Amodau defnyddio

Mae http://www.horticulturewales.co.uk (y “Wefan”) yn safle a weithredir gan  Garddwriaeth Cymru (“GC”), un o brosiectau Prifysgol Glyndŵr. Mae’r datganiad yma o delerau ac amodau defnyddio (“Telerau Defnyddio”) yn nodi ar ba delerau y gallwch ddefnyddio’r Wefan, boed fel gwestai neu ddefnyddiwr cofrestredig yn rhyngweithio gyda defnyddwyr eraill a GC ar fforwm ar-lein GC (y “Fforwm”). Trwy ddefnyddio’r Wefan neu gael mynediad iddi, mae defnyddwyr yn cytuno i gydsynio â’r Telerau Defnyddio hyn, a fydd mewn grym yn syth ar ôl i chi ddefnyddio’r Wefan am y tro cyntaf. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, bydd y term “Gwefan” yn cynnwys y Fforwm.

Ceidw GC yr hawl i newid y Telerau Defnyddio hyn o bryd i’w gilydd. Fe’ch cynghorir felly i wirio’r Telerau Defnyddio yn rheolaidd gan y bydd eich defnydd parhaus o’r Wefan yn awgrymu eich bod wedi derbyn y Telerau Defnyddio wedi’u diwygio neu eu diweddaru.

 

1. Preifatrwydd

1.1 Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i GC ac mae unrhyw wybodaeth a roddir gennych i GC yn amodol ar Ymwadiad a Thelerau Defnyddio Preifatrwydd GC (“Preifatrwydd Telerau Defnyddio”), y gellir dod o hyd iddynt yn [INSERT LINK]. Yn sgil eich defnydd o’r Wefan, cymerir eich bod wedi darllen a derbyn Preifatrwydd Telerau Defnyddio GC ac yn cydsynio i GC gasglu a defnyddio eich gwybodaeth yn unol â’r Telerau Defnyddio Preifatrwydd hynny.

1.2 Trwy gyflwyno cyfraniad i’r Wefan, rydych yn cytuno â chymal 2 isod, ac yn benodol, rydych yn derbyn y gallai eich cyfraniad gael ei gyhoeddi ar y Wefan ac y gallai gael ei weld neu ei ddarllen gan unrhyw un yn y byd.

 

2. Rhannu cyfraniadau ar y Wefan

2.1 Yn y Telerau Defnyddio hyn, mae cyfeiriad at “gyfraniad” yn golygu unrhyw ddefnydd gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, destun, delweddau, defnydd fideo neu sain, y byddwch yn ei gyfrannu i’r Wefan trwy’r Fforwm ar gyfer pa reswm bynnag.

2.2 Trwy gyflwyno cyfraniad i’r Wefan, rydych yn gwarantu fod cyfraniad o’r fath:

2.2.1 yn waith gwreiddiol o’ch eiddo chi a bod gennych yr hawl i’w wneud ar gael i GC ar gyfer yr holl ddibenion a fanylir yng nghymal 2.3 isod; ac

2.2.2 heb fod yn torri unrhyw gyfraith.

2.3 Trwy gyflwyno cyfraniad i’r Wefan, rydych yn cytuno i roi hawl a thrwydded di-freindal, anghyfyngedig, gwastadol, is-drwyddedadwy, byd-eang i GC ddefnyddio’r cynnwys a’r wybodaeth ym mha ffordd bynnag y dymuna, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i atgynhyrchu, addnewid, addasu, cyhoeddi, cyfieithu, creu gweithiau tarddiadol o, dosbarthu, perfformio a gweithredu pob hawlfraint byd-eang a phob hawl eiddo deallusol arall yn y wybodaeth yn amodol ar ein Telerau Defnyddio Preifatrwydd.

2.4 Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae’r hawl a’r drwydded a roddir i GC o dan gymal 2.3 yn anghyfyngedig. Byddwch yn dal i feddu ar hawlfraint a phob hawl eiddo deallusol arall ym mhob cynnwys a gwybodaeth y byddwch yn eu cyfrannu i’r Wefan yn unol â chymal 2.2 a gallwch barhau i ddefnyddio cynnwys a gwybodaeth o’r fath mewn unrhyw ffordd y dymunwch, gan gynnwys rhoi caniatâd i eraill eu defnyddio.

2.5 Rydych yn cytuno i ildio unrhyw hawliau moesol yn eich cyfraniad er mwyn cyflwyno a chyhoeddi ar y Wefan.

2.6 Ni ddylech gyflwyno neu rannu unrhyw gyfraniad i’r Wefan os ydych yn gwrthwynebu rhoi’r hawl a’r drwydded i GC a amlinellir yng nghymal 2.3.

 

3. Cynnwys cyfraniadau

3.1 Mae’n rhaid i unrhyw gyfraniad a gyflwynir gennych i’r Wefan fod yn sifil a gweddus, ac wrth wneud cyfraniad, mae’n rhaid i chi gadw at y canlynol bob amser:

3.1.1 Peidiwch â chyflwyno unrhyw gyfraniadau sydd yn anghyfreithlon, yn ddifrïol, yn anweddus, yn wahaniaethol, yn aflonyddol, yn dramgwyddus neu’n ddifenwol;

3.1.2 Peidiwch â chyflwyno unrhyw gyfraniadau sydd mewn perygl o niweidio unrhyw achosion llys cyfredol neu arfaethedig;

3.1.3 Mae’n rhaid i chi gydsynio ag unrhyw waharddeb llys bob amser (er enghraifft, peidiwch â dyfalu ynglŷn â ble mae unigolyn ar ôl i lys gyhoeddi gwaharddeb yn erbyn gwneud hynny);

3.1.4 Peidiwch â chyflwyno pyst amryfal o gynnwys yr un fath neu debyg iawn er mwyn galluogi i GC gyhoeddi ystod o gyfraniadau mor eang â phosibl;

3.1.5 Peidiwch â rhegi na defnyddio rhegfeydd a allai dramgwyddo defnyddwyr eraill y Wefan. Yn arbennig, dylech gofio fod defnyddwyr o bob oedran yn darllen a chyfrannu i’r Wefan;

3.1.6 Peidiwch â chyhoeddi eich gwybodaeth bersonol na gwybodaeth bersonol unrhyw un arall mewn cyfraniad, gan gynnwys cyfeiriadau, gweithleoedd, enw sefydliad addysg, rhifau ffôn neu gyfeiriadau ebost;

3.1.7 Mae gennych hawl i hysbysebu a hyrwyddo cynnyrch neu wasanaethau neu bostio gwe-ddolenni i’r Wefan. Os ydych yn dymuno cyfrannu gwe-ddolen i’r Wefan, mae’n rhaid i chi gofrestru gyda’r Fforwm a gallwch gyfeirio unrhyw ymholiadau at horticulturewales@glyndwr.ac.uk

3.1.8 Dylai cyfraniadau gael eu gwneud yn Gymraeg neu yn Saesneg yn unig. Ceidw GC yr hawl i wrthod cyhoeddi cyfraniadau mewn unrhyw iaith arall, er y gallai cyfarchion ac anerchiadau cyffredin mewn ieithoedd eraill fod yn dderbyniol fel y gwêl GC yn ddoeth;

3.1.9 Peidiwch â dynwared unrhyw wrth wneud cyfraniad; a

3.1.10 Pheidiwch â defnyddio enwau defnyddiwr amhriodol, er enghraifft unrhyw enw defnyddiwr a allai fod yn dramgwyddus i ddefnyddwyr eraill.

3.2 Fe allai methu â chadw at delerau cymal 3.1 arwain at GC yn gweithredu yn unol â chymal 7 isod, a allai arwain at gau eich cyfrif dros dro neu’n barhaol.

 

4. Cyhoeddi cyfraniadau

4.1 Pan fyddwch yn cyflwyno cyfraniad i’r Wefan, mae’n bosibl na fydd hyn yn cael ei gyhoeddi na’i weld ar unwaith ar y Wefan ac fe allai gael ei ystyried gan gymedrolwyr GC cyn iddo gael ei gyhoeddi ar y Wefan.

4.2 Ceidw GC yr hawl i wrthod cyhoeddi, neu i ddileu unrhyw gyfraniad oddi ar y Wefan fel y gwêl yn ddoeth.

4.3 Ni fydd cyhoeddiad GC o gyfraniad ar y Wefan ac unrhyw ddefnydd a wneir ohono gan GC yn golygu fod GC yn derbyn, yn cymeradwyo neu’n cytuno â’r cyfraniad hwnnw ar unrhyw adeg, a bydd darparwr y cyfraniad i GC yn atebol bob amser (yn unol ag amodau’r Telerau Defnyddio hyn) am y cyfraniad hwnnw.

 

5. Defnyddwyr o dan 16

5.1 Mae’n rhaid i chi geisio caniatâd rhiant neu ofalwr cyn cofrestru gyda’r Wefan.

5.2 Ni ddylech ddatgelu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch eich hun nac unrhyw un arall, er enghraifft manylion eich enw llawn, ysgol, rhif ffôn neu gyfeiriad.

 

6. Eich cyfrif

6.1 Fe’ch caniateir i gofrestru un cyfrif yn unig gyda GC er mwyn cyfrannu i’r Wefan, a cheidw GC yr gawl i gau mewngofnodion amryfal.

6.2 Mae’n rhaid i chi gofrestru eich cyfrif yn defnyddio cyfeiriad ebost dilys, a thrwy gofrestru, cymerir eich bod yn cytuno i dderbyn ebyst o dro i dro gan GC er mwyn gweinyddu’r wefan.

6.3 Ni ddylech roi unrhyw wybodaeth bersonol ffug i GC er mwyn cofrestru neu greu cyfrif i unrhyw un arall ar wahân i chi’ch hun.

6.4 Ceidw GC yr hawl i ofyn i ddefnyddwyr ailddilysu eu cyfrifon o dro i dro, er enghraifft os bydd GC yn credu fod cyfeiriad ebost annilys neu gyfeiriad ebost rhywun arall wedi cael ei ddefnyddio er mwyn cofrestru.

 

7. Firysau, Hacio a Throseddau Eraill

7.1 Ni ddylech gamddefnyddio’r Wefan trwy gyflwyno firysau, ceffylau Troea, mwydod, bomiau rhesymeg neu unrhyw ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol. Ni ddylech geisio cael mynediad diawdurdod i’r Wefan, serfiwr y Wefan nac unrhyw serfiwr, cyfrifiadur neu gronfa ddata arall sy’n gysylltiedig â’r Wefan. Ni ddylech ymosod ar y Wefan trwy ymosodiad gwadu-gwasanaeth neu ymosodiad gwadu-gwasanaeth dosbarthedig.

7.2 Trwy dramgwyddo’r ddarpariaeth yma, fe allech gyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiadur 1990. Byddwn yn hysbysu unrhyw dramgwydd o’r fath i’r awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol a byddwn yn cydweithio â’r awdurdodau hynny trwy ddatgelu pwy ydych wrthynt. Yn achos tramgwydd o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio’r Wefan yn dod i ben ar unwaith.

7.3 Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu niwed a achosir gan ymosodiad gwadu-gwasanaeth dosbarthedig, firysau neu ddeunydd technolegol niweidiol arall a allai heintio eich offer cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu eiddo arall yn sgil eich defnydd o’r Wefan neu ar ôl i chi lawrlwytho unrhyw ddeunydd a bostiwyd arni, neu ar unrhyw Wefan sy’n gysylltiedig â hi.

 

8. Torri’r Telerau Defnyddio  

8.1 Os byddwch yn torri un o amodau’r Telerau Defnyddio hyn, ceidw GC yr hawl, fel y gwêl yn ddoeth, i weithredu fel y gwêl yn briodol i ddelio gyda thor-amod o’r fath. Fe allai gweithredu o’r fath gynnwys atal eich cyfrif dros dro neu ei derfynu, gwaharddiad rhag cael mynediad i unrhyw un o wefannau GC, atal unrhyw gyfrifiadur sy’n defnyddio eich cyfeiriad IP rhag cael mynediad i unrhyw un o Wefannau GC, cysylltu â’r darparwr rhyngrwyd yn gofyn iddynt eich atal rhag cael mynediad i unrhyw un o Wefannau GC, neu ddod ag achos cyfreithiol yn eich erbyn.

8.2 Ble bydd GC wedi atal eich cyfrif dros dro, bydd unrhyw ddefnydd o’r Wefan yn ystod y cyfnod yma yn cael ei ystyried fel trosedd pellach a fydd yn arwain at derfynu eich cyfrif.

8.3 Byddwch yn digolledu GC am bob hawliad, colled neu atebolrwydd sy’n deillio yn sgil tor-amod gennych chi o unrhyw un o amodau’r Telerau Defnyddio hyn.

 

9. Ymwadiad o gyfyngiad atebolrwydd

9.1 Nid yw GC yn cymeradwyo, cefnogi, cynrychioli na gwarantu llwyrdeb, gwirionedd, cywirdeb, na dibynadwyedd unrhyw ddeunydd a gyhoeddwyd neu gyfraniad a gyflwynwyd i’r Wefan os nad yw GC yn nodi i’r gwrthwyneb.

9.2 Ble bo’r Wefan yn cynnwys dolenni i safleoedd ac adnoddau eraill wedi’u darparu gan drydydd parti, darperir y dolenni hyn er eich gwybodaeth chi yn unig. Nid oes gennym reolaeth dros gynnwys y safleoedd na’r adnoddau hynny, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb drostynt nac am unrhyw golled neu niwed a allai ddeillio o’ch defnydd chi ohonynt. Nid yw GC yn cynnig unrhyw warant o gwbl ynghylch diogelwch, addasrwydd nac ansawdd unrhyw nwyddau neu wasanaethau y mae defnyddwyr yn eu hyrwyddo trwy’r Wefan os nad yw GC yn nodi’n benodol i’r gwrthwyneb.

9.3 Nid yw GC yn gwarantu y bydd mynediad i neu ddefnydd o’r Wefan yn rhydd o wallau ac ymyrraeth, y bydd unrhyw ddiffygion yn cael eu cywiro na bod Gwefan GC neu’r serfiwr yn rhydd o unrhyw firws neu haint.

9.4 Mae defnyddwyr y Wefan yn derbyn y gallant, trwy wneud hynny, ddod ar draws cyfraniadau a allai fod yn dramgwyddus, yn niweidiol, yn anghywir neu’n amhriodol mewn unrhyw fodd arall.

9.5 Ni fydd GC, i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, yn atebol ar unrhyw adeg am:

9.5.1 unrhyw golledion uniongyrchol neu anuniongyrchol a allai gael eu hachosi gennych chi o ganlyniad i’ch defnydd o’r Wefan, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i golli elw (a achoswyd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol), colli ewyllys da neu enw da busnes neu unrhyw golli data a ddioddefwyd gennych;

9.5.2 unrhyw newidiadau a wneir gan GC i’r Wefan, nac am unrhyw beidiad parhaol neu dros dro o’r Wefan;

9.5.3 dileu, llygru, neu fethu â storio unrhyw gyfraniadau neu ddata cyfathrebu arall a gynhaliwyd neu a drosglwyddwyd gan eich defnydd chi o’r Wefan;

9.5.4 unrhyw fethiant gennych chi i ddarparu GC gyda gwybodaeth gywir parthed cofrestru eich cyfrif; ac

9.5.5 unrhyw fethiant a eich rhan i gadw eich manlion cyfrif neu gyfrinair yn ddiogel a chyfrinachol.

9.6 Ni fydd unrhyw beth yn y Telerau Defnyddio hyn yn cyfyngu neu eithrio atebolrwydd GC am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ei esgeulustod neu am unrhyw atebolrwydd arall na chaniatier gan y gyfraith i’w gyfyngu na’i eithrio.

9.7 Darperir y Wefan yn ddi-dâl i bob defnyddiwr. Mewn amgylchiadau o’r fath, mae pob defnyddiwr yn cydnabod ac yn cytuno fod y cyfyngiadau a’r eithriadau a geir yn y   Telerau Defnyddio hyn yn rhesymol.

 

10. Cyffredinol

10.1 Os bydd unrhyw un o amodau’r Telerau Defnyddio hyn yn cael eu hystyried yn anghyfreithlon, yn annilys neu’n anghymelladwy mewn unrhyw ffordd arall oherwydd cyfraith unrhyw dalaith neu wlad ble bwriedir i’r Telerau Defnyddio hyn fod yn effeithiol, bydd yn cael ei thorri a’i dileu o’r Telerau Defnyddio hyn a bydd yr amodau sy’n weddill yn goroesi ac yn parhau i fod yn orfodol a chymelladwy.

10.2 Gall GC newid cynnwys, fformat neu ymddangosiad y Wefan ar unrhyw adeg. Os bydd angen, fe all GC atal mynediad i’r Wefan dros dro, neu ei chau am gyfnod amhenodol. Gall unrhyw ddeunydd ar y Wefan fod wedi dyddio ar unrhyw adeg penodol, ac nid oes rheidrwydd ar GC i ddiweddaru deunydd o’r fath.

10.3 Ni fydd unrhyw fethiant neu oediad ar ran CG wrth weithredu neu orfodi unrhyw hawl a geir yn y Telerau Defnyddio hyn yn ildio hawl GC i orfodi’r hawl honno.

10.4 Bydd amodau’r Telerau Defnyddio hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr ac eir i’r afael ac unrhyw anghydfod gan lysoedd barn Cymru a Lloegr yn unig.

10.5 Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y defnydd a geir ar Wefan GC o gwbl, neu unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r Telerau Defnyddio hyn, cysylltwch â horticulturewales@glyndwr.ac.uk