CYMORTH GWERTH £2.5 MILIWN GAN LYWODRAETH CYMRU I FUSNESAU YR EFFEITHIWYD ARNYNT GAN Y LLIFOGYDD

Diolch i Welsh Country am dynnu ein sylw at hyn

Mae Llywodraeth Cymru yn neilltuo hyd at £2.5 miliwn o gyllid brys i gynorthwyo busnesau yr effeithiwyd arnynt yn sylweddol gan y llifogydd a achoswyd gan Storm Ciara a Storm Dennis.

Bydd modd i fusnesau sy’n dod dros effeithiau difrodus y llifogydd, mentrau bach a chanolig eu maint yn benodol, wneud cais am grant o £2,500 yn gymorth i’w helpu i ddod yn ôl yn weithredol cyn gynted ag y bo modd.

Bydd cronfa Cymorth Llifogydd i Fusnesau yn cael ei gweinyddu gan Busnes Cymru ac yn rhoi cymorth i fusnesau gyda chostau uniongyrchol y gwaith adfer nad yw’n cael ei dalu gan eu hyswiriant, ac i helpu i dalu am rentu lleoliad gwaith amgen a chadw staff.

Mae’r gronfa gwerth £2.5 miliwn yn ychwanegol at y gefnogaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i awdurdodau lleol i dalu am y rhyddhad ardrethi busnes dewisol a gynigir oherwydd y llifogydd. Cynigir y cymorth hwn am hyd at dri mis lle mae’r llifogydd wedi effeithio ar nifer o fusnesau o fewn ardal benodol.

Bydd rhagor o fanylion ynglŷn â sut i wneud cais am gyllid o’r gronfa ar wefan Busnes Cymru yn y dyddiau nesaf. Cewch gofrestru eich diddordeb mewn gwneud cais am gyllid o’r gronfa drwy ffonio Busnes Cymru ar 03000 6 03000.