Mae Sarah Hughes yn rhedeg Eat My Flowers o’i fferm deuluol yng Nghae Mawr lle mae hi’n byw gyda’r gŵr, Philip a’i dau fab. Mae Philip yn gweithio i Stad Rhug a gyda’i dad ar eu fferm bîff a defaid yn Nyffryn Dyfrdwy. Daeth busnes Sarah i fodolaeth yn 2011 pan fachodd ar y cyfle i arallgyfeirio gan wella’r cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd.
Mae Sarah yn tyfu blodau y gallwch eu bwyta drwy eu crisialu ar gyfer cacennau a thoes.
“Roeddwn ni’n arfer gweithio fel cynghorydd busnes i Lywodraeth Cymru pan oedd fy mhlant yn fach iawn ond pan aethant i’r ysgol roedd rhaid i mi ddod o hyd i waith oedd yn addas ar gyfer eu nôl o’r ysgol a gwaith ar y fferm.
“Edrychais ar nifer o fusnesau posib ac fe wnes i lawer iawn o waith ymchwil. Edrychais ar osod tai gwyliau a phethau eraill. Yn Rhug, roedd fy ngŵr wedi helpu i greu ffermydd cig organig ar gyfer bwytai moethus Llundain.
“O glywed am eu profiad o gyflenwi i fwytai moethus, edrychais ar dyfu blodau ffres a oedd yn fwytadwy ond oherwydd nad ydynt yn para yn hir, meddyliais na fyddai’r model busnes yn ymarferol yn enwedig a minnau yng Ngogledd Cymru a’m cwsmeriaid yn Llundain a dinasoedd mawr eraill fel Manceinion. Mae blodau ffres yn marw. Byddai’n rhaid i mi eu gyrru i’r bwytai yn sydyn; fel arall byddent yn dda i ddim.”
Cafodd Sarah y syniad o wneud blodau wedi eu crisialu pan awgrymodd ffrind y byddai blodau oedd Sarah wedi eu gwneud ar gyfer cacen Basg yn syniad busnes da. Drwy grisialu’r blodau a’u peintio gyda gwynnwy a siwgr, roedd posib ymestyn eu bywyd o ychydig ddiwrnodau i fisoedd.
“Roeddwn i wedi gwneud gwaith ymchwil yn barod ar gyfer y busnes wrth i mi edrych ar flodau ffres bwytadwy”, dywedodd.
“Mae blodau wedi eu crisialu yn para misoedd. Does dim angen cyfleusterau storio arbennig.”
Mae Sarah yn tyfu fioledau, briallu a rhosod mewn twnnel tyfu yn ei chartref. Ar ôl crisialu’r blodau drwy eu peintio gyda llaw gyda gwynnwy a siwgr, caiff y blodau eu gwerthu i fusnesau ar draws y DU lle cant eu defnyddio ar gyfer cacennau a thoes neu mae hi’n defnyddio’r blodau ffres ar gyfer ei lolipops blodau. Mae gan Sarah gysylltiadau gyda Harrods a Gwesty’r Berkeley yn Llundain ac mae hi’n gwneud llawer iawn o waith ar gyfer digwyddiadau corfforaethol.
“Mae wedi bod yn fusnes gwych” meddai. “Mae’n hyblyg iawn a dwi’n gwybod fy mod i wedi tyfu popeth fy hun. Mae yna lot o foddhad personol i’w gael. Drwy fy ngwaith dwi wedi teithio i lefydd fel Dulyn a Dwbai. Mae yna lawer iawn o gefnogaeth i’w gael gan Lywodraeth Cymru wrth i chi gynhyrchu bwyd. Mae’n neis gwybod y gallwch dyfu pethau ar ychydig o dir a dwi’n gwneud bywoliaeth.
“Dyma fusnes y gallwch ei gychwyn heb lawer o fuddsoddiad. Mae wedi bod yn waith caled cyrraedd lle dwi wedi ei gyrraedd ond bellach mae fy ngwaith a bywyd yn cydbwyso. Mae’n fusnes cynaliadwy. Dwi wrth fy modd bob diwrnod ac yn mwynhau siarad gyda fy nghwsmeriaid o bob rhan o’r byd.”
Am fwy o wybodaeth am Eat My Flowers ewch i www.eatmyflowers.co.uk
Gallwch hefyd ddarganfod tudalen Eat My Flowers ar Facebook neu Twitter @eatmyflowers