HELPU POBL DYFU

Ers dros deg ar hugain o flynyddoedd, mae Meithrinfa Bryn Euryn wedi darparu gweithgareddau dyddiol i rai gydag anableddau dysgu mewn meithrinfa arddwriaethol brysur.

Mae’r feithrinfa ym Mae Colwyn yn cynnig cyfle i’r rhai sy’n mynychu i ddysgu sgiliau garddwriaethol ynghyd â chael cyfle i gymdeithasu.

Caiff y gwasanaeth ei gynnig gan Gyngor Bwrdeistrefol Sir Conwy ac mae’n helpu i gynnal ei hun drwy drin planhigion gardd a chynhyrchu basgedi crog a photiau plannu a gaiff yna eu gwerthu i gynghorau’r dref ac i’r cyhoedd. Hefyd caiff planhigion, blodau, bylbiau, planhigion blynyddol, torchau, planhigion gwlâu blodau a hadau eu gwerthu yn y siop ar y safle ar Ffordd Dinerth.

Mae Bryn Euryn hefyd yn ymdrechu i leihau gwastraff plastig ac mae ganddynt ardal tu allan i bobl gael gwared â photiau planhigion nad ydynt eisiau. Yna mae’r tîm yn eu sortio ac yn ail ddefnyddio cymaint ag y gallant yn y feithrinfa gyda’r gweddill yn mynd i ganolfan ailgylchu lleol. Mae’r feithrinfa hefyd yn dweud bod compostio yn broses barhaus bwysig.

Mae Peter Rule yn weithiwr cefnogol gwasanaeth dydd ym Mryn Euryn ac eglurodd y buddion i’r bobl sy’n mynychu.

“I’r unigolion sy’n dod i’r feithrina, mae yna fuddion cymdeithasol amlwg. Ynghyd â darparu strwythur, mae gweithio yn gwella eu hunan hyder a gwneud iddynt deimlo gwerth ynddynt eu hunain.

“Daw hyn yn amlwg pan gaiff basgedi crog, potiau plannu neu arddangosfeydd ar gyfer digwyddiadau lleol eu gwneud a bod cyfraniad pawb oedd yn rhan o’r broses yn cael ei gydnabod.

“Mae llefydd fel y feithrinfa yn rhoi cyfle i gyflawni gweithgareddau o bwys. Cafodd unigolyn a oedd wedi bod yn mynychu canolfan ddydd traddodiadol am nifer o flynyddoedd yr opsiwn a chyfle i ddod i’r feithrinfa am un diwrnod yr wythnos.

“Roedd pryder yn y lle cyntaf na fyddai yn gallu ymdopi gyda’r amgylchedd ond mae wedi addasu yn dda i’r newid a bellach yn aelod gwerthfawr o’r tîm. Mae pawb sy’n dod yma yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i redeg y feithrinfa ac rydym ni gyd yn falch iawn o’r llwyddiant.”