Garddwriaeth Cymru yn bwriadu lansio oergelloedd gwerthu a fydd yn cynnwys microlysiau am ddim! 

Mae Avatar Fitness, sef canolfan ffitrwydd yn yr Wyddgrug, a’r Ganolfan Dechnoleg OpTIC ar gampws Prifysgol Wrecsam yn Llanelwy, wedi rhoi trefniant cydweithredu arloesol ar waith gydag un o brosiectau Prifysgol Wrecsam a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, sef Garddwriaeth Cymru. Nod y fenter hon yw galluogi ymwelwyr i gael gafael yn rhad ac am ddim ar ficrolysiau y gellir eu defnyddio i ychwanegu maeth at unrhyw bryd, gan fynd ati ar yr un pryd i gefnogi tyfwyr lleol ledled Sir y Fflint a Sir Ddinbych, sef y cynghorau sir sy’n berthnasol i’r prosiect. 

Mae’r bartneriaeth hon yn gam ymlaen o ran hwyluso, a hyrwyddo arferion iechyd yn Avatar Fitness a’r Ganolfan Dechnoleg OpTIC. Mae cyflwyno oergelloedd clyfar sy’n llawn microlysiau maethlon a dyfir gan Garddwriaeth Cymru ar gampws Llaneurgain Prifysgol Wrecsam yn ddull arloesol o fynd i’r afael ag iechyd a chynaliadwyedd. Ystyrir yn eang bod y microlysiau hyn yn bethau iach i’w bwyta gan eu bod yn llawn maeth. Y disgwyl yw y bydd yr oergelloedd hyn yn chwyldroi’r modd y gall pobl gael gafael ar gynnyrch ffres, gan ei gwneud yn hwylus i bobl i wneud dewisiadau mwy maethlon nag erioed o’r blaen. 

Prif nod y prosiect yw annog y cyfranogwyr i fyw mewn ffordd iachach, yn ogystal â chefnogi tyfwyr microlysiau lleol a chodi ymwybyddiaeth yn eu cylch – sef Fferm Tŷ Isa a Fresh & Tasty Microgreens. Gallai llwyddiant posibl y fenter hon baratoi’r ffordd ar gyfer trefniadau cydweithredu gydag ychwaneg o dyfwyr lleol yn y dyfodol – rhywbeth a fyddai o fudd i’r cyfranogwyr ac i’r gymuned ffermio leol fel ei gilydd. 

Bydd y Ganolfan Dechnoleg OpTIC, sef un o gampysau Prifysgol Wrecsam a hwb canolog i nifer o fusnesau ym Mharc Busnes Llanelwy, hefyd yn cymryd rhan yn y fenter hon. “Rydym yn llawn cyffro ynglŷn â’r posibilrwydd o rymuso ein hymwelwyr i wneud dewisiadau iachach,” medd Debbie Davies, Rheolwr Busnes ac Arloesi yn y Ganolfan Dechnoleg OpTIC. “Mae cefnogi ein tyfwyr lleol yn flaenoriaeth inni, ac rydym yn ffyddiog y bydd y fenter hon yn cael effaith gadarnhaol ar ein cymuned.” 

Bwriad Garddwriaeth Cymru yw defnyddio’r prosiect cydweithredu hwn i gasglu rhagor o wybodaeth am ddewisiadau ac arferion pobl mewn perthynas â chynnyrch lleol, gan gefnogi tyfwyr lleol trwy ofyn i’r cyfranogwyr lenwi arolygon byr drwy gydol yr ymgyrch. 

Caiff pawb sy’n dymuno cymryd rhan yn y prosiect eu hannog i ymuno ag un o’r digwyddiadau lansio isod: 

Y Ganolfan Dechnoleg OpTIC – 21 Awst, 10:00-12:00 

Avatar Fitness – 21 Awst, 17:00-19:00 

Gallwch ymuno â’r fenter ar unrhyw adeg ar ôl i’r oergelloedd gael eu lansio, os bydd lle ar gael – bydd yr ymgyrch yn gweithredu ar sail ‘y cyntaf i’r felin’. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://horticulturewales.co.uk/cy/faqs-terms-and-conditions/ neu cysylltwch â ni ar: Horticulturewales@wrexham.ac.uk