ASTUDIAETH ACHOS: The Sustainable Weigh, Caernarfon

Fy enw i yw Dan, a fi yw perchennog Siop y Glorian yng Nghaernarfon yng ngogledd Cymru, ac rydym yn siop fwyd moesegol, wedi seilio ar helpu pobl i leihau eu defnydd o blastig, lleihau eu gwastraff bwyd a siopa’n fwy lleol.
Dwi wedi gweithio yn y maes rheoli manwerthu bwyd a manwerthu ers blynyddoedd ond mae fy ngwraig a minnau wedi bod â diddordeb mewn tyfu bwyd ein hunain erioed. Mae gennym ni dir, ac anifeiliaid adref, felly dyma’r ffordd o uno fy mhrofiad masnachu bwyd a’r pethau rydym yn frwd drostynt ac sydd o ddiddordeb i ni.

Rydym yn gwerthu ystod o ffrwythau a llysiau, amrywiaeth o fwydydd wedi sychu, felly grawnfwyd, reis, pasta.
Rydym yn gwerthu barau lleol ffres, a chacenni, hadau a phecynnau ichi dyfu pethau eich hun.
Rydym yn gwneud ystod o bethau ar wahân i fwyd, fel bariau siampŵ ac ail-lenwadau ar gyfer hylifau’r cartref, felly ystod eang o bethau i roi dewis arall gwych i bobl yn hytrach na siopa yn yr archfarchnad.

Felly, yn y tymor byr, rydym ond newydd agor y safle yma, rydym ond newydd symud yma ychydig fisoedd yn ôl. Felly i ni, mae’n bwysig ein bod yn canolbwyntio ar ei gwneud hi drwy’r gaeaf cyntaf, dysgu am beth mae ein cwsmeriaid ei eisiau, oherwydd mae pobman ychydig yn wahanol.
Ac yna yn yr hirdymor, rydym am dyfu, dod o hyd i fwy o opsiynau gwych i gwsmeriaid, yn bendant gydag ystod fwy eang o ffrwythau a llysiau, mae digon o gynnyrch lleol y gallwn weithio â nhw, ond hefyd, bara ffres a phethau felly, ac mae llwyth o eitemau ar wahân i fwyd y gallwn ei wneud hefyd.
Felly mae llwyth o gyfleoedd inni dyfu.

Mae’r rhan fwyaf o’r cyswllt rydym wedi ei gael â Garddwriaeth Cymru wedi dod drwy Izzie, sydd wedi dod i’n gweld ni dro ar ôl tro ac wedi bod yn frwdfrydig iawn dros uno gwahanol rannau o’r gadwyn cyflenwi bwyd.
Rhoddodd Izzie ni mewn cysylltiad â Tyddyn Teg o le rydym yn cael ein ffrwythau a llysiau, wedi eu tyfu’n lleol, prin 10 milltir i ffwrdd, os hynny.
Mae hi hefyd wedi ein rhoi mewn cysylltiad â New Leaf Nurseries ar Ynys Môn sydd yn darparu ein Pecynnau Tyfu eich Hun a phethau sydd wedi profi i fod yn boblogaidd gyda chwsmeriaid.
Felly mae hynny wir wedi bod yn ddefnyddiol, dod â rhywbeth ymarferol gwych i’n busnes.
Ar ben hynny, mae’n cyflwyno cyfleoedd i rwydweithio, y cyfle i gyfarfod busnesau eraill ac estyn allan a gwneud cysylltiadau gyda phobl, sydd o hyd yn bwysig iawn.
Ac mae’n ffordd wych o ddysgu pa bethau diddorol mae pobl yn eu gwneud hefyd.
Yn aml, dydych chi ddim yn cael y cyfle i wneud hynny, pan rydych yn eich byd bach eich hun yn brysur gyda’ch busnes, ac weithiau mae’n wych iawn, y dylanwad allanol yn gwneud ichi weld y darlun llawn.

Felly, dwi’n meddwl bod y prif gyfleoedd wedi dod o ymwybyddiaeth a brandio mae’n debyg.
Dydw i ddim yn meddwl bod pobl, cwsmeriaid, yn ystyried cynnyrch Cymreig fel rhywbeth y dylent fod yn cadw llygad allan amdano.
Dydw i ddim yn meddwl bod yno frand ac enw da wedi ei sefydlu, ac i ddweud y gwir, mae llwyth o bethau gwych yn cael eu tyfu yma yng Nghymru! Mae llwyth o bethau da yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru.
Ac felly mae codi ymwybyddiaeth o beth sydd ar gael, ac mae’n fwy na dim ond tatws a chennin.
Mae byd cyfan o bethau y gall pobl gymryd rhan ynddynt a bod yn fwy ymwybodol ohonynt.
A dwi’n credu bod hynny’n cynnig cyfle mawr iawn.

Yn ehangach, does dim llawer o gymorth ar gael i fusnes bach, a does dim cymorth ar gael ar gyfer busnesau bach Gwyrdd, yn ceisio gwneud y peth iawn, yn ceisio mynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd rydym yn byw drwyddo.
Ac felly mae unrhyw beth sy’n dod lawr y gadwyn fwyd, unrhyw beth a all ddod o Lywodraeth Cymru sy’n helpu hynny, sy’n hyrwyddo hynny, yn arbennig!
Oherwydd, ar hyn o bryd ar gyfer busnesau fel ni, does dim byd ar gael sy’n cefnogi’r nodau hyn, does dim help, mae’r sector hwn, gwastraff isel, siopa rhydd o blastig, yn ei hanfod yn cael ei ariannu gan unigolion brwdfrydig yn gwario eu holl arian.

Felly mae’n bwysig iawn ein bod yn codi stŵr ac yn ceisio cael gymaint o gefnogaeth ar gyfer hyn ag y gallwn.
Pa un a yw hynny’n Brosiectau Garddwriaeth yn benodol, neu’r ffordd gwbl foesegol wyrdd o fyw, y mae angen inni symud tuag ato.

Felly, un o’r ffyrdd mae Garddwriaeth Cymru yn bendant wedi ein helpu ni yw drwy cyfryngau cymdeithasol.
Drwy rannu ein cynnwys a chysylltu ni gyda beth maen nhw’n ei wneud, mae wedi helpu i godi ymwybyddiaeth amdanom ni, a sut rydym yn ffitio yn y darlun ehangach.

Pan agoron ni’r siop yma yng Nghaernarfon, roedd Izzie yma’n syth, yn cymryd llwyth o luniau, yn rhannu sut roeddem yn edrych, helpu pobl i fod yn ymwybodol o beth rydym yn ei wneud yma, a oedd yn wahanol i beth roedden ni yn ei wneud ym Mhorthaethwy. Ac roedd hynny wedi ein helpu ni’n fawr ar yr adeg hynod bwysig yno.

Dwi’n meddwl o safbwynt mesur effaith Garddwriaeth Cymru, dydy hynny ddim yn hawdd ei gyfrif mewn punnoedd a cheiniogau.
Ond rydym am allu mynychu ein digwyddiad cwrdd a chroesawu Garddwriaeth Cymru cyntaf yr wythnos nesaf, a dyma’r tro cyntaf bod un wedi ei gynnal ddigon agos i’w wneud yn ymarferol.

Fel busnes print bach gyda’r pwysau amser yno, mae’n bwysig iawn bod y digwyddiadau hynny mor ymarferol yn ddaearyddol i’w mynychu ag sy’n bosibl.
Gall hynny ei wneud yn haws i ddeall y rhyngweithio sydd ar gael.

Mae pob cysylltiad yn helpu. Felly efallai eich bod methu â rhoi ffigwr punnoedd a cheiniogau arno, efallai eich bod methu â gweld enillion mawr ohono ond mae popeth yn helpu, ac mae’n bwysig i gryfhau cysylltiadau lleol, oherwydd os ydych yn mynd i wneud newid o werth o safbwynt sut rydym yn siopa am fwyd, mae siopa’n lleol yn rhan fawr o hynny.
Ac er mwyn gwneud hynny, mae angen ichi roi stop ar y bondiau rhwng cynhyrchwyr, manwerthwyr a phawb sy’n ymwneud â’r gadwyn, ac mae pob gwahaniaeth bychan mae Garddwriaeth Cymru yn ei wneud i hynny, yn dod ynghyd ac yn helpu creu’r effaith a’r newid yna rydym ei angen.