Cyn ymuno â Garddwriaeth Cymru fel ein Swyddog Cyfathrebu, roedd Emma Cornes yn gweithio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Erddig ar y Prosiect Academïau Gwyrdd fel Ceidwad Cymunedol, ac aeth yn ei blaen i gychwyn Tyfu Erddig gyda chydweithwyr. Yn ddiweddar, aeth yn ôl i weld sut mae’r prosiect yn datblygu, a’r gwahaniaeth mae gweithio gyda Garddwriaeth Cymru wedi ei wneud.
BETH YW TYFU ERDDIG?
Mae Tyfu Erddig yn fenter llesiant sy’n helpu natur i feithrin cymunedau lleol yn Wrecsam. Mae’r prosiect wedi ei leoli yn Felin Puleston ar gyrion ystad Erddig, lle ceir hanes hir o waith cymunedol. Mae Felin Puleston yn hwb lle mae grwpiau cymunedol wedi plannu perllan, clybiau’n dod ynghyd a grwpiau pobl yn cyfrannu at ddatblygiad a gwaith cynnal a chadw yn yr ardd a’r ystad ehangach.
Datblygodd y prosiect yn sgil y Prosiect Academïau Gwyrdd (GAP), sy’n rhan o brosiect ‘Ein Dyfodol Disglair‘ a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
‘Mae’r Prosiect Academïau Gwyrdd yn galluogi pobl ifanc i ofalu am y mannau gwyrdd lle maen nhw’n byw. Rydym yn annog pobl ifanc i ddeall yr heriau mae’r amgylchedd yn eu hwynebu, adnabod y rôl bwysig mae natur yn ei chwarae yn ein bywydau, a bod yn rhan o ddyfodol cadwraeth natur’.
Mae GAP wedi bod yn cael ei ariannu ers 2016, ond bydd y cyllid yn ddod i ben ym mis Chwefror 2020. Nid oedd Emma a Mieke, Cydlynydd Partneriaethau Lleol y prosiect, eisiau gweld y gwaith oedd yn cael ei wneud â chymunedau lleol yn dod i ben. Felly, ar ddiwedd 2018 gwnaethant gychwyn ymchwilio i ffyrdd o wneud eu gwaith yn hunangynhaliol er mwyn sicrhau ei ddyfodol. Dyma sut y crëwyd Tyfu Erddig. Penderfynasant dreialu tyfu a gwerthu blodau i’w torri a chrefftau wedi eu hysbrydoli gan natur.
‘Rydym wedi dechrau tyfu blodau i’w torri a gwneud crefftau i’w gwerthu yn Neuadd Erddig. Mae’r holl elw yn mynd yn ôl i gyllido mwy o waith cymunedol a llesiant. Ein nod yw gwneud ein gwaith yn hunangynhaliol i sicrhau y gallwn ddal ati i dyfu ein cymuned a meithrin ei llesiant yn y tymor hir.’
TYFU ERDDIG A GARDDWRIAETH CYMRU
Daeth Emma a Mieke o hyd i Garddwriaeth Cymru ar adeg bwysig iawn. Roeddynt yn ymwybodol bod eu cyllid gan y Loteri yn dod i ben, ac roedd ganddynt lawer o syniadau ar gyfer gwneud eu gwaith cymunedol a llesiant yn hunangynhaliol. Er hynny, roeddynt yn ansicr ynghylch pa syniadau i’w datblygu, ac a oedd unrhyw gyfleoedd roeddynt yn eu methu ar gyfer Felin Puleston a’u tîm o wirfoddolwyr.
‘Roeddem yn gwybod bod angen creu model newydd ar gyfer y gwaith rydym yn ei wneud yn Felin. Roedd cymorth Garddwriaeth Cymru yn amhrisiadwy gan eu bod eisoes â dealltwriaeth dda o fentrau cymdeithasol garddwriaeth eraill a sut maent yn gweithredu.’
Y syniad gwreiddiol ar gyfer Tyfu Erddig oedd tyfu ffrwythau a llysiau, ond roedd Mieke ac Emma yn ansicr am gnydau a dichonoldeb gyda’r lle a’r pobol sydd ganddynt. Ond ar ôl siarad â Garddwriaeth Cymru, penderfynasant ymchwilio i nifer o opsiynau eraill, gan gynnwys blodau i’w torri ac eitemau crefft, a dyna y gwnaethant ei ddewis fel eu model yn y pen draw. Gwnaethant hefyd drafod ffyrdd eraill o dyfu, gan gynnwys mwy o waith partner ac opsiynau ar gyfer cynnwys prosiectau eraill yn yr ardal.
PA WAHANIAETH WNAETHOM NI?
‘Mae’n anodd mesur faint o effaith yn union mae Garddwriaeth Cymru wedi ei chael, ond roedd y cyfarfodydd a gawsom yn gymorth mawr i arwain ein syniadau ac agor ein llygaid i lawer o gyfleoedd. Maent yn llawn syniadau ac yn adnabod pawb! Mae hynny’n ddefnyddiol tu hwnt ac fe arbedodd lawer o waith ac ymchwil i ni’.
DYFODOL TYFU ERDDIG
Ar ôl tymor cyntaf llwyddiannus o dyfu a gwerthu, mae Tyfu Erddig yn cychwyn 2020 yn frwdfrydig. Mae’r tîm wedi recriwtio Ceidwad Cymunedol newydd, wedi treialu gwerthu crefftau naturiol Nadoligaidd yn llwyddiannus ac yn parhau i chwilio am gyllid i’w cynnal nes bydd y prosiect yn gallu ei ariannu ei hun.