Garddwriaeth Cymru a’r Ganolfan Sgiliau Coetir yn Dathlu Bioamrywiaeth Leol ar Ddiwrnod Blodau’r Berllan

Yn ddiweddar, dathlodd Garddwriaeth Cymru, un o fentrau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych, Ddiwrnod Blodau’r Berllan mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Sgiliau Coetir. Roedd y digwyddiad hwn yn tynnu sylw at rôl hanfodol bioamrywiaeth ac arferion cynaliadwy o fewn y gymuned.

Mae Garddwriaeth Cymru wedi ymrwymo i feithrin arferion garddwriaethol cynaliadwy ledled Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Gyda chefnogaeth y Gronfa Ffyniant Gyffredin, nod y prosiect yw gwella bioamrywiaeth leol ac addysgu’r gymuned leol ynghylch manteision amaethyddiaeth gynaliadwy. Drwy weithdai a digwyddiadau cydweithredol fel Diwrnod Blodau’r Berllan, mae’n ymdrechu i gryfhau cysylltiad y gymuned â byd natur.

Ar ddechrau’r diwrnod aeth y cyfranogwyr ati i adeiladu blychau ystlumod er mwyn gwella bioamrywiaeth leol a chefnogi ecosystem naturiol yr ardal. Ar ôl y gweithgaredd ymarferol hwn, cafwyd cinio a oedd yn cynnwys sudd afal wedi’i wneud yn gyfan gwbl yng Nghymru. Cyfrannwyd y sudd yn hael gan Cultivate, y Drenewydd, gan ychwanegu naws dreftadol i’r diwrnod.

Tynnodd Rod Waterfield o’r Ganolfan Sgiliau Coetir sylw at bwysigrwydd mentrau lleol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd: “Mae’r Ganolfan Sgiliau Coetir yn awyddus i ymgorffori cynaliadwyedd yn ein bywyd bob dydd. Rydym yn parhau i ddatblygu ein Perllan Dreftadaeth fel rhan o’r ymgyrch genedlaethol i gynhyrchu bwyd yn lleol ac osgoi costau cludo diangen.” Cafodd y rhai a oedd yn bresennol hefyd fwynhau taith dywys o amgylch Perllan Dreftadaeth Cymru. Roedd y coed yn llawn blodau, ac yn cynnig amgylchedd dysgu delfrydol.

Mynegodd Rebecca Bird, Swyddog Datblygu Prosiect Garddwriaeth Cymru, ei brwdfrydedd ynghylch effaith y prosiect: “Roedd dathliad Diwrnod Blodau’r Berllan yn enghraifft berffaith o’n cenhadaeth yn Garddwriaeth Cymru – cyfuno ymglymiad cymunedol â chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae’r digwyddiadau hyn nid yn unig yn addysgu ond hefyd yn meithrin partneriaethau parhaol sy’n meithrin ein hecosystemau lleol a’n hysbryd cymunedol.”

Drwy gydol y prosiect hwn, mae tîm Garddwriaeth Cymru, a gynhelir gan Brifysgol Wrecsam, wedi cynnal amrywiaeth o weithdai addysgiadol. Mae’r pynciau dan sylw wedi cynnwys tyfu eich llysiau gwyrdd mân eich hun, tocio ac impio coed afalau, hydroffoneg, a phlannu blodau gwyllt a choed. Pwrpas y gweithdai hyn yw grymuso aelodau’r gymuned, drwy roi’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol iddynt allu garddio’n effeithiol a chynaliadwy.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am weithdai a mentrau yn y dyfodol, mae Garddwriaeth Cymru yn eich gwahodd i ymuno â’u rhestr bost https://horticulturewales.co.uk/cy/cais-aelod-newydd/. Byddwch y cyntaf i glywed am ddigwyddiadau sydd ar ddod ac am gyfleoedd i gydweithio â thîm Garddwriaeth Cymru, a chyfrannu at ein cymuned o arddwyr cynaliadwy.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Horticulturecluster@wrexham.ac.uk