Cyhoeddiad o Gydweithrediad rhwng Garddwriaeth Cymru a’r Ganolfan Sgiliau Coetir er mwyn Hyrwyddo Garddwriaeth yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint

Mae Garddwriaeth Cymru a’r Ganolfan Sgiliau Coetir yn falch iawn o gael parhau eu partneriaeth dros y flwyddyn i ddod yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych, diolch i’r cyllid a gafodd Garddwriaeth Cymru gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin. 

Mae’r Ganolfan Sgiliau Coetir ym Modfari yn gwmni Menter Gymdeithasol nid er elw dan berchnogaeth y gymuned sydd wedi’i lleoli ar 50 erw o goetir yn cynnwys rhandiroedd, twneli polythen, perllan treftadaeth a gwinllan, ac mae’n cynnig ystod o gyrsiau crefft draddodiadol, ymgysylltiad cymunedol, cyfleoedd i dyfu a digwyddiadau iechyd a llesiant. 

Bydd Garddwriaeth Cymru, sydd wedi’i leoli ar Gampws Llaneurgain Prifysgol Wrecsam, yn parhau i hyrwyddo dulliau tyfu arloesol a thraddodiadol i fusnesau, cymunedau ac ysgolion ar draws dwy sir. 

Ar y cyd, mae eu gwerthoedd craidd yn cyd-fynd â’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru a byddant yn hyrwyddo sicrwydd bwyd cynaliadwy, lleol; ochr yn ochr â chnydau di-fwyd ac addurniadol; rheoli coetir ac amgylcheddol drwy ddulliau traddodiadol ac arloesol.

Llun o: Rod Waterfield, sylfaenydd Canolfan Sgiliau Coetir a Laura Gough, Pennaeth Menter Prifysgol Wrecsam

Dywedodd Rod Waterfield, sylfaenydd Canolfan Sgiliau Coetir, ‘Mae hwn yn gyfle gwych i’r ddau sefydliad ddod ynghyd er mwyn parhau i ddatblygu a chefnogi’r rhanbarth.  Mae gennym berllan sefydledig, gwinllan, ardal rhandir a thwneli polythen ar gael lle gall pobl ledled Sir Ddinbych a Sir y Fflint elwa ohonynt.  Rydym yn edrych ymlaen at dreialu cnydau a dulliau tyfu newydd yn ein twnnel polythen ac, wrth gwrs, croesawu gwirfoddolwyr newydd. Gyda’n gilydd, byddwn hefyd, drwy ein gweithdai, yn cefnogi rheoli perllan.  Nid oes gan yr ysgolion a’r cymunedau hynny sydd wedi derbyn Coed Perllan Treftadaeth fel rhoddion yr arbenigedd i ofalu amdanynt ac rydym eisiau sicrhau bod y coed yn cael eu meithrin ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Llun o: Rod Waterfield, sylfaenydd y Ganolfan Sgiliau Coetir a Laura Gough, Pennaeth Menter Prifysgol Wrecsam yn y Ganolfan Sgiliau Coetir, Bodfari

Dywedodd Laura Gough, Pennaeth Menter Prifysgol Wrecsam, ‘Rydym yn hynod falch o gael parhau ein gwaith gyda’r Ganolfan Sgiliau Coetir.  Yn ogystal â rhannu arferion garddwriaeth traddodiadol ledled Sir Ddinbych a Sir y Fflint bydd ein cydweithrediad yn targedu cynulleidfaoedd newydd, gyda’n Swyddogion Datblygu Prosiect yn ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau newydd ar hyd a lled y rhanbarth. 

Mae’r prosiect hwn yn rhan o Swyddfa Fenter y Brifysgol felly mae modd i ni gyfeirio nifer o fusnesau at gyrsiau byr er mwyn helpu eu busnesau, datblygu sgiliau entrepreneuraidd a hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli ymhlith ein myfyrwyr.  Mae hefyd yn cyd-fynd â modiwlau gradd ar draws ystod o bynciau.’

Yn ôl Mark Roberts, Swyddog Cnydau Arbenigol Garddwriaeth Cymru, ‘Mae ein systemau Amaethyddiaeth Amgylcheddol a Reolir (CEA) yn Llaneurgain yn arddangos gwahanol ddulliau tyfu cyfoes a byddant yn cael eu defnyddio i helpu i sicrhau’r dechrau gorau posibl i gnydau gwerth uchel, yn barod i’w trawsblannu i’r twneli polythen a thu hwnt.’

Dywedodd Becky Bird, Swyddog Datblygu Prosiect Garddwriaeth Cymru, ‘Rydym yn awyddus iawn i weld cymaint o ysgolion â phosibl ar draws y ddwy sir yn dysgu am systemau Amaethyddiaeth Amgylcheddol a Reolir (CEA), fel hydroponeg ac yn cael eu cyflwyno i’r systemau tyfu hyn er mwyn i bobl ifanc ddysgu sut mae modd tyfu bwyd. Mae gennym eisoes gysylltiad â sawl ysgol yn yr ardal ac rydym yn awyddus i adeiladu ar hyn er mwyn eu galluogi i greu eu cymunedau tyfu eu hunain.’

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Y Ganolfan Sgiliau Coetir – www.woodlandskillscentre.ukGarddwriaeth Cymru – www.horticulturewales.co.uk