Lleihau gwastraff mewn garddwriaeth: Canllaw ymarferol i fusnesau

Ynglŷn â’r canllaw hwn

Mae’r gost gynyddol sydd ynghlwm wrth waredu gwastraff, yr effeithiau amgylcheddol dilynol, fel nwyon tŷ gwydr a llygredd dŵr, ynghyd â deddfwriaeth newydd a mwy o alw yn y farchnad, yn ffactorau sy’n sbarduno busnesau i leihau eu gwastraff.

Er mwyn gwneud hyn, rhaid i fusnesau garddwriaethol wybod ble y mae’r gwastraff yn digwydd yn eu prosesau, y mathau o wastraff a gynhyrchir a’r camau ymarferol y gallant eu cymryd i atal neu leihau gwastraff rhag digwydd.

Mae’r canllaw hwn yn cyflwyno ffyrdd ymarferol y gall busnesau garddwriaethol eu rhoi ar waith i atal a lleihau mathau cyffredin o wastraff rhag cael eu cynhyrchu yn eu gweithrediadau. Mae’n cynnwys tair adran gyda chamau ymarferol ym mhob un, sydd â’r bwriad o greu cynllun lleihau gwastraff yn y pen draw.

Mae’n un o blith cyfres o ganllawiau ymarferol y mae Garddwriaeth Cymru yn eu llunio ar gyfer y diwydiant. Nid yw’n ymdrin â gwastraff dŵr na gwastraff cemegol – ymdrinnir â’r rhain ar wahân.

Oeddech chi’n gwybod?

–          Bydd y dreth dirlenwi’n codi i £94.15 / tunnell ym mis Ebrill 2020.

–          Er mwyn helpu i liniaru newid hinsawdd, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu rhwymedigaethau cyfreithiol i arwain at leihad o 80% o leiaf mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050. Disgwylir i fusnesau sy’n dymuno cael cymorth gan Lywodraeth Cymru ddangos y dulliau a roddir ar waith ganddynt i gyrraedd y nod hwn.

 

  1. Cyfeiriadur deunyddiau gwastraff cyffredin

Gall y gwastraff a gaiff ei greu mewn garddwriaeth amrywio o ran math, amlder a swm. Gall hyn ddibynnu ar beth a gaiff ei gynhyrchu a sut y bydd yn cyrraedd y cwsmer. Yn y tabl isod ceir gwybodaeth gryno am y mathau cyffredin o wastraff sy’n deillio o weithrediadau garddwriaeth.

Cam 1: Defnyddiwch y rhestr isod i weld pa fathau o ddeunyddiau gwastraff sy’n deillio o’ch gweithrediadau.
Deunydd gwastraff Defnydd nodweddiadol Camau ataliol
Metel –          Trolïau

–          Hambyrddau

–          Caniau

–          Ffoil

–          durol, modd ei ailddefnyddio

–          gellir ailgylchu alwminiwm a dur yn rhwydd

Pren –          Paledau

–          Cratiau

–          Stwff llenwi tyllau

–          gellir compostio sglodion a naddion coed gyda gwastraff gardd

–          gellir ailddefnyddio neu ailgylchu stripiau ac estyll

Gwydr –          poteli

–          jariau

–          ffenestri

–          hawdd ei ailgylchu

–          gellir diheintio ac ailddefnyddio deunyddiau pecynnu

Plastig –          Potiau

–          Hambyrddau

–          Bagiau

–          Peipiau

–          ar y cyfan, gellir ailgylchu eitemau plastig nad ydynt yn blastig du

–          gellir ailgylchu potiau planhigion, tybiau a hambyrddau sydd wedi’u gwneud o blastig du trwy gyfrwng rhai cynlluniau ‘cymryd yn ôl’

–          gellir diheintio ac ailddefnyddio eitemau plastig durol

Rwber –          Teiars

–          Menig

–          gellir ei ailgylchu

–          angen ei waredu mewn modd arbenigol

Papur a cherdyn –          Bocsys

–          Bagiau

–          Labeli

–          gellir eu compostio a’u hailgylchu

–          yn aml mae technegau atal lleithder ychwanegol yn rhwystro hyn

 

Swbstrad –          Rhisgl coconyt

–          Stwff potio

–          Compost gwyrdd

–          gellir ei ailgylchu ar ôl ei ddiheintio ac yn aml caiff maetholion eu hychwanegu
Gwastraff bwyd –          Cynnyrch sydd wedi’i wrthod neu heb ei werthu –          gellir ei roi i elusennau os yw’n addas i’w fwyta

–          ei werthu fel cynhwysyn neu fwyd anifeiliaid

–          hawdd ei gompostio os nad yw wedi’i brosesu

Olew –          Peiriannau ffermio a phrosesu –          gellir ei ailgylchu

–          angen ei waredu mewn modd arbenigol

Eitemau electronig –          Batris

–          Cetris peiriannau argraffu

–          Offer TG

–          gellir eu hailgylchu

–          angen eu gwaredu mewn modd arbenigol

 

  1. Gweld ble y caiff gwastraff ei gynhyrchu

Ar ôl ichi ganfod y mathau o wastraff a all ddeillio o’ch gweithrediadau, byddai’n fuddiol cael gwybod ble y mae’r gwastraff hwn yn digwydd yn ystod eich proses gynhyrchu. Bydd gwneud hyn yn eich helpu i flaenoriaethu’r meysydd lle y gallwch leihau gwastraff.

Mae’r diagram isod yn disgrifio dadansoddiad tri cham sy’n rhan o weithrediad garddwriaeth nodweddiadol.

Cam 2: Gan ddefnyddio’r rhestr o ddeunyddiau gwastraff a luniwyd gennych yn ystod Cam 1, ystyriwch ble y mae pob un yn digwydd ar sail holl gamau eich gweithrediad.
Gall prynu a defnyddio nwyddau a gwasanaethau greu gwastraff y mae’n rhaid cael gwared ag ef. Er enghraifft, pan gaiff nwyddau eu danfon mewn deunyddiau pecynnu untro.

Gellir lleihau gwastraff trwy ei gadw mewn cof wrth ddewis cyflenwyr a thrwy ystyried o ble y cewch eich deunyddiau crai.

Mae gan wahanol fusnesau ddulliau cynhyrchu gwahanol, a gall gwastraff ddigwydd trwy gydol y broses hon – er enghraifft, gall atgyweirio peiriannau, planhigion a chynnyrch a wrthodir, a gormod o swbstrad, arwain at wastraff.

Gellir lleihau gwastraff trwy ganfod y mathau o wastraff y gellir eu hosgoi a chymryd camau i gael gwared â nhw o’ch prosesau cynhyrchu.

Mae pecynnu’n sicrhau y gellir storio eich cynnyrch a’i ddanfon yn ddiogel i gwsmeriaid, a hynny yn y cyflwr gorau posibl – mae hyn yn hollbwysig.

Gellir lleihau gwastraff trwy osgoi defnyddio gormod o ddeunyddiau pecynnu a thrwy roi’r gorau i ddefnyddio deunyddiau pecynnu untro.

 

  1. Rheoli gwastraff

Ar ôl ichi nodi’r mathau o ddeunyddiau gwastraff a ble y maent yn digwydd, y cam nesaf yw llunio cynllun gweithredu i nodi sut y byddwch yn delio â’r gwastraff hwn.

Y senario ddelfrydol yw rhwystro’r gwastraff yn y lle cyntaf. Pan na ellir rhwystro’r gwastraff a gaiff ei greu gan eich busnes, dylech ystyried y camau hyn yn y drefn a ganlyn:

  1. Arbed: A allwch nodi ble yn union yn eich busnes y gallwch gymryd camau i leihau’r gwastraff y mae eich busnes yn ei greu? Er enghraifft, trwy roi cynnyrch nad yw’n cyd-fynd â’r fanyleb i elusennau, trwy ddefnyddio deunyddiau pecynnu ysgafnach, neu trwy swmp-brynu.
  2. Ailddefnyddio: A ellir ailddefnyddio rhywfaint o’r gwastraff? Mae compostio llystyfiant gwastraff, ailddefnyddio eitemau plastig, a defnyddio deunyddiau pecynnu y gellir eu dychwelyd, yn ffyrdd cyffredin ac effeithiol y gall busnesau eu rhoi ar waith i ymestyn oes deunyddiau a fyddai, fel arall, yn mynd yn wastraff.
  3. Ailgylchu: A allwch wahanu deunyddiau gwastraff fel y gellir eu casglu? Beth am greu mannau storio a biniau ar gyfer gwahanol fathau o wastraff – wedyn, gellir eu danfon i sefydliadau casglu gwastraff cyfrifol, neu ofyn i sefydliadau o’r fath eu nôl.
Cam 3: Defnyddiwch eich rhestr o ddeunyddiau gwastraff a’r wybodaeth am ble y mae’r gwastraff yn digwydd (Camau 1 a 2) i ystyried camau ymarferol y gallwch eu cymryd i leihau’r gwastraff hwn neu ei atal rhag cael ei gynhyrchu.

Ar ôl mynd trwy’r camau hyn, os bydd gennych rywfaint o wastraff na ellir ei osgoi, gallwch naill ai ei anfon i safle tirlenwi neu ei losgi. Dim ond pan fetho popeth arall y dylid ystyried gwneud hyn.

Oeddech chi’n gwybod?

–          Mae’r Economi Gylchog yn disgrifio prosesau sy’n arwain at barhau i ddefnyddio deunyddiau mor hir ag y bo modd, gan leihau gwastraff o’r herwydd. Mae arferion da’n cynnwys compostio, lle y bydd cynnyrch a llystyfiant gwastraff yn pydru’n naturiol, a gwerthu cynnyrch salach, er enghraifft ‘llysiau di-siâp’, fel cynhwysion crai.

–          Wrth waredu gwastraff, rhaid ichi sicrhau eich bod yn cadw cofnod o bob derbynneb ac anfoneb a gewch gan sefydliadau casglu a gwaredu gwastraff.

 

  1. Diolchiadau a darllen pellach

Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn y canllaw hwn yn gywir a chyfredol ar yr adeg y cafodd ei ysgrifennu. Yn anochel, bydd pethau’n newid – datblygiadau mewn technoleg, newyddbethau, newidiadau mewn deddfwriaeth. Mae busnesau garddwriaethol yn wynebu heriau unigryw, ac mae gan nifer ohonynt anghenion unigol, felly ein gobaith yw y gellir defnyddio’r canllaw hwn ochr yn ochr â’ch gwaith ymchwil eich hun er mwyn eich helpu i gymryd camau i leihau gwastraff yn eich gweithrediadau.

Mae’r canllaw hwn yn un o blith cyfres o ganllawiau ymarferol y mae Garddwriaeth Cymru yn eu llunio ar gyfer y diwydiant. Mae’r rhain i’w cael yn rhwydd ar-lein: https://horticulturewales.co.uk/cy/adnoddau/packaging-and-waste-reduction/

Dyma adnoddau ar-lein eraill a all eich helpu ar eich ffordd. Cliciwch ar y dolenni i fynd at y gwefannau allanol.

Polisi a deddfwriaeth

Cymorth Busnes

  • – Sefydliad a noddir gan Lywodraeth y DU yw WRAP. Ei nod yw annog ailgylchu gwastraff ac effeithlonrwydd adnoddau mewn busnesau. Ceir gwybodaeth am arddwriaeth: http://www.wrap.org.uk
  • – Gwasanaeth cymorth busnes Llywodraeth Cymru yw Busnes Cymru. Mae’n cynnig cyngor ynghylch cychwyn a rhedeg busnes, a cheir dolenni’n arwain at raglenni cymorth yn y maes garddwriaeth, fel Cyswllt Ffermio a Tyfu Cymru, yn cynnwys gwybodaeth am reoli gwastraff: https://businesswales.gov.wales/cy/rheoli-gwastraff

Ffynonellau gwybodaeth eraill

Mae amrywiaeth enfawr o erthyglau i’w cael ar-lein, a rhestrir ambell un ddefnyddiol isod:

Cyhoeddwyd yn 2019 gan: Garddwriaeth Cymru, www.horticulturewales.co.uk

Comisiynwyd gan: Jane Edwards, Garddwriaeth Cymru

Awdur ac ymchwil: Iain Cox – Ecostudio, www.ecostudio.org.uk