Garddwriaeth Cymru yn peintio Darlun Nadoligaidd gyda Busnesau Lleol!

Mae prosiect Garddwriaeth Cymru Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cefnogi busnesau bach ‘sy’n cefnogi’r gymuned leol’ y Nadolig hwn gyda chasgliad o arddangosfeydd ffenestri Nadoligaidd.

Bydd y ffenestri addurnol yn amlygu’r siopau sy’n cefnogi cymunedau ac yn hyrwyddo eu tyfwyr a chynhyrchwyr lleol.  Mae amrywiaeth o siopau ledled Cymru yn hyrwyddo a gwerthu cynnyrch lleol, ac wedi derbyn cymorth gan Garddwriaeth Cymru drwy ‘glwstwr cadwyn gyflenwi fer.’

Mae’r ffenestri wedi cael eu dylunio i arddangos ymdrechion siopau a gefnogir gan Garddwriaeth Cymru sy’n gweithio’n galed i helpu cynhyrchwyr lleol, wrth leihau milltiroedd bwyd a chynnig yr ansawdd gorau i gwsmeriaid.

Mae Rob Standring, perchennog ‘Rhydymwyn General Stores’, yn Sir y Fflint, yn stocio ystod o nwyddau a hanfodion bob dydd, ac mae’n frwd dros gefnogi cynhyrchwyr lleol, gan werthu Sudd Afal Organig Bryn Cocyn a gefnogir gan Garddwriaeth Cymru.

Dywedodd: “Rwy’n falch o fod yn cefnogi ystod o gynhyrchwyr lleol, ac mae ein cwsmeriaid wrth eu bodd â hynny hefyd.  Gwnaethom agor yn 2017 ac rydym wedi gweithio’n galed i fod yn ganolbwynt ar gyfer y gymuned leol, gwrando ar ein cwsmeriaid, a darparu llwyfan i fusnesau lleol fod yn llwyddiannus.

“Rydym newydd gael ein henwebu ar gyfer ein hail ‘Rural Oscar’, ac mae ‘cefnogi’r gymuned leol’ yn rhan fawr o hynny. Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn mwynhau gweld ein ffenestr Nadoligaidd!”

Dywedodd Laura Gough, Rheolwr Datblygu Busnes ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Mae hyn yn ffordd wych o ddangos i bobl pa mor bwysig yw hi i siopau lleol hyrwyddo ‘cadwyni cyflenwi byrion’, a chefnogi ein tyfwyr a chynhyrchwyr lleol.

“Mae gennym hefyd entrepreneur dylunio ifanc, Megan Stokes, o Megan Stokes Illustration, yn gweithio gyda ni ar y prosiect hwn sy’n arddangos ei doniau artistig ac yn cael y siopau hyn yn ysbryd yr ŵyl.

“Mae Megan yn un o raddedigion Glyndŵr y mae ei gwaith trawiadol yn cael cryn argraff. Rydym yn frwd dros weithio gyda graddedigion fel hi, i feithrin sgiliau a chreu cyfleoedd i bawb.”

Ychwanegodd Megan; “Rwy’n ddarlunydd o Wrecsam. Rwy’n darlunio llyfrau plant, printiau, cardiau, ffabrig a chomisiynau wedi’u personoli ac rwyf hefyd yn gwerthu gwaith mewn ffeiriau crefft lleol.

“Pan glywais am y prosiect am y tro cyntaf, roeddwn yn teimlo’n gyffrous iawn gan fy mod yn frwd dros gefnogi’r gymuned leol a busnesau bach, yn enwedig adeg y Nadolig! Yn artist fy hun, rwy’n gwybod pa mor anodd y gall rhedeg busnes fod gyda chystadleuwyr ar-lein, ond gyda chymaint o gynnyrch unigryw ac amrywiol ar eich stepen drws, pam siopa yn unrhyw le arall?”

Lleoliad arall y byddwn yn gweld ei ffenestri wedi’u goleuo’r Nadolig hwn yw Tŷ Pawb yn Wrecsam, a fydd hefyd yn ymuno â’r dathliadau drwy gynnal marchnad Nadolig ‘pop-up’ ar gyfer ‘Clwstwr Cadwyn Gyflenwi Fer’ Garddwriaeth Cymru.

Cynhelir y farchnad yn ystod mis Rhagfyr, a bydd ymwelwyr yn gallu prynu o’r stondinau sy’n gwerthu ystod o nwyddau gan gynhyrchwyr lleol a gefnogir gan Garddwriaeth Cymru a’r Tîm Gwella Entrepreneuriaeth.

Dywedodd David Cupit, Rheolwr Gweithrediadau Tŷ Pawb: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i’n marchnad Nadolig ‘pop-up’ a gweld ein harddangosfa baentiedig hyfryd.”

Yn Sir Ddinbych, bydd Siop Pwllglas ger Rhuthun -enillwyr Gwobr Siop y Flwyddyn Gwobrau ‘Farm Shop and Deli’ 2017 – yn croesawu cwsmeriaid gyda ffenestr Nadoligaidd arall, gan ddathlu blwyddyn lwyddiannus arall o fod ‘ar gyfer y gymuned, o’r gymuned.’

Dywedodd y Rheolwr, Rhian Jones: “Rydym mor falch o’n llwyddiannau wrth ‘gefnogi’r gymuned leol’, yn gynhyrchwyr a thyfwyr, ac o fod wrth wraidd bywyd y pentref drwy roi cyfleoedd i gymaint o bobl a busnesau lleol.”

Os ydych yn dyfwr neu gynhyrchwr lleol, neu’n dymuno stocio cynnyrch ar gyfer eich busnes, gall Garddwriaeth Cymru gynnig cymorth am ddim.  Mae’r Tîm Gwella Entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cefnogi mentrau lleol, gan eu helpu i dyfu, a hyrwyddo cynwysoldeb, dysgu a chreadigrwydd wrth weithio ag eraill.

Mae’r prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yn darparu cymorth ymarferol i fusnesau garddwriaeth Cymru, ac yn amlygu pwysigrwydd cynaliadwyedd i dyfwyr a chynhyrchwyr lleol mewn cymunedau ledled Cymru. Mae hefyd yn annog datblygu cadwyni cyflenwi byrion rhwng cynhyrchwyr a thyfwyr, ac mae’n helpu i leihau gwastraff plastig untro.

I ddarganfod mwy am Garddwriaeth Cymru, cysylltwch â’r tîm ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn uniongyrchol: horticulturewales@glyndwr.ac.uk Ffôn: 01978 293401

I ddarganfod mwy am Gwella Entrepreneuriaeth, cysylltwch â’r tîm ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn uniongyrchol: enhance@glyndwr.ac.uk Ffôn: 01978 293558

NODIADAU I OLYGYDDION

Lluniau wedi’u hatodi.  Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Laura Gough ar 01978 293401, neu e-bostiwch: horticulturewales@glyndwr.ac.uk

Gallwch ddod o hyd i waith Megan Stokes yn: www.meganstokesillustration.co.uk.

www.etsy.com/uk/shop/MeganStokesDraws

a @meganstokesillustration ar Instagram

Wedi’i sefydlu yn 2008, mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn brifysgol ifanc, fentrus ac uchelgeisiol wedi’i lleoli yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae gan y brifysgol ddau gampws yn Wrecsam, Plas Coch a Stryd y Rhaglaw, yn ogystal â champysau yn Llaneurgain a

Llanelwy. Yn 2017, dyfarnwyd gwobr arian i’r brifysgol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu am ansawdd yr addysgu.

Mae’r brifysgol yn hybu rhagoriaeth academaidd drwy ystod eang o gyrsiau arloesol, sy’n berthnasol i ddiwydiant, megis Gwyddoniaeth Gymhwysol, Cyfrifiadura, Peirianneg, y Celfyddydau Creadigol, Troseddeg a Seicoleg.

Mae Glyndŵr Wrecsam ymhlith y 100 Prifysgol Uchaf yn y DU, gan godi 45 safle yng Ngwobrau Dewis y Myfyrwyr WhatUni.  Mae strategaeth 2025 y Campws yn cwmpasu cynlluniau ar gyfer llety myfyrwyr a maes parcio newydd a chyfleusterau gwell dros y chwe blynedd nesaf.