Mae Avatar Fitness, sef canolfan ffitrwydd yn yr Wyddgrug, a’r Ganolfan Dechnoleg OpTIC ar gampws Prifysgol Wrecsam yn Llanelwy, wedi rhoi trefniant cydweithredu arloesol ar waith gydag un o brosiectau Prifysgol Wrecsam a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, sef Garddwriaeth Cymru. Nod y fenter hon yw galluogi ymwelwyr i gael gafael yn rhad ac am ddim ar ficrolysiau y gellir eu defnyddio i ychwanegu maeth at unrhyw bryd, gan fynd ati ar yr un pryd i gefnogi tyfwyr lleol ledled Sir y Fflint a Sir Ddinbych, sef y cynghorau sir sy’n berthnasol i’r prosiect.
Mae’r bartneriaeth hon yn gam ymlaen o ran hwyluso, a hyrwyddo arferion iechyd yn Avatar Fitness a’r Ganolfan Dechnoleg OpTIC. Mae cyflwyno oergelloedd clyfar sy’n llawn microlysiau maethlon a dyfir gan Garddwriaeth Cymru ar gampws Llaneurgain Prifysgol Wrecsam yn ddull arloesol o fynd i’r afael ag iechyd a chynaliadwyedd. Ystyrir yn eang bod y microlysiau hyn yn bethau iach i’w bwyta gan eu bod yn llawn maeth. Y disgwyl yw y bydd yr oergelloedd hyn yn chwyldroi’r modd y gall pobl gael gafael ar gynnyrch ffres, gan ei gwneud yn hwylus i bobl i wneud dewisiadau mwy maethlon nag erioed o’r blaen.
Prif nod y prosiect yw annog y cyfranogwyr i fyw mewn ffordd iachach, yn ogystal â chefnogi tyfwyr microlysiau lleol a chodi ymwybyddiaeth yn eu cylch – sef Fferm Tŷ Isa a Fresh & Tasty Microgreens. Gallai llwyddiant posibl y fenter hon baratoi’r ffordd ar gyfer trefniadau cydweithredu gydag ychwaneg o dyfwyr lleol yn y dyfodol – rhywbeth a fyddai o fudd i’r cyfranogwyr ac i’r gymuned ffermio leol fel ei gilydd.
Bydd y Ganolfan Dechnoleg OpTIC, sef un o gampysau Prifysgol Wrecsam a hwb canolog i nifer o fusnesau ym Mharc Busnes Llanelwy, hefyd yn cymryd rhan yn y fenter hon. “Rydym yn llawn cyffro ynglŷn â’r posibilrwydd o rymuso ein hymwelwyr i wneud dewisiadau iachach,” medd Debbie Davies, Rheolwr Busnes ac Arloesi yn y Ganolfan Dechnoleg OpTIC. “Mae cefnogi ein tyfwyr lleol yn flaenoriaeth inni, ac rydym yn ffyddiog y bydd y fenter hon yn cael effaith gadarnhaol ar ein cymuned.”
Bwriad Garddwriaeth Cymru yw defnyddio’r prosiect cydweithredu hwn i gasglu rhagor o wybodaeth am ddewisiadau ac arferion pobl mewn perthynas â chynnyrch lleol, gan gefnogi tyfwyr lleol trwy ofyn i’r cyfranogwyr lenwi arolygon byr drwy gydol yr ymgyrch.
Caiff pawb sy’n dymuno cymryd rhan yn y prosiect eu hannog i ymuno ag un o’r digwyddiadau lansio isod:
Y Ganolfan Dechnoleg OpTIC – 21 Awst, 10:00-12:00
Avatar Fitness – 21 Awst, 17:00-19:00
Gallwch ymuno â’r fenter ar unrhyw adeg ar ôl i’r oergelloedd gael eu lansio, os bydd lle ar gael – bydd yr ymgyrch yn gweithredu ar sail ‘y cyntaf i’r felin’.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://horticulturewales.co.uk/cy/faqs-terms-and-conditions/ neu cysylltwch â ni ar: Horticulturewales@wrexham.ac.uk