CROESO
A ydych chi’n fusnes garddwriaethol yng Nghymru?
A oes angen cyngor, cymorth neu arweiniad arnoch?
Rydym ni yma i helpu tyfwyr a chynhyrchwyr i leihau gwastraff a gwella oes silff, cynaliadwyedd ac elw.
Cawn ein hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a gallwn roi cymorth, cyngor a chyfarwyddyd am ddim a chyfeirio eich busnes at ffynonellau cyllid. Rydym yma hefyd i hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth, hybu cydweithio yn y maes garddwriaeth yng Nghymru, ac i helpu i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi.