Pryd: 9 Medi 2020 am 4.00 pm
Ble: Zoom
Archebwch yma: Dolen Eventbrite
Gwahoddir chi’n gynnes i ymuno â ni i bennu ar ddyfodol y Clwstwr pwysig hwn.
Fel y gwyddoch, bydd prosiect Clwstwr Garddwriaeth Cymru yn dod i ben Gwanwyn nesaf. Mae Clwstwr Perllannau Treftadaeth Cenedlaethol Cymru wedi tyfu’n gryf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ddangos rhwydwaith o aelodau gwybodus, angerddol a chefnogol tu hwnt, ac rydym wir yn dymuno i hyn barhau.
Mae’r cyfarfod hwn yn adeiladu ar yr ymateb o’n harolwg diweddaraf. Cynhelir gan Garddwriaeth Cymru, dan arweiniad Nick Wilson, Ymgynghorydd Busnes Canolfan Gydweithredol Cymru, i benderfynu sut all y Clwstwr, yn eich barn chi fel aelodau, eich gwasanaethu chi orau fel Clwstwr ac unigolion.
Mae’n hynod bwysig ein bod ni’n cael y penderfyniad cywir, felly ymunwch â ni, a sicrhewch fod yr holl amser ac ymdrech rydych chi wedi ei roi i mewn i’r Clwstwr hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dyfodol Perllannau Treftadaeth Cenedlaethol Cymru.
Rydym yn disgwyl i’r cyfarfod bara oddeutu awr, a bydd yn cychwyn am 4.00pm, i ganiatáu cymaint ohonoch i ymuno â phosib. Os nad ydych wedi defnyddio Zoom o’r blaen, peidiwch â phoeni – mae’n broses rwydd – byddwn yn anfon dolen atoch chi ar ôl i chi archebu drwy Eventbrite. Edrychwn ymlaen at eich gweld ar 9 Medi.