Bu i ni gyfarfod Alan Jones yn 5 Acre Nursery, Tal-y-bont.
Mae Alan wedi bod yn rhedeg y feithrinfa yn Nyffryn Conwy ers 10 mlynedd.
Mae Alan yn tyfu perlysiau, gwlâu blodau, llysiau a phlanhigion blynyddol yn ei feithrinfa a gardd farchnad ynghyd â choed ffrwythau, basgedi crog a photiau.
Fel busnes cynaliadwy, mae Alan yn ailddefnyddio ei wastraff i greu compost a dywedodd mai ei brif fusnes yw planhigion yn hytrach na llysiau.
Dywedodd “Gardd farchnad oedd yn arfer bod ar y safle yma, dyma pam bod y coed ffrwythau yma. Pan ddois i yma gyntaf, roeddwn yn tyfu tomatos a chiwcymbr ond mae yna lot o waith efo hynny, Maen nhw’n cymryd amser i dyfu. Mae yna fwy o fasnach mewn planhigion oherwydd gallwch eu tyfu mewn hambwrdd ac maent yn cymryd llai o le”.
“Ond mae’r hydref yn gyfnod tawelach, y gwanwyn sydd brysuraf gyda phlanhigion ar gyfer gwlâu blodau. Dwi wedi bod wrth fy modd yn garddio erioed. Mae’n rhaid fy mod i’n 10 oed pan gawson ni ardd gyntaf ac roeddwn yn arfer helpu fy mam.” Ychwanegodd: “ Dyma fy mreuddwyd. Roedd yn freuddwyd gennyf gael rhedeg meithrinfa.” Am fwy o wybodaeth, chwiliwch am 5 Acre Nursery ar Facebook neu ewch i www.5acrenurseries.co.uk