chi’n cynllunio ar gyfer 2021
  • Sut ydych chi wedi llwyddo i gadw eich hun, eich staff a chwsmeriaid yn ddiogel
  • Yr heriau rydych yn eu hwynebu wrth symud ymlaen, a sut y gellir eu cefnogi