Gwahodd: Tyfu Perlysiau yng Nghymru – yr Heriau a’r Gwobrau

Dydd Llun, 12 Hydref, 2020 – 2pm – 3pm Zoom trwy Eventbrite

(bydd dolen i’r digwyddiad yn cael ei hanfon trwy e-bost yn uniongyrchol)

 

Siaradwyr: Martyn Hurst, Gardd Ffiseg y Bontfaen (Gardd Agored)

Charles Warner, Tyfwr Perlysiau – Quinky Young Plants, Aberteifi (Tyfwyr cyfanwerthol sy’n cyflenwi canolfannau garddio yng Nghymru)

Cyflwyniadau a sesiynau Holi ac Ateb

———————————————- —–

Bydd Martyn yn rhannu ei brofiad gyda ni o ddatblygu Gardd Ffiseg y Bontfaen, a grëwyd gan Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru yn 2004, a agorwyd ym mis Mehefin 2008 gan ‘Ei Huchelder Brenhinol, Duges Cernyw’. Gardd o blanhigion meddyginiaethol a harddwch.

Bydd Charles yn rhannu ei brofiad o dyfu perlysiau yng nghefn gwlad Cymru, gan oresgyn yr heriau o dyfu planhigion o ansawdd ar raddfa fach, a bydd yn amlinellu’r ffyrdd y mae’n parhau i ‘dyfu’n falch yng Nghymru’.