Lleihau gwastraff yn ystod y cam manwerthu

Mae lleihau gwastraff yn y cam manwerthu yn hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd ac elw. Ychwanegir cost i bob cam o’r gadwyn gyflenwi, felly mae colledion yn y cam terfynol hwn yn fwy costus nag unrhyw bwynt arall. Mae’r canllaw hwn wedi ei anelu at ffermwyr a thyfwyr sy’n manwerthu’n uniongyrchol â chwsmeriaid, gyda ffocws penodol ar stondinau marchnad a siopau fferm, ond mae hefyd yn berthnasol i gynlluniau bocs a siopau annibynnol.

Cydbwyso cyflenwi a galw

Osgoi gor-gynhyrchu yw’r cam cyntaf a phwysicaf mewn lleihau gwastraff yn y cam manwerthu, ond haws dweud na gwneud. Mae amrywiadau yn y tywydd yn effeithio ar gynnyrch, ac mae plâu a haint hefyd yn effeithio’n gadarnhaol a negyddol; Gall cyflyrau’r farchnad newid yn gyflym (yn fwy diweddar o ganlyniad i gyfyngiadau Covid 19); ac mae nifer o dyfwyr fel arfer yn cynnwys ‘meincnod diogelu’ sylweddol yn eu cynlluniau tyfu i osgoi diffygion, a gallant gael eu cosbi’n drwm oherwydd hynny mewn rhai cadwyni cyflenwi.

Un dull yw amrywio marchnadoedd, fel y gellir gwerthu cynnyrch dros ben i ofynion manwerthu i’r farchnad gyfanwerthu. Fel arall, gellir ymdrin â’r broblem drwy’r broses gwerth ychwanegol (Gweler Canllaw Rhif 5 am fanylion).

Gall rhagweld galw fod yn heriol. Mae gan nifer o gynlluniau bocs sylfaen gwsmeriaid graidd gyda ‘thueddiadau’ rhagweladwy, sy’n golygu bod amcangyfrif niferoedd yn rhwydd (ond yn ystod cyfnodau cyntaf pandemig COVID 19, gwelodd nifer o gynlluniau bocs fod y galw yn codi hyd at 500% dros gyfnod o 2 fis). Mae’n anodd rhagweld marchnadoedd ffermwyr a siopau fferm gan eu bod nhw’n dibynnu ar fasnach gan gwsmeriaid sy’n cerdded heibio. Mae ychydig o ymchwil ddiweddar ar dueddiadau cenedlaethol, fodd bynnag, fel arfer mae marchnadoedd unigol yn cynnal eu hastudiaethau eu hunain i ragweld nifer y cwsmeriaid, faint fydd bob cwsmer yn ei wario, elw a dangosyddion perfformiad allweddol eraill, ac felly’n debygol o fod y ffynhonnell wybodaeth orau. Efallai bydd tyfwyr a stondinwyr eraill yn fodlon rhannu gwybodaeth â chi.

Graddio

Mae graddio’n chwarae rhan bwysig mewn sicrhau bod cynnyrch sy’n cyrraedd y farchnad o ansawdd priodol. Mae Canllaw Rhif 6, ‘Graddio a phecynnu’ yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar dechnegau graddio a golwg gyffredinol ar safonau ansawdd. Bydd deall gofynion eich cwsmer penodol, yn enwedig eu goddefiannau ynghylch meini prawf ansawdd penodol, yn eich helpu chi i wneud penderfyniadau graddio gwybodus i gynyddu elw a lleihau gwastraff. Er enghraifft, mae cwsmeriaid sy’n cefnogi cynnyrch fferm lleol a werthir yn uniongyrchol yn fwy goddefgar o gynnyrch di-siâp, o faint gwahanol ac sydd ddim yn ddeniadol i’r llygaid, o gymharu â chwsmeriaid archfarchnadoedd.

Cynyddu trosiant

Y ffordd bwysicaf i leihau gwastraff yn y cam manwerthu yw adeiladu a chynnal trosiant cyflym o’r gwerthiannau, fel bod cynnyrch yn cael ei arddangos am gyn lleied o amser â phosib. Amlinellir y pwyntiau allweddol isod, a cheir rhagor o wybodaeth yn y ‘Cit Offer Gwerthu Bwyd yn Uniongyrchol’ gan Sgiliau Bwyd Cymru..

Ymddangosiad cyffredinol

Y stondinau mwyaf deniadol yw’r rhai mwyaf llwyddiannus fel arfer. Sicrhewch fod yr arwyneb amlwg yn lân a thaclus; defnyddiwch liain bwrdd (gyda’ch enw wedi’i argraffu arno) neu liain hesian i orchuddio’r bwrdd; sicrhewch eich bod chi eich hun yn daclus – efallai byddai edrychiad tyfwr gweithgar yn apelio at rai cwsmeriaid, ond mae ‘ffasiwn ffarmwr’ yn ddewis gwell.

Arwyddion clir

Mae arwyddion clir yn bwysig a deniadol. Mae buddsoddi mewn labeli wedi’u dylunio’n dda yn ddewis doeth. Dylent ddangos beth yw’r cynnyrch a’i bris cyn unrhyw beth arall. Efallai byddai’n ddefnyddiol gwneud awgrymiadau ar sut i goginio a gweini rhai cynnyrch, er enghraifft ‘Pwmpen cnau menyn – bendigedig ar ôl ei rostio gydag olew olewydd a pherlysiau ffres’ – yn enwedig os ydych yn gwerthu perlysiau ffres!

Byddai’n well rhestru’r cynnyrch sydd ar gael ar fwrdd calch neu fwrdd gwyn, er mwyn i gwsmeriaid allu gweld y cynnig yn syth. Mae rhai masnachwyr yn gosod eitemau yn lle’r cynnyrch sydd wedi gwerthu allan. Mae hyn yn awgrymu bod eich cynnyrch yn gwerthu’n gyflym a bod cwsmeriaid ‘angen ei brynu nawr tra ei fod ar gael’, gan greu dolen adborth gadarnhaol all helpu i gynyddu eich trosiant.

Dylunio eich stondin

Mae dylunio stondin neu arddangosfa siop yn canolbwyntio’n bennaf ar greu argraff o ddigonedd ac amrywiaeth. Nid yw hyn yn golygu arddangos llawer o gynnyrch, ond yn hytrach, arddangos y stoc sy’n cyd-fynd â maint eich stondin a’r basgedi/cynhwysyddion arddangos sydd gennych, er enghraifft:

  • Gosodwch y cynnyrch mewn pentwr yn hytrach na’i osod ar hyd y bwrdd
  • Sicrhewch fod eich cynhwysyddion yn llawn bob amser Sicrhewch fod gennych ystod o fasgedi maint gwahanol, a phan fydd stoc yn isel, trosglwyddwch gynnyrch i gynhwysyddion llai a lleihau maint yr arddangosfa ar y cyfan
  • Gosodwch eitemau i hongian ar reilen pan fo angen e.e. clwstwr o nionod a garlleg, i greu’r argraff bod eich stondin yn orlawn

Mae arddangosfa yn hynod ddeniadol, a byddwch yn denu sylw wrth osgoi creu ‘wal werdd’ gyda’ch cynnyrch. Byddai hefyd yn ddefnyddiol gosod cynnyrch sy’n cyd-fynd cyfochr â’i gilydd, megis tomatos a basil.

Cofiwch gynnal eich dyluniad ar ôl pennu arno, fel bod eich cwsmeriaid rheolaidd yn gwybod beth i’w ddisgwyl, lle i ddod o hyd i’r stondin, ac yn sylwi pan fyddwch yn cyflwyno rhywbeth newydd a chyffrous.

Ystod y cynnyrch

Mae cynnig amrywiaeth yn bwysig, nid o safbwynt arddangosfa yn unig, ond hefyd ar gyfer cynyddu gwerthiannau. Mae’r rhan fwyaf o bobl eisiau dod o hyd i bopeth maent eu hangen mewn dwy stondin/siop. Gallwch gyflawni hyn mewn nifer o ffyrdd:

Tyfwch amrywiaeth eang

Fel arfer mae hyn yn golygu buddsoddi mewn strwythurau cnydau dan orchudd (twneli poli neu dai gwydr) sy’n eich galluogi i dyfu mwy o gynnyrch dros gyfnod hir o amser – drwy gydol y flwyddyn yn ddelfrydol. Byddwch hefyd angen plannu’n olynol. Mae hyn yn cynnwys cynllunio manwl i sicrhau eich bod yn plannu ac yn cynaeafu ar yr amseroedd cywir, a bod yr amrywiaethau rydych yn eu defnyddio yn addas i’r tymhorau (mae tyfwyr blodfresych arbenigol yn defnyddio hyd at 9 amrywiaeth i sicrhau cyflenwad drwy gydol y flwyddyn). Ceir rhagor o wybodaeth yng Nghanllaw Rhif 1 ‘Tyfu er Ansawdd’.

Gweithio gyda chynhyrchwyr eraill

Mae nifer o fanteision i hyn: Gyda’ch gilydd gallwch gynhyrchu amrywiaeth ehangach o gynnyrch; gall tyfwyr unigol ganolbwyntio ar y cnydau maent yn eu tyfu orau; mae gweithio mewn grŵp o gynhyrchwyr yn eich caniatáu chi i gydbwyso cyfnodau prysur a distaw o fewn y broses gyflenwi; a gellir rhannu’r gwaith o staffio’r stondin neu siop rhwng nifer o bobl.

Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn cynnwys heriau; mae angen elfen o gydlynu a chynllunio i sicrhau bod y niferoedd priodol o gynnyrch cywir yn cael eu tyfu; o safbwynt gweinyddol, mae’n fwy cymhleth gan fod angen dosbarthu’r elw’n deg rhwng y grŵp; mae angen cytuno ar y polisi prisio (gweler isod) a faint o hyblygrwydd sydd gan y person ar y diwrnod i leihau prisiau i gynyddu trosiant stoc. Mae’r fideo hwn yn archwilio’r materion hyn mewn ychydig o ddyfnder.

Prynu cynnyrch mewnol gan gyfanwerthwyr

Dyma’r dewis symlaf ar gyfer cynyddu amrywiaeth cynnyrch. Fodd bynnag, mae’n bwysig sicrhau bod y cynnyrch rydych yn ei ddefnyddio yn gweddu ag ethos eich busnes a’ch negeseuon marchnata. Mae nifer o gwsmeriaid yn prynu gan gynlluniau bocs, stondinau marchnad a siopau fferm am eu bod nhw eisiau cefnogi cynhyrchwyr lleol neu system gynhyrchu benodol megis ffermio organig.

Felly, mae’n bwysig fod y cynnyrch a brynir yn bodloni meini prawf eang cyffelyb (e.e. wedi ei dyfu’n organig o fewn 50 milltir o’r fferm/marchnad). Yn aml, cynghorir i chi fod yn glir am ba gynnyrch a brynir, o le mae wedi dod a sut y tyfir ef. Bydd Marchnadoedd Ffermwyr Ardystiedig yn gofyn i chi fodloni ychydig o’r meini prawf fel amod o gael cynnal stondin. Dylech fod yn barod i egluro pam ei fod yn hanfodol i ychwanegu cynnyrch eich hun.

Prisio

Mae prisio yn elfen bwysig o gynhyrchu trosiant sylweddol, ac mae masnachwyr llwyddiannus yn defnyddio dull hyblyg. Mae gan sawl un ‘bris elw’, ac fel mae’r term yn awgrymu, dyma’r pris maent angen ei godi i sicrhau bod y busnes yn para’n hyfyw. Gall fod yn seiliedig ar gost ac elw, ond mae’r rhan fwyaf o dyfwyr yn defnyddio math o feincnod, fel prisiau archfarchnadoedd, neu ddata cyhoeddedig fel Data Pris Cynnyrch Garddwriaethol gan y Soil Association. Yn y pen draw, bydd profiad yn dweud wrthych faint mae eich cwsmeriaid yn fodlon talu

Yn ogystal, mae gan nifer o fasnachwyr bris ‘trosiant’, sef yr isafswm maent yn fodlon ei dderbyn i osgoi gorfod mynd â chynnyrch gartref neu ei gompostio. Mae masnachwr marchnad crefftus yn asesu’r stoc sy’n weddill yn erbyn cyfradd gwerthiannau drwy’r amser, ac yn addasu prisiau yn unol â hyn.

Dylid dylunio labeli gyda hyn mewn cof. Mae nifer o fasnachwyr yn defnyddio labeli wedi eu lamineiddio gyda man gwag drws nesaf i’r pris a ellir ei lenwi/ newid gan ddefnyddio pin marcio neu gyffelyb, fel sy’n briodol.

Rheoli llif cwsmeriaid

Un o’r prif resymau mae pobl yn cefnogi gwerthiannau uniongyrchol yw am eu bod nhw’n cael cwrdd â’r cynhyrchydd a gofyn cwestiynau iddynt. Mae hefyd yn bwysig i dyfwyr allu adeiladu cysylltiadau personol gyda chwsmeriaid, a chael adborth uniongyrchol am ansawdd cynnyrch, cynnyrch newydd a phrisiau. Ar yr un llaw, mae llif sefydlog a rhesymol o gwsmeriaid yn hanfodol, fel nad yw pobl yn ciwio am amser afresymol. Mae siarad ag un cwsmer, wrth wasanaethu un arall, heb ymddangos yn ddigywilydd yn sgil mae pob masnachwr marchnad angen ei feistroli.

Cadw cynnyrch yn ffres

Er mai cynyddu trosiant yw’r elfen bwysicaf o leihau gwastraff, elfen bwysig arall yw sicrhau bod yr arddangosfa yn edrych yn ffres a deniadol ar y stondin neu ar y silff:

  • Cadw popeth yn y cysgod cymaint â phosib.
  • Cylchdroi stoc – peidiwch â rhoi cynnyrch newydd ar ben hen gynnyrch
  • Defnyddiwch beiriant tarth oer i ail-gyflenwi lleithder a gollwyd a chadw cynnyrch yn ffres, yn enwedig dail gwyrdd

Adnoddau