Dathliadau Garddwriaeth Cymru ar Ddiwrnod Teilo Sant yn llwyddiant ysgubol mewn sesiwn impio coed ffrwythau a gofal coed yng Nghampws Llaneurgain, Prifysgol Wrecsam

Er anrhydedd i Teilo Sant, nawddsant perllannau, yn ddiweddar cydweithiodd Garddwriaeth Cymru â Pherllan Treftadaeth Cymru Cyf a Tom ‘Y Dyn Afalau’ i gyflwyno sesiwn Impio Coed Ffrwythau a Gofal Coed yng Nghampws Llaneurgain, Prifysgol Wrecsam. Llwyddodd y digwyddiad hwn, a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ar gyfer cyflwyno sesiynau ledled Sir y Fflint a Sir Ddinbych, i ddenu cyfranogwyr o bob rhan o’r rhanbarthau, a daethant ynghyd i ddathlu a dysgu am dreftadaeth gyfoethog perllannau.

Cynhelir diwrnod coffa Teilo Sant ar 9 Chwefror. Caiff y Sant ei anrhydeddu ar sail ei gysylltiad â garddwriaeth a pherllannau. Fe’i ganwyd oddeutu 480-500 AD ym Mhenalun, ger Dinbych-y-pysgod. Cyrhaeddodd siwrnai addysg Teilo Sant a Dewi Sant, dan arweiniad Sant Peulin, ei phenllanw pan gysegrwyd y ddau yn esgobion yn Jerwsalem – cyfnod hollbwysig yn hanes Cymru. Cyfrannodd yn fawr at ysbrydolrwydd yng Nghymru. Bu farw yn abaty Llandeilo Fawr oddeutu 560 AD. Wrth inni goffáu Teilo Sant a phlannu coed afalau er cof amdano, arwyddocaol yw cysylltu’r weithred hon â’r parch hanesyddol tuag at berllannau, gan gyfrannu at waddol parhaus Teilo Sant a’r effaith fawr a gafodd ar dreftadaeth Cymru.

Yn ôl Rebecca Bird, sy’n cynrychioli Garddwriaeth Cymru, “Dangosodd y digwyddiad hwn ein hymrwymiad i rannu hanes Teilo Sant a helpu pobl i ddeall a gwerthfawrogi arferion perllannau cynaliadwy. Hoffem barhau i gynnal y dathliad hwn bob blwyddyn.”

Mae adborth y rhai a gymerodd ran yn y sesiwn yn cyfeirio at werth y diwrnod. Diolchodd Lisa a Richard Gray am y cyflwyniadau llawn gwybodaeth a’r sesiynau ymarferol a gynhaliwyd dan arweiniad Tom ‘Y Dyn Afalau’. Canmolodd y ddau y cyfle i sgwrsio gyda chydgyfranogwyr ac arbenigwyr o Berllannau Treftadaeth Cymru. Mae Lisa a Richard yn edrych ymlaen yn fawr at weld eu coed afalau Enlli newydd yn tyfu ac yn dwyn ffrwythau, a’u bwriad yw ehangu eu perllan yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd Mike a John o Toyota eu bod wedi mwynhau’r ymweliad, a thynnodd y ddau dynnu sylw at y pethau gwerthfawr a ddysgwyd yn sgil y sesiwn.

Dywedodd Lois, sy’n cynrychioli Community Heart Productions (Gardd Gymunedol Bagillt), fod y diwrnod impio yn ddefnyddiol ac yn bleserus. Canmolodd y digwyddiad am ei natur addysgiadol ac am y cyfle i gysylltu ag unigolion sy’n rhannu diddordebau tebyg.

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Garddwriaeth Cymru yn llawn cyffro o gael cyhoeddi cynlluniau ar gyfer digwyddiad arall yn ymwneud â pherllannau. I ddathlu Diwrnod Perllannau yn eu Blodau, bydd y sefydliad yn cynnal digwyddiad arbennig yng Nghanolfan Sgiliau Coetir Sir Ddinbych ddiwedd mis Ebrill. Y rhagolygon yw y bydd y digwyddiad hwn yn gyfle diddorol arall i unigolion ymgolli yn harddwch a phwysigrwydd perllannau.

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau a chyfleoedd i gymryd rhan yn y dyfodol, anogir y rhai sydd â diddordeb i gysylltu â horticulturecluster@wrexham.ac.uk.