Rydym wedi ein hysbrydoli gan Tam, Paul a’u teulu o Blanhigfa Ystwyth. Heb lawer o brofiad garddwriaethol – ‘nid oeddem yn gwybod y gwahaniaeth rhwng begonia a phetwnia’, symudodd y teulu o Gaint i Gymru er mwyn dechrau ar eu hantur deuluol, ecogyfeillgar, oddi ar y grid. Wedi gweld yr hyn y maent wedi ei gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym yn edrych ymlaen at weld beth fyddant yn ei gyflawni yn y dyfodol.
Cawsom sgwrs yn ddiweddar gyda Tam i drafod sut ddechreuodd y fenter, eu gwaith gyda ni a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Diolch Tam!
Dywedwch wrthym am eich busnes. Pryd ddechreuoch chi, a beth oedd wedi eich ysgogi?
‘Wel, roedd y blanhigfa eisoes wedi ei sefydlu pan ddes i ar ei thraws ar werth tua’r un amser ag yr oeddem wedi penderfynu dechrau bywyd newydd yng Nghymru. Rydym yn dod o Gaint, ac roedd Paul wedi bod yn gweithio yn ardal y dociau ers dros ddegawd. Roeddem wedi symud i ran bellaf ein hardal lle roeddem yn medru cael tŷ gweddol am yr arian, ond nid oedd yn ffordd o fyw a oedd yn gost effeithiol, ac roedd gennym ddyledion mawr, heb unrhyw syniad sut i ddod â’r gylchred o gronni mwy i ben.
Rydym wastad wedi bod eisiau symud i Gymru. Buom yn ystyried y rhagolygon o aros lle roeddem ni (gyda theulu a ffrindiau yn agos, y diogelwch o gyflog rheolaidd, hyd yn oed os nad oedd yn ddigon, a’r cysur o fod yn rhywle cyfarwydd) cyn sylweddoli bod pethau ond am fynd yn anoddach wrth i amser fynd yn ei flaen o safbwynt arian, nid yn well. Biliau cyfleustodau oedd y broblem fwyaf o bell ffordd, ond yr ardal Aer Glân o amgylch Llundain yn ehangu oedd yr hoelen olaf yn yr arch – roedd yn golygu y byddem yn gwario hyd yn oed yn fwy er mwyn i Paul allu cyrraedd ei waith. Roedd yn gwbl anymarferol. Symud i Gymru oedd y datrysiad symlaf (os nad yr hawsaf) i bopeth.
Pan anfonodd Paul hysbysiad am y blanhigfa ata i (Tam), bu bron imi ei ddiystyru’n llwyr – prin yr oeddem yn medru garddio! Heb sôn am y ffaith y byddai’n rhaid inni fyw mewn carafán ar y tir (a oedd yn anodd o safbwynt cyfreithiol a chaniatâd cynllunio, ond cafodd popeth ei sortio yn y diwedd), byddai’n rhaid inni hefyd osod systemau cwbl oddi ar y grid ar gyfer popeth, a byddai’n rhaid inni gydio mewn busnes nad oedd gan yr un ohonom brofiad ohono. Ond rydym wastad wedi bod o’r farn nad oes unrhyw beth sy’n amhosib i’w ddysgu os ydych wir eisiau ac yn barod i wneud y gwaith, a’r meddylfryd hwn sydd wedi ein caniatáu i dynnu ein plant o’r ysgol a dechrau eu haddysgu o adref. Gyda help y rhyngrwyd a meddylfryd cadarn, roeddem yn gwybod y byddai popeth yn disgyn yn ei le. Ond, rydym hefyd wedi cael llawer o help ar hyd y ffordd – gan Busnes Cymru, Garddwriaeth Cymru, a llawer mwy sydd nawr yn ffrindiau annwyl iawn. Ni fyddem wedi gallu gwneud hynny heb yr holl gefnogaeth.’
Dywedwch wrthym am eich tymor cyntaf ym Mhlanhigfa Ystwyth
‘Roedd ein tymor plannu a basged cyntaf, a ddechreuodd gyda’n Gŵyl Gwanwyn Blynyddol cyntaf ym mis Ebrill 2019, yn wers aruthrol. Fel pobl nad oedd yn medru dweud y gwahaniaeth rhwng begonia a petwnia cynt, daethom yn wybodus yn gyflym ynghylch gwahanol amrywiaethau o blanhigion, a dechreuom dyfu tipyn go lew o amrywiaethau o hadau. Roedd yn wych darganfod ein bod yn medru tyfu planhigion mewn niferoedd mawr, ac yn mwynhau gwneud hefyd, a bod ein cariad tuag at ein babanod bach gwyrdd yn trosi i blanhigion iach, wedi eu tyfu’n organig, ac sy’n cael eu canmol gan ein cwsmeriaid, gyda rhai yn dweud bod yr ansawdd yn well na rhai o’n cystadleuwyr mawr. Rydym yn grediniol bod planhigion yn ymwybodol o phan maent yn cael eu gofalu amdanynt a’u caru, ac yn ymateb yn unol â hynny. Rydym wedi gweld gwahaniaeth ynddynt ar adegau pan rydym wedi gorflino a heb roi digon o sylw iddynt.
Rydym wedi arbrofi llawer yn ystod y flwyddyn gyntaf gyda gwahanol ffyrdd i wella ein hincwm, gan gynnwys gwerthu glo a thanwydd, offer ac ategolion garddio, hadau a bylbiau, ffeiriau cist car a marchnadoedd crefftau. Ond erbyn diwedd y flwyddyn, sylweddolom fod pobl yn dod yma ar gyfer y planhigion. A chompost. A dyna ni. Felly, mae ein cynlluniau ar gyfer 2020 yn llawer symlach na’n cynlluniau yn 2019 – tyfu ein hystod o blanhigion parhaus, cynyddu amrywiaeth o blanhigion plannu a basged ar gyfer yr haf, a thyfu ystod graidd o flodau organig sy’n rhydd rhag mawn ar gyfer pryfed peillio yn ein rôl newydd fel aelodau o’r Cynllun Arbed Pryfed Peillio gan Brosiect Tyfu’r Dyfodol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Rydym wedi bod yn bobl eco-ymwybodol ers amser maith ac er nad oeddem wedi ystyried ein hunain fel tyfwyr planhigfa, rydym yn falch iawn o fod mewn sefyllfa nawr i chwarae ein rhan o le mor bwerus. Nid yn unig mae gennym y cyfle i helpu ein cymuned i gefnogi tyfu organig, rhydd rhag mawn, a’u hannog i ddewis planhigion sy’n gwneud i’w gerddi edrych yn hardd YN OGYSTAL Â bod o fudd i bryfed peillio, ond mae nifer o bobl hefyd yn ein holi ynghylch ein systemau oddi ar y grid, ac rydym wedi cael y fraint o drafod gyda phobl sydd â diddordeb sut gallant fynd ati i ychwanegu’r elfennau hyn i’w bywydau a’u busnesau. Rydym yn teimlo, i ryw raddau, ein bod yn rhan o newid sydd angen digwydd yn y byd, os ydym am i genedlaethau’r dyfodol gael byd hardd a chadarn i fyw ynddo. Dyma sydd y tu ôl i holl gynlluniau ac amcanion ein busnes a’n bywydau.’
Pwy sy’n ymwneud â’ch busnes?
‘Dim ond Paul a fi, gydag ychydig o help gan y plant fel rhan o’u diddordebau addysg o adref. Mae Ethan, ein mab hynaf, yn mwynhau gwaith ymarferol ac unrhyw beth sy’n ymwneud â pheirianneg. Mae Leon, ein hail fab, yr un mor hapus yn helpu i sortio potiau sy’n cael eu dychwelyd ag y mae yn plannu hadau. Ac mae gan ein merch ieuengaf, Leela, ddiddordeb entrepreneuraidd fel ei mam, yn plannu planhigion ar ei phen ei hun i’w gwerthu, yn ogystal â phlanhigion bwyd inni fel teulu gyda help Paul.’
Beth ydych chi’n eu tyfu ac yn eu gwerthu ar hyn o bryd?
‘Ar hyn o bryd, mae gennym ychydig o bopeth ar y safle – ychydig o blanhigion parhaus, ychydig o lasbrennau coed, planhigion llysiau a rhai planhigion alpaidd. Rydym hefyd yn stocio planhigion y mae modd eu rhoi fel anrheg, fel planhigion sy’n blodeuo’n gynnar yn y gwanwyn a phlanhigion alpaidd mewn hen botiau terracota a chrochenwaith sydd wedi eu huwchgylchu, sy’n berffaith ar gyfer unrhyw achlysur fel anrhegion hirhoedlog ecogyfeillgar. Mae gennym hefyd ychydig o fylbiau’r gwanwyn yn barod ar gyfer basgedi Sul y Mamau hardd pan fyddwn yn ail-agor ar ôl gwyliau’r gaeaf ar 6 Mawrth.
Nid ydym yn arbenigo mewn unrhyw amrywiaeth o blanhigyn penodol ar hyn o bryd, er ei fod yn rhywbeth sydd yng nghefn ein meddyliau o hyd. Fel y soniais, rydym yn bwriadu cynyddu ein hystod o blanhigion parhaus sydd yn benodol addas ar gyfer ein rhanbarth uchel sydd â phridd asidig, cyflwyno ein hystod o blanhigion blodau organig Cynllun Arbed Pryfed Peillio, ac wrth gwrs, ystod dda o blanhigion plannu a basged yr haf a hefyd planhigion llysiau ar gyfer ein cwsmeriaid sydd wrth eu bodd yn y rhandir.
Beth yw eich cynlluniau hirdymor ar gyfer y busnes a lle hoffech i’ch busnes fod mewn 5 mlynedd?
Mae ein cynlluniau hirdymor ar gyfer ein busnes yn cynnwys mwy na’n planhigion yn unig. Ynghyd â thwneli poli a thŷ gwydr ar gyfer tyfu, rydym hefyd eisiau manteisio ar ein lleoliad hynod o hardd a chynyddu elfen ddigwyddiadau’r busnes. Roedd ein marchnadoedd crefftau, a ddechreuwyd yn 2019, yn eithaf llwyddiannus, yn argoeli’n dda ac yn cael cefnogaeth dda gan ein cymuned. Er na fyddwn yn cynnal marchnadoedd misol mwyach, rydym yn bendant am barhau â ffeiriau tymhorol.
Ein harddangosfeydd nesaf dros fisoedd yr haf yw taflu bwyell a saethyddiaeth, ynghyd ag ystafell de allanol. Bydd trwydded alcohol a phergola yn ein galluogi i agor bar awyr agored ar gyfer nosweithiau hir yr haf, ac rydym wir yn hoff o’r syniad o gynnal Nosweithiau Meic Agored. Mae ein hincwm o werthu planhigion yn gostwng yn syfrdanol o ganol mis Gorffennaf a byddai hyn yn sicrhau incwm ychwanegol drwy ail hanner y flwyddyn.
Erbyn 2025, rydym yn gobeithio cyrraedd pwynt lle mae gennym bod glampio wedi ei osod yng nghefn y tir yn yr ardal goediog, ac yn cynnal priodasau ecogyfeillgar yr ydym am geisio eu haddurno’n llwyr o ddeunyddiau naturiol – o flodau sydd wedi eu tyfu ar y safle ac anrhegion gwledd y mae modd eu plannu a chonffeti hadau blodau gwyllt.’
Beth wnaethom â Phlanhigfa Ystwyth?
Daeth Issie, ein Swyddog Datblygu Prosiect, i gyfarfod Tam am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2019. Cyflwynodd hi gyflenwr cyfanwerthol newydd iddynt sydd wedi cael effaith fawr ar eu busnes, rhannodd fanylion o aelodau eraill sydd oddi ar y grid er mwyn iddynt gysylltu â nhw a hefyd cyflwynodd hi’r teulu at Gymdeithas Tyfwyr Ceredigion, Tyfu, a chyllid a hyfforddiant arall. Rydym hefyd wedi rhannu eu cynnwys ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol er mwyn hyrwyddo eu busnes. Maent hefyd yn aelodau o’n Clwstwr Cadwyn Gyflenwi Fer.
Pa wahaniaeth y mae bod yn aelod o Arddwriaeth Cymru wedi ei wneud i’ch busnes?
‘Mae Garddwriaeth Cymru yn ein cynrychioli ni’n wych gyda chyfoeth o gyfleoedd nad oeddem yn ymwybodol ohonynt. Pe byddai Issie heb roi gwybodaeth Planhigfa King’s inni, byddem wedi cael tymor plannu a basged cyntaf anodd iawn, a’r rheswm pam ein bod wedi cael Gŵyl Wanwyn lwyddiannus.
Rhoddodd y drafodaeth CAT y cyfle inni gwrdd â thyfwyr eraill o’r un anian â ni, trafod ein profiadau a hyrwyddo ein planhigfa fechan. Mae’r ffaith bod Garddwriaeth Cymru wedi helpu drwy ein hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol yn bendant wedi ychwanegu credadwyaeth i’n busnes ac wedi helpu i gynyddu faint o gwsmeriaid rydym yn eu cyrraedd. Weithiau, mae rhai pethau nad ydych yn eu gwybod, ac felly y mae hi, a dyna beth sy’n gwneud Garddwriaeth Cymru yn adnodd mor werthfawr ar gyfer ffyliaid fel ni.’
Beth yn eich barn chi yw’r cyfleoedd mawr ar gyfer Garddwriaeth yng Nghymru? A pha wahaniaeth gall Garddwriaeth Cymru ei wneud?
‘Gan ein bod yn eithaf newydd i’r byd garddwriaeth yn gyffredinol, nid ydym yn teimlo fel ein bod yn medru datgan barn ar hyn yn ormodol.
Fodd bynnag, o ran y cyfleoedd a welwn o’n safbwynt cyfyngedig, rydym yn teimlo bod llawer o le i wella tir Cymru – yn enwedig ardaloedd a ddefnyddir ar gyfer ffermio gwartheg a defaid yn bennaf. Dylai anifeiliaid cnoi cil fod yn bwyta amrywiaeth o lystyfiant, nid gwair yn unig, a byddai annog ffermwyr i ychwanegu perlysiau a blodau addas, yn ogystal â choed a phlanhigion brwyn i’w caeau gwair, yn cael effaith sylweddol ar iechyd eu hanifeiliaid, yn creu mwy o fwyd ar gyfer pryfed peillio ac yn cynyddu amrywiaeth y bywyd gwyllt er mwyn effeithio’n gadarnhaol ar ecosystemau brodorol.
Mae gennym farn debyg ar gnydau grawn. Nid yw’n cael ei dderbyn (na’i ddeall hyd yn oed) ond tra bod grawn yn “hawdd” i’w dyfu ac yn cael ei gymorthdalu gan y rhan fwyaf o lywodraethau, nid yw’n ffynhonnell fwyd iach iawn, ar gyfer anifeiliaid sy’n pori na phobl. Mae nifer cynyddol o bobl yn y byd yn dewis osgoi grawn (yn aml gelwir y mudiad yn bwyta Paleo neu Gysefin) ac yn bwyta mwy o ffrwythau a llysiau, a blawd wedi ei greu o gnau, cnau coco, tapioca ayyb. Gwelais welliant personol yn fy symptomau awtoimiwnedd drwy beidio â bwyta grawn, ac mae astudiaethau wedi profi bod hyd yn oed mwy o bobl gyda system dreulio iach nad ydynt yn profi symptomau o achos bwyta gwenith, yn dangos bod tocsinau mewn gwenith yn achosi adweithiau niweidiol i’r perfedd am amser sylweddol ar ôl ei fwyta. Mae wedi cael ei gysylltu’n uniongyrchol gydag ystod eang o glefydau, yn enwedig clefydau awtoimiwnedd, ystod o gyflyrau nad ydynt yn cael diagnosis yn ddigon aml, o ecsema i MS, sy’n effeithio ar filiynau o bobl pa un a ydynt yn ymwybodol ai peidio. Gallaf argymell amrywiaeth o lyfrau a gwefannau ar y pwnc hwn.
Heb anghofio am y defnydd cynyddol o gnydau GMO, effeithiau negyddol ungnwd ar y pridd, a’r nifer o gemegau gwenwynig sy’n cael eu defnyddio, sy’n cael effeithiau difrifol ar bryfed peillio a bywyd gwyllt eraill yn ogystal â’r adnoddau dŵr ffo. Mae’n glir nad cnydau grawn yw’r ffordd orau o fwydo pobl. Byddai annog ffermwyr i ailgyflenwi eu caeau yn naturiol gyda gwrtaith gwyrdd, cylchdroi cnydau a thyfu planhigion bwydydd sy’n ffynnu’n naturiol yn eu lleoliad yn mynd yn bell iawn wrth leihau problemau erydu pridd, marwolaethau pryfed peillio yn ogystal â thyfu bwyd go iawn ar gyfer pobl. Mae adar i fod i fwyta hadau gwair; mae ganddynt yr ensymau treulio angenrheidiol i ddelio â’r tocsinau; nid yw pobl, nac hyd yn oed gwartheg yn medru gwneud hynny. Yn syml, nid oes gennym y galluoedd biolegol angenrheidiol i’w prosesu.
Pe byddai yna ffordd y gallai Garddwriaeth Cymru yn medru helpu, byddai’n debygol o fod drwy ymchwil (lle bo angen, mae’n siŵr fy mod yn pregethu i’r cadwedig!) ac yn addysgu ffermwyr ynghylch arferion a ffyrdd gwell o barhau i wasanaethu eu cymunedau wrth hefyd wasanaethu eu tir ac yn diogelu eu bywoliaethau ar yr un pryd.’