Cysylltwch!

 

Rydym wedi cael hydref prysur!

Yn ystod y tri mis diwethaf, mae ein tîm bychan wedi teithio ar hyd a lled Cymru i’ch cwrdd –  busnesau garddwriaethol Cymru, ac megis dechrau yn unig yw hynny.

O dyfwyr ffwng a gerddi cymunedol i wasgwyr afalau a meithrinfeydd, rydym wedi cwrdd â llawer o fusnesau garddwriaethol o bob math.

Rydym wedi blasu blodau y gellir eu bwyta, yn ardal wledig Sir Ddinbych, wedi sefyll mewn mwd at ein fferau mewn esgidiau anaddas mewn ardal anghysbell yng Nghonwy, wedi mynychu seminarau garddwriaethol ac amaethyddol yng Nghaerdydd ac Aberystwyth.

Gydag arian gan Lywodraeth Cymru, rydym yn cynorthwyo busnesau garddwriaethol yng Nghymru i ffynnu drwy annog lleihau gwastraff, lleihau pecynnu, a chreu cadwyni cyflenwi byrrach.

Rydym yma i’ch cynorthwyo. Os ydych yn cofrestru ar gyfer ein prosiect, byddwn yn gwneud ein gorau i gynorthwyo eich busnes i dyfu. Rydym yn cynnig cyngor unigryw, yn gwasanaethu fel llwyfan ar gyfer busnesau i rwydweithio a sefydlu clystyrau ac yn galluogi cyswllt rhwng tyfwyr a chynhyrchwyr.

Felly, cysylltwch, os gwelwch yn dda, byddwn yn gwneud ein gorau i’ch cynorthwyo dros y misoedd nesaf a thu hwnt.