Ymestyn Cyfnod Silff mewn garddwriaeth: Canllaw ymarferol i fusnesau

Ymestyn Cyfnod Silff mewn garddwriaeth: Canllaw ymarferol i fusnesau

 

Ynglŷn â’r canllaw hwn

Cyfnod silff yw’r cyfnod y bydd cynnyrch yn parhau i fod yn addas i’w werthu a’r cyfnod y gellir bwyta bwydydd heb i hynny arwain at broblemau i iechyd pobl.

Ar gyfer tyfwyr, hanfod hyn yw cynnal ansawdd trwy gyfrwng arferion amaethu da a chynllunio cynaeafu, gan sicrhau wedyn fod eu cynnyrch yn cyrraedd y cwsmer yn y cyflwr gorau posibl drwy gydol y flwyddyn, trwy becynnu, storio a chludo effeithiol.

Diben y canllaw hwn yw cyflwyno gwybodaeth ymarferol i fusnesau garddwriaethol ar gyfer ystyried ffyrdd o ymestyn cyfnod silff eu cynnyrch. Mae’n un o blith cyfres o ganllawiau ymarferol i fusnesau sydd wrthi’n cael eu llunio gan Garddwriaeth Cymru.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae’r golled mewn proffidioldeb oherwydd dirywiad neu wastraff ffrwythau a llysiau yn amrywio rhwng 4.8% a 15% o werthiannau siopau. (Buzby et al. 2015; Buck & Minvielle, 2013)

 

  1. Ffactorau sy’n effeithio ar gyfnod silff
  2. Ansawdd a ffresni
  • Aeddfedrwydd wrth gynaeafu. Mae’r dasg o bennu dyddiadau cynaeafu cywir ar gyfer gwahanol fathau o fwydydd yn debygol o amrywio ar draws gwahanol ranbarthau. Gall cynnyrch a gaiff ei hel ar yr adeg anghywir ddirywio a chrebachu ac efallai na fydd ei weadedd na’i flas cystal ag y dylent fod.
  • Pellter i’r farchnad. Ar y cyfan, po bellaf yw’r farchnad, po hiraf a gymer i’r cynnyrch gyrraedd. Mae hyn yn dibynnu ar y math o gludiant a ddefnyddir. Fodd bynnag, pan fo modd datblygu galw ymhlith cwsmeriaid lleol, fe fydd hyn yn sicrhau y bydd modd danfon y cynnyrch yn gyflym a dibynnu llai ar becynnu a storio.
  • Prosesu a chadw. Pan fo cynnyrch ffres yn cael ei ddefnyddio fel cynhwysyn, er enghraifft mewn jam, gall effeithio ar oes y cynnyrch terfynol. Mae sychu a dadhydradu’n ddulliau a ddefnyddir i gadw cynnyrch, a gallant hefyd leihau costau cludo trwy wneud y cynnyrch yn ysgafnach.
  1. Pecynnu

Mae pecynnu’n gam pwysig yn y siwrnai rhwng y tyfwr a’r cwsmer. Swyddogaeth graidd pecynnu yw sicrhau y gellir storio cynnyrch a’i ddanfon i gwsmeriaid yn ddiogel ac yn y cyflwr gorau posibl.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i ddeunydd pecynnu bwyd gynnwys gwybodaeth a rhybuddion arbennig, yn cynnwys tarddiad y cynnyrch, ei radd, dyddiad defnyddio olaf, cynhwysion, gwybodaeth am alergenau, cyfarwyddiadau agor a storio, a gwybodaeth faethol. Ymhellach, rhaid iddo gael ei wneud o ddeunydd gradd bwyd cymeradwy.

Rhoddir sawl dull gwahanol ar waith i ymestyn cyfnod silff, yn cynnwys:

  • Pecynnu trwy Addasu’r Atmosffer (MAP). Dyma ddull pecynnu sy’n cynnwys y gymysgedd iawn o ocsigen, carbon deuocsid a nitrogen er mwyn cadw ffresni’r cynnyrch. Gall peiriannau pecynnu nwy fod yn gostus.
  • – Mae Pecynnu dan Wactod yn golygu selio’r cynnyrch mewn pecyn aerdyn a chael gwared â’r aer cyn i’r pecyn gael ei selio. Trwy leihau lefel yr ocsigen, cyfyngir ar y dirywiad a ddaw i ran y cynnyrch yn sgil micro-organeddau ac ocsideiddio (sy’n peri i afalau droi’n frown, er enghraifft). Er bod peiriannau pecynnu dan wactod yn gymharol rad, gall yr arfer anffurfio rhai cynhyrchion ac effeithio ar eu hymddangosiad.
Mae Garddwriaeth Cymru yn bwriadu llunio canllaw ymarferol i fusnesau’n ymwneud ag ychwanegion gwyrdd a glân ar gyfer ymestyn cyfnod silff. Bydd y canllaw hwn yn cynnwys mwy o wybodaeth am ddefnyddio ychwanegion naturiol mewn garddwriaeth.
  • Pecynnu Gweithredol. Dyma ddull lle y caiff pethau ychwanegol fel bagiau bychain, ychwanegion neu labeli eu cynnwys yn/ar y pecyn er mwyn ymestyn cyfnod silff y cynnyrch neu fonitro ansawdd y cynnyrch. Caiff y dull hwn ei ddefnyddio’n fwyaf cyffredin i gadw ffresni cynnyrch trwy sugno ocsigen, arogl neu leithder. Mewn sawl achos, nid oes angen ychwanegu cemegau neu sefydlogyddion i ymestyn cyfnod silff, a chaiff dulliau gwyrdd, glân, naturiol eu defnyddio fwyfwy.
    • Deunydd Pecynnu Cludo. Dyma’r deunydd pecynnu allanol sy’n amddiffyn y deunydd pecynnu a ddaw i gysylltiad uniongyrchol â’r cynnyrch. Mae’n bwysig i’r cynnyrch gael ei drin a’i storio’n briodol ar hyd y gadwyn gyflenwi, a dylai gwybodaeth ddigonol gael ei chynnwys ar y deunydd pecynnu cludo/allanol er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd.

Fodd bynnag, mae deunyddiau pecynnu untro’n creu gwastraff, a dylid cymryd camau i rwystro hyn. I gael gwybodaeth fanylach am becynnu, mae Garddwriaeth Cymru wedi llunio canllaw o’r enw Deunydd Pacio ar gyfer Garddwriaeth a thaflen ffeithiau o’r enw Deunydd Pacio Pydradwy, a gellir cael gafael ar y ddau yn rhwydd ar-lein.

  1. Storio a chludo

Mae cadw’r tymheredd a’r lleithder ar lefel briodol wrth storio a chludo yn hollbwysig ar gyfer ymestyn cyfnod silff cynnyrch ffres.

Yn gyffredinol, gellir ymestyn cyfnod silff cynnyrch ffres pan gaiff ei storio ar 0 gradd Celsius. O ran lleithder, gall yr ystod gorau amrywio, gan ddibynnu ar y cynnyrch dan sylw.

 

Oeddech chi’n gwybod?

Gall cynnydd o 10 gradd mewn tymheredd leihau cyfnod silff cynnyrch ffres ddwywaith neu deirgwaith drosodd. (A. Kader & R. Rolle 2004)

Yn ddelfrydol, dylid oeri cynnyrch ffres cyn neu ar ôl ei becynnu, gan ei storio ar y tymheredd a’r lleithder gorau hyd nes y caiff ei ddanfon at y cwsmer.

Gellir defnyddio dulliau oeri gwahanol:

  • Oeri mewn ystafell. Caiff y dull hwn ei ddefnyddio fel arfer wrth storio cynnyrch fel tatws a bresych mewn ystafell oer.
  • Caiff yr arfer o becynnu cynnyrch ffres â rhew wedi’i falu ei chyfyngu i gynnyrch na chaiff ei niweidio trwy ddod i gysylltiad uniongyrchol â rhew.
  • Hydro-oeri. Dyma ddull lle y caiff cynnyrch sy’n gallu goddef dŵr ei chwistrellu â dŵr neu ei roi mewn dŵr.
  • Caiff oeri mewn gwactod ei ddefnyddio fel arfer ar gyfer llysiau deiliog, fel letys.
  • Oeri ag aer. Mae’r dull hwn yn golygu chwythu aer oer trwy gynhyrchion sydd wedi’u pecynnu mewn bocsys neu finiau palet. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o gynhyrchion.

Gellir cymryd camau ychwanegol i reoli lleithder, yn cynnwys: rheoli symudiad yr aer a’r awyriad, gorchuddio lloriau â dŵr, a defnyddio technegau rhwystro lleithder wrth storio a chludo.

Wrth gludo, dylid cadw’r tymheredd ar lefel briodol. Dylid pentyrru llwythi mewn modd a fydd yn galluogi’r aer i gylchredeg ac osgoi niwed i’r cynnyrch. Dylid oeri’r cerbydau cyn eu llwytho. Dylid osgoi unrhyw oedi rhwng oeri a llwytho. Dylid sicrhau’r tymheredd gorau wrth gludo gwahanol fathau o gynhyrchion ffres, a gellir defnyddio gorchuddion inswleiddio i amddiffyn cynhyrchion pan fo’r tymheredd yn is na’u trothwy.

Mae Garddwriaeth Cymru yn bwriadu llunio canllaw ymarferol i fusnesau’n ymwneud ag effeithlonrwydd ynni a lleihau carbon. Bydd y canllaw hwn yn cynnwys mwy o wybodaeth am reoli’r defnydd o ynni mewn garddwriaeth.

Wrth storio a chludo mae’n hanfodol mesur a monitor tymheredd y cynnyrch yn rheolaidd, yn hytrach na mesur tymheredd yr aer. Mae cynnal tymheredd a lleithder priodol yn hanfodol ar gyfer ymestyn cyfnod silff cynnyrch ffres.

Mae oeri a chludo cynnyrch yn defnyddio ynni. Mae ynni sy’n deillio o danwydd ffosil yn gollwng carbon ac yn cyfrannu at newid hinsawdd. Rhagwelir y bydd costau ynni’n codi, felly mae’n hanfodol ystyried effeithlonrwydd ynni drwy gydol y broses hon.

  1. Rhestr wirio

Atgoffâd sydyn o’r materion hollbwysig y sonnir amdanynt yn y canllaw yw’r rhestr wirio hon. Nid rhestr o bethau y mae’n rhaid eu gwneud mohoni; yn hytrach, bwriedir iddi gael ei defnyddio ochr yn ochr â’r dolenni a’r cyfeiriadau i gyfarwyddo eich gwaith ymchwil eich hun wrth ystyried eich dewisiadau ar gyfer ymestyn cyfnod silff.

     A ydych yn cynaeafu eich cynnyrch ar yr adeg orau? Gall y cyfnod cynaeafu iawn amrywio ar gyfer gwahanol fathau o gynhyrchion, ac mewn gwahanol ranbarthau. Hefyd, gall patrymau tywydd anodd eu rhagweld effeithio ar gynlluniau, a dylid ystyried hyn hefyd.

     A allwch gynyddu cyfran eich cynnyrch a werthir yn lleol? Gall yr amser a gymer i gludo cynnyrch i’r farchnad fod yn allweddol. Ar y cyfan, gorau po leiaf o amser a dreulir yn cludo cynnyrch, a gall cynnyrch sydd wedi’i ‘dyfu’n lleol’ ychwanegu gwerth.

     A yw’r deunydd pecynnu a ddefnyddiwch yn addas i’r diben? A yw’n amddiffyn y cynnyrch yn ddigonol ac yn sicrhau ei fod yn cyrraedd y cwsmer yn y cyflwr gorau posibl? A yw ailgylchu a/neu ailddefnyddio gan y cwsmer wedi cael ei ystyried?

     A ydych yn gwneud y gorau o faint a phwysau? Gall y cynnyrch a’r deunydd pecynnu gymryd lle gwerthfawr ar y silff a gall ei bwysau cyffredinol arwain at ddefnyddio mwy o danwydd a chynyddu costau cludo.

     A ydych wedi ystyried ffyrdd naturiol o gadw cynnyrch ffres ac osgoi gwastraff? Mae cyfnod silff yn hollbwysig o ran atal gwastraff deunyddiau pecynnu a bwydydd. Yn sgil diddordeb aruthrol cwsmeriaid yn y maes, mae ychwanegion gwyrdd, glân a naturiol i’w cael fwyfwy erbyn hyn.

     I ba raddau yr ydych yn monitro tymheredd a lleithder? Wrth storio a chludo cynnyrch ffres, yn aml rhaid ei drin mewn ffordd arbennig. Trwy fonitro’r cynnyrch yn rheolaidd, gellir sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn effeithiol.

     A ydych wedi ystyried ffyrdd o wella effeithlonrwydd ynni wrth storio a chludo? Gall oeri a chludo cynnyrch ffres ddefnyddio llawer o ynni a thanwydd. Rhagwelir y bydd costau ynni’n cynyddu’n sylweddol, felly dylid adolygu hyn yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y costau’n cael eu cadw mor isel ag y bo modd trwy weithredu’n effeithlon.

 

  1. Diolchiadau a darllen pellach.

Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn y canllaw hwn yn gywir a chyfredol ar yr adeg y cafodd ei ysgrifennu. Yn anochel, bydd pethau’n newid – datblygiadau mewn technoleg, newyddbethau, newidiadau mewn deddfwriaeth. Mae busnesau garddwriaethol yn wynebu heriau unigryw, ac mae gan nifer ohonynt anghenion unigol, felly ein gobaith yw y gellir defnyddio’r canllaw hwn ochr yn ochr â’ch gwaith ymchwil eich hun er mwyn eich helpu i gymryd camau i ymestyn cyfnod silff eich cynnyrch.

Mae’r canllaw hwn yn un o blith cyfres o ganllawiau ymarferol y mae Garddwriaeth Cymru yn eu llunio ar gyfer y diwydiant. Mae’r rhain i’w cael yn rhwydd ar-lein: https://horticulturewales.co.uk/cy/adnoddau/packaging-and-waste-reduction/

Dyma adnoddau ar-lein eraill a all eich helpu ar eich ffordd. Cliciwch ar y dolenni i fynd at y gwefannau allanol.

Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol eraill

Mae amrywiaeth enfawr o erthyglau i’w cael ar-lein, a rhestrir ambell un defnyddiol isod:

Cyhoeddwyd yn 2019 gan: Garddwriaeth Cymru, https://horticulturewales.co.uk/cy/

Comisiynwyd gan: Jane Edwards, Garddwriaeth Cymru

Awdur ac ymchwil: Iain Cox – Ecostudio, www.ecostudio.org.uk