ASTUDIAETH ACHOS: ANGEL FEATHERS, MOEL FAMAU

Yn ddiweddar, cawsom gyfle am sgwrs gyda Katharine o Angel Feathers, micro-ffrwythdy yng nghalon Moel Famau, Gogledd Cymru. Buom yn sgwrsio am ei busnes a’r gwaith y mae hi wedi ei wneud gyda Garddwriaeth Cymru. Rydym ni wrth ein boddau gyda’i hanes o gymryd y cam o fod yn gyfrifydd i fod yn dyfwr a gwneuthurwr!

SOniwch am eich busnes. Pa bryd y gwnaethoch chi gychwyn a pham?

‘Sefydlwyd Angel Feathers yn 2018 ac, ar ôl blwyddyn o roi cynnig ar wahanol ryseitiau a chynhwysion botanegol, lansiodd y gwirodydd ffrwyth crefft cryfder llawn heb eu melysu yn 2019. Mae’r jin a’r fodca yn cael eu gwerthu mewn siopau annibynnol lleol ac ambell dafarn annibynnol leol.

Rydw i wedi mwynhau fforio a bwydydd organig erioed, siopa mewn siopau fferm lleol a siopau annibynnol eraill. Rydw i hefyd wrth fy modd yn tyfu coed, llwyni, planhigion a bwyd! Ers dros 20 mlynedd rydw i wedi gwneud gwirodlynnau i gyfeillion a theulu. Felly pan ddaeth awydd i newid cyfeiriad fy ngyrfa, roedd yn teimlo bod hwn yn gam da i’w gymryd. O fod yn gyfrifydd i wneuthurwr jin a fodca crefft!

Pwy sy’n rhan o’ch busnes?

Fi fy hun ydy‘Angel Feathers’ ond yn y cefndir mae fy nheulu yn gymorth mawr. O adeiladu cawell ffrwythau newydd gwych i samplo’r ffrwythau a’r blasau sy’n cynyddu o hyd!’

Beth ydych chi’n ei dyfu ar hyn o bryd?

‘Ar fy nhyddyn rwy’n tyfu coed afalau, nifer o wahanol fathau gan gynnwys nifer o’r Mathau treftadaeth, Trwyn Mochyn Môn gan Ian Sturrock, rhiwbob, mafonfwyar, mwyar duon a lafant i’r gwenyn.

Mae gen i hefyd tua 250 o goed collddail brodorol y gwnes i eu plannu tua 8 mlynedd yn ôl. Neu efallai 6 neu 12 mlynedd yn  ôl… pwy a ŵyr erbyn hyn!

O ac mae gen i ffrwythau newydd nad ydw i wedi rhoi cynnig ar eu rhoi yn y jin eto – chuckleberries, eirin Mair a rhai ffrwythau mwy newydd byth sy’n aros i gael eu plannu yn y gwanwyn… Mae arna i angen mwy o le i dyfu a chawell ffrwythau arall!!!

Caiff llawer o’r ffrwythau eu tyfu ar fy nhyddyn. Does dim plaleiddiaid yn cael eu defnyddio ac rydw i’n dilyn egwyddorion organig. Os oes arna i angen cynhwysyn nad yw’n tyfu yn hinsawdd bryniau Cymru, rwy’n rhoi amser i ddod o hyd iddo gan gyflenwr organig, moesegol ac yn dilyn y gadwyn gyflenwi yn ôl i’r ffynhonnell. Un enghraifft o hyn yw’r Mandarinau Eidaleg a ddefnyddir ar gyfer y Jin Mandarin.

Rydw i’n compostio y rhan fwyaf o’m gwastraff ac yn ail-ddefnyddio neu addasu gwastraff arall at ddibenion gwahanol.’

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer dyfodol y busnes?

‘Dros y pum mlynedd nesaf, fe fyddwn yn hoffi tyfu mwy o ffrwythau, gwneud mwy o flasau ar gyfer gwirodydd, gwerthu i fwy o fusnesau.

Rydw i’n ymwybodol iawn o fy ôl troed plastig felly rydw i’n ceisio defnyddio llai fyth o blastig untro nag yr ydw i’n ei wneud yn barod. Erbyn hyn rwy’n Hyrwyddwr Busnesau Di-blastig i Leihau Plastig yr Wyddgrug. Fy nod yw bod yn fusnes cwbl ddi-blastig cyn gynted ag y bo modd.’

Pa wahaniaeth mae bod yn aelod o arddwriaeth Cymru wedi ei wneud i’ch busnes?

‘Fe ddefnyddiais i Arddwriaeth Cymru am y tro cyntaf yn ôl ym mis Medi 2019. Cymerais ran mewn gweithdy ar gynaliadwyedd – rhywbeth sy’n bwysig iawn i mi ac i’r busnes. Fe ddysgais i lawer iawn ar y gweithdy yn ogystal â chyfarfod pobl leol anhygoel…. gan gynnwys un o sylfaenwyr Lleihau Plastig yr Wyddgrug!

Rydw i hefyd wedi cael llawer o wybodaeth yn uniongyrchol gan Isobel wrth ofyn cwestiynau lawer iddi dros yr ychydig fisoedd diwethaf! Hyd yn hyn, dim ond gwahaniaeth bach y mae’r aelodaeth wedi ei wneud gan fy mod i’n teimlo mai dim ond megis cychwyn manteisio ar eich gwasanaethau chi yr ydw i. Ambell dro, serch hynny, mae pobl wedi codi eu clustiau wrth fy nghlywed i’n dweud ‘ydw rydw i’n aelod o Arddwriaeth Cymru’. Rwy’n gobeithio gallu eu defnyddio fwy eleni. Rydw i yn y Clwstwr Cadwyn Gyflenwi Fer ac yn y Clwstwr Perllannau Treftadaeth. Dydw i ddim wedi bod yn unrhyw un o’u digwyddiadau ond rydw i’n gobeithio mynd eleni – yn enwedig os ydyn nhw’n digwydd yn lleol!’

Diolch Katharine.