Mae Garddwriaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi eu bod wedi ehangu eu cyfleusterau diolch i bartneriaeth strategol rhwng Prifysgol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint, a Chyngor Sir Ddinbych, gyda chymorth cyllid SPF, sydd wedi sicrhau dyfodol y prosiect tan fis Rhagfyr 2024.
Tra ei fod yn cael ei ariannu ar hyn o bryd tan fis Rhagfyr 2024, mae’r prosiect yn parhau’n gadarn yn ei ymrwymiad i dryloywder, arloesi ac addysg. Mae integreiddio technolegau hydroponig newydd fel raciau tyfu awtomataidd a systemau Techneg Ffilm Maetholion (NFT) yn adlewyrchu eu hagwedd flaengar i aros ar flaen y gad yn y diwydiant.
Mae Garddwriaeth Cymru yn gwahaniaethu ei hun drwy gydweithio yn lleol ac ymgysylltu â’r gymuned, a model gweithredol tryloyw. Fel menter di elw, maent yn rhannu gwybodaeth yn agored, gan leoli eu hunain fel partner cydweithredol wrth hyrwyddo garddwriaeth gynaliadwy ac Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd a Reolir (CEA).
Wrth edrych ymlaen, byddant yn parhau i ehangu eu hisadeiledd ffisegol a mentrau addysgol. Gyda systemau hydroponig newydd yn cael eu gosod yn barhaus a chydweithio ag adrannau prifysgol, mae’r prosiect yn anelu at greu canolbwynt gwybodaeth cynhwysfawr ar gyfer hydroponeg, gan gynnig cyfleoedd hyfforddi amrywiol a meithrin ymchwil rhyngddisgyblaethol. Yn ogystal, maent yn bwriadu datblygu systemau hydroponig addysgol, wedi’u teilwra ar gyfer disgyblion ysgol sy’n ceisio meithrin angerdd am amaethyddiaeth gynaliadwy o oedran cynnar.
Gan weithredu dwy ystafell dyfu CEA a gofod gweithdy addysgol, gall isadeiledd awtomataidd Garddwriaeth Cymru gynnwys hyd at 1500 o blanhigion ar yr un pryd. Mae adrannau pwrpasol ar gyfer cynnyrch microwyrdd, letys, a system wal fwytadwy arloesol yn amlygu ymrwymiad y prosiect i arloesi. Mae ymgysylltu â’r gymuned yn dal yn gonglfaen, gyda dros fil o blanhigion yn cael eu dosbarthu i ysgolion a digwyddiadau, gan arddangos potensial garddwriaeth a ffermio fertigol.
Mae Garddwriaeth Cymru wedi ymrwymo i feithrin twf cynaliadwy, arloesedd ac ymgysylltiad â’r gymuned mewn garddwriaeth, gan osod y sylfaen ar gyfer dyfodol gwyrddach, mwy gwydn ac mae’n croesawu unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan i gysylltu â Horticulturecluster@wrexham.ac.uk .