Cynllun peilot ffermio fertigol i ogledd Cymru

Mae cais i ffermwyr, garddwyr a thyfwyr ar draws gogledd Cymru i gofrestru ar gyfer cynllun peilot newydd sy’n cael ei lansio yn hwyrach yn y mis. Tech Tyfu yw’r cynllun ffermio fertigol cyntaf o’i fath yn y rhanbarth a bydd yn galluogi ffermwyr i ddatblygu ffyrdd arloesol o dyfu cnydau heb bridd.

Yn brosiect Menter Môn, bydd Tech Tyfu yn dosbarthu pecynnau fydd yn gyfle i dyfwyr roi cynnig ar ddefnyddio technoleg hydroponeg, all maes o law chwarae rôl bwysig wrth gynhyrchu bwyd i’r dyfodol. Bydd cefnogaeth ar gael i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y prosiect i ddatblygu’r dechnoleg i siwtio eu busnesau nhw gyda fforwm rhannu sgiliau ble bydd cyfle i gyfnewid profiadau a dysgu. Bydd y cynllun hefyd yn edrych ar ddatblygu cadwyn cyflenwi posib ar gyfer y cynnyrch sy’n cael ei dyfu.

Dafydd Gruffydd yw Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn. Mae’n egluro mwy am Tech Tyfu: “Tra bod ffermio fertigol yn fwy cyffredin mewn llefydd trefol – mae gan y systemau hyn botensial sylweddol ar gyfer gogledd Cymru hefyd. Mae ffermwyr yn deall cadwyni cyflenwi a marchnadoedd yn lleol ac yn aml mae ganddynt fynediad at adeiladau addas ar gyfer unedau hydroponeg. Yn ogystal â’r potensial arall gyfeirio yn ystod y cyfnod wedi Brexit rydym yn credu hefyd bod ffermio hydroponeg yn gyfle i  ffermwyr a thyfwyr gyrraedd marchnadoedd newydd gwerth uchel gyda nifer cynyddol o fwytai safon uchel sydd ar gael ar draws gogledd Cymru erbyn hyn.”

Luke Tyler sy’n arwain ar y prosiect. Wedi graddio mewn coedwigaeth mae bellach yn  cwblhau doethuriaeth mewn gwyddoniaeth planhigion a’r amgylchedd. Dywedodd: “Gall hydroponics defnyddio cyn lleied â 10% o ddŵr o’i gymharu â thyfu a garddio arferol sy’n golygu y gallwn fod yn fwy gwdyn wrth i ni wynebu’r tywydd eithafol sy’n digwydd yn fwy aml o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Ac wrth i ni fod yn fwy ymwybodol o’r camau sydd rhaid i ni eu cymryd i leihau ein heffaith ar yr hinsawdd bydd y prosiect hwn yn help i ni hefyd feddwl yn wahanol am sut rydym yn cynhyrchu bwyd a thyfu cnydau. Trwy ddarparu pecynnau i bobl sy’n awyddus i edrych ar y posibiliadau y mae ffermio fertigol yn eu cynnig mae’n golygu eu bod yn gallu rhoi cynnig arni gyda chefnogaeth a heb y risgiau y byddent yn eu hwynebu wrth fentro i’r maes ar eu pen eu hunain.”

Fel rhan o lansiad  Tech Tyfu bydd dau ddigwyddiad gwybodaeth yn cael eu cynnal – un yn M-SParc, Gaerwen, Ynys Môn ar y 27 o Chwefror ac un yng Nglynllifon ger Caernarfon ar y 3ydd o Fawrth. Am wybodaeth bellach gall pobl sydd â diddordeb yn y rhaglen gysylltu gyda Luke yn Menter Môn luke@mentermon.com.

Mae Tech Tyfu yn cael ei redeg gan Menter Môn ac yn derbyn arian Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020 sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.