ASTUDIAETH ACHOS: Loggerheads Gourment Mushrooms

Mike ydw i, sefydlydd loggerheads gourmet mushrooms.

Ar hyn o bryd, rwy’n rhedeg y busnes ar fy mhen fy hun. Mae llond llaw o fusnesau bach eraill sy’n fy nghefnogi i, ond ar hyn o bryd, rwyf ar fy mhen fy hun mewn gwirionedd. Cyn imi ddechrau yn y byd tyfu madarch, roedd gen i asiantaeth gwerthu tai ers sawl mlynedd. Swydd a oedd yn peri llawer o straen, a phan ddaeth yn amser imi ymddeol, meddyliais ‘rwyf eisiau gwneud rhywbeth sy’n cynnwys, gobeithio, cymaint o ailgylchu ag sy’n bosibl’. Ailgylchu oedd fy mhrif ffocws. Des ar draws ffordd o dyfu madarch ar waddod coffi, a sbardunodd hynny fy niddordeb, a dechreuais ymchwilio a gwneud cyrsiau ar-lein, ac mae wedi tyfu o hynny.

Roeddwn i eisiau ailgylchu drwy’r amser o’r dechrau, mae ailgylchu’n rhan fawr o’r hyn rydym yn ei wneud, felly mae nifer o’r deunyddiau rwyf yn eu defnyddio yn yr uned wedi eu hailgylchu. Pethau fel hen gasys pacio, mae nifer o’r bordiau Correx wedi dod o hen fordiau nad yw argraffwyr yn eu defnyddio erbyn hyn, felly, fe allech weld bwrdd poster ar y stryd fawr, ac mae ychydig o hwn wedi dod o bethau felly. Roedd hynny’n rhan fawr ohono i ddechrau, ond dechreuodd tyfu madarch droi, nid yn obsesiwn, ond yn hynod ddiddorol, yn eithaf anoracaidd yn ystod y cwpl fisoedd cyntaf, ond, mewn gwirionedd, mae wedi meddiannu pob rhan o fy mywyd! Ac, mae’r adborth rwyf wedi ei gael gan y cyhoedd, sy’n llawn edmygedd o’r hyn yr ydym yn eu tyfu a sut ydym yn eu tyfu, a’r ffaith, wyddoch chi, ei fod yn ecogyfeillgar. Ond, credaf fod hynny wedi rhoi hwb gwirioneddol i mi, i dyfu hyd yn oed mwy, y ffaith bod pobl ar y cyfan yn dweud ei fod yn beth mor arbennig!

Ar hyn o bryd, rwy’n tyfu amrywiaeth o Wystrys y Coed, felly mae gennym ni Wystrys Aur, Wystrys Llwyd, Wystrys Brenhinol, maent yn hynod boblogaidd! Rwyf hefyd yn tyfu ac yn gwerthu Madarch Shiitake, Madarch Mwng Llew, ac rwy’n chwilio am amrywiaethau eraill y gallaf eu tyfu yn yr amgylcheddau sydd gen I.

Cysylltodd Garddwriaeth Cymru â mi, tua llai na blwyddyn yn ôl. Cefais fy ngwadd i ddod i un o’r digwyddiadau, a oedd, mewn difrif, yn hynod ddefnyddiol i mi. Cefais gwrdd â busnesau eraill, a chefais gymorth da gan rai o aelodau o’r tîm. A chefais fy nghyfeirio at feysydd. Maent wedi bod o fudd enfawr i mi, mewn gwirionedd. O’r holl grwpiau sydd ar gael sy’n cefnogi busnesau newydd, credaf fod Garddwriaeth Cymru wedi bod yn hynod ddefnyddiol.

Credaf mai un o’r prif heriau ar y dechrau oedd yr ochr cydymffurfio o bethau. Felly yn amlwg, rydym yn delio â phethau sy’n ymwneud â bwyd. Un o’r heriau y des ar ei thraws oedd bod rhaid i rai o’r cynnyrch yr ydym yn eu gwerthu, er enghraifft y Pâté gael eu profi. Heb y cyflwyniad gan Izzy, ni fyddwn wedi dod i wybod am hynny, nac wedi gallu gwneud hynny. Neu, ni fyddai wedi bod yn gost effeithiol i’w wneud. Hynny oedd fwyaf defnyddiol, mae’n debyg, y cyflwyniad iddynt.

Dywedodd Jane o Garddwriaeth Cymru bod rhai siopau posibl ar gael i mi yn ardal Wrecsam, ac rwyf wedi cael gwahoddiad i gynnal stondin yn gwerthu, a bydd modd i mi wneud hynny yn y dyfodol agos. Rwyf angen sicrhau bod gen i ddigon o stoc i ateb y galw.

Rwyf wir yn credu bod yr hyn yr ydych chi’n ei wneud yn Garddwriaeth Cymru yn fuddiol i fusnesau newydd a bach, o’i gymharu â rhai o’r sefydliadau eraill sydd, yn amlwg â chyllideb, ond efallai nad yw’r arian yn cael ei wario yn y ffordd gywir? Dyna fy marn i fel person busnes bach. Gallaf fynd ar gyrsiau drwy’r dydd, ond nid yw hynny am dyfu madarch i mi! Ac nid yw am fy helpu i gael gafael ar y llwyth nesaf o offer sydd ei angen arnaf.

Rwyf wedi bod yn y byd busnes ers sawl blwyddyn, na, nid wyf wedi bod yn y busnes tyfu er erioed, ond rwy’n ymwybodol o hanfodion tyfu busnes. I mi, mae rhai meysydd penodol yr wyf yn dda iawn ynddynt, ac eraill lle nad wyf mor gryf. Credaf fod Garddwriaeth Cymru wedi rhoi’r cymorth i mi, nid o reidrwydd cymorth ariannol, ond pobl ariannol, sy’n gwybod sut i ymdrin â’r rhifau, ac yn gwybod sut i edrych ar elw a cholled. Mae gen i syniad go dda o ba mor broffidiol y gall y busnes fod a pha mor broffidiol ydyw, ond hoffwn adeiladu ar hynny, ymlaen o’r maes hwnnw. Credaf fod angen cefnogaeth ar safleoedd! Mae yno unedau gwag ledled Cymru y gallwn  weithio ohonynt. Oherwydd, mae’r busnes hwn yn un bach, ond yn ddigon hawdd ei ymestyn! Ar hyn o bryd, gallaf dyfu tua 50 cilos o Fadarch Shiitake yr wythnos, yr unig beth sy’n fy rhwystro rhag tyfu mwy yw maint y lle a’r offer.

Yn y dyfodol, dymunaf weld y busnes yn ffynnu! Rwy’n hyderus iawn bod galw uchel allan yna, oherwydd rwyf wedi gwneud fy ymchwil i’r farchnad. Yn bersonol, hoffaf ganolbwyntio ar y datblygiad, fel fy mod â chyfleuster tyfu mwy, a fyddai’n estyn allan i bartneriaid busnes, a fyddai’n gwerthu ar ran Loggerheads Gourmet Mushrooms.

Yng Nghymru, yn fy marn i, mae cyfle enfawr i ni ddatblygu’r sector tyfu madarch. Os edrychwch chi, ar y cyfan, mae’r rhan fwyaf o fadarch yn cael eu mewnforio, fel arfer o’r Iseldiroedd. Pan nad ydym yn gwneud hynny yng Nghymru?

Mae digon o dyfwyr eraill, fel fi, a chredaf pe byddai pawb yn dod ynghyd, fel grŵp, mae potensial enfawr inni fod yn tyfu’r madarch gorau sydd ar gael. Dyna beth rydym yn ei wneud yma, nid ydym yn cynhyrchu toreth o fadarch nad oes blas iddynt, gallem fod yn cynhyrchu toreth o fadarch da, y mae’r cyhoedd wir eu heisiau. Ond sut ydym yn cael y buddsoddiad hwnnw.

Gall Garddwriaeth Cymru ein helpu i daro goleuni ar yr hyn yr ydym yn ei wneud, ac edrych ar y potensial gwirioneddol. Oherwydd, rwyf wir yn credu bod potensial enfawr yno.