Dydd Mawrth, 26ain Tachwedd 2019
Gwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd
Mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru yn eich gwahodd chi i’r gynhadledd Uwchraddio Cynaliadwy gyntaf yng Nghymru ar gyfer y sector bwyd a diod.
Nod y gynhadledd fydd paratoi busnesau bwyd a diod ar gyfer cynllunio eu siwrnai uwchraddio, boed yn symud o ficro i fach, bach i ganolig, neu ganolig i fawr. Mae’r gynhadledd hon yn cynnwys siaradwyr o’r Scale up Institute, Innovate UK, Make UK a straeon llwyddiant eu hunain o Gymru gan gwmnïau sydd wedi sicrhau buddsoddiad.
Bydd y gynhadledd yn cynnwys sesiynau “cwrdd â’r buddsoddwr/arbenigwr uwchraddio”, gan gynnig cyfle ar unwaith i gynhyrchwyr bwyd a diod drafod eu huchelgeisiau uwchraddio a’u hanghenion buddsoddi.
Bydd y llefydd yn gyfyngedig felly archebwch eich lle heddiw: https://gynhadledd-uwchraddio-cynaliadwy.eventbrite.co.uk
Am fwy o gwybodaeth cliciwch yma: Gynhadledd Uwchraddio 2019