Adnabod cyltifarau Afalau a Gellyg drwy ddulliau proffilio DNA ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o fod yn gweithio gyda Rhwydwaith Afalau Marcher i ddarparu gwasanaethau adnabod cyltifarau afalau a gellyg drwy broffilio DNA. Er mwyn adnabod eich cyltifar, anfonwch eich samplau meinwe ffres (dail, coesynnau neu ffrwythau) drwy’r post dosbarth cyntaf mewn bag polythen ar gau i:
Dr Danny Thorogood
IBERS,
Gogerddan,
Aberystwyth,
SY23 3EE.
Ffôn: +44 1970 823176
Ffôn symudol: +44 7980 919583
e-bost: dnt@aber.ac.uk
Cofiwch gynnwys eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn a’ch cyfeiriad e-bost hefyd. Anfonir anfonebau o £23* + TAW atoch ar ôl i chi gael gwybod bod eich cyltifar wedi’i nodi yn llwyddiannus mewn adroddiad byr. Mae’n ddefnyddiol i chi gysylltu â Dr Thorogood cyn anfon samplau i sicrhau eu bod nhw’n cael eu sychrewi ar unwaith ar ôl cyrraedd a’u storio er mwyn paratoi ar gyfer echdynnu DNA. Os oes mwy nag un sampl wedi’i gynnwys, cofiwch labelu’n glir y samplau unigol.
*prisiau 2021 yn debygol o gynyddu
Methodoleg
Gellid echdynnu symiau digonol o DNA er PCR llwyddiannus o ystod o samplau meinweoedd byw megis dail gwyrdd, ffrwythau ar unrhyw gam datblygu gan gynnwys ffrwythau aeddfed wedi’u storio, coesynnau a meinweoedd blagur gan gynnwys blagur cwsg. Mae hyn yn golygu bod modd adnabod cyltifarau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Cynhelir y proffilio DNA drwy ddefnyddio deuddeg o farcwyr microloeren (ailadrodd dilyniant syml) a ddatblygwyd fel cyfres o safonau Ewropeaidd ar gyfer adnabod cyltifarau afalau. Bydd y DNA yn cael ei echdynnu drwy ddefnyddio pecyn bach planhigion Quiagen DNAeasy ac ar ôl gwanediad priodol a PCR, gan ddefnyddio deunydd preimio â labeli lliwio fflworoleuol aml-haen, bydd y DNA yn mynd drwy broses electrofforesis capilarïaidd gan ddefnyddio Dadansoddwr DNA ABI 3730 (Biosystemau Cymhwysol). Cyflawnir galwadau alel drwy ddefnyddio meddalwedd Genemapper v3.7 a chânt eu haddasu i alinio â galwadau alel yn unol â chyfres o samplau DNA o gyltifarau hysbys a ddarperir gan Dr Matthew Ordidge, Curadur y Casgliad Ffrwythau Cenedlaethol ym Mhrifysgol Reading, a bydd yn cael ei gynnal ar beiriant Dadansoddwr DNA IBERS, ABI 3730. Bydd y cyltifarau’n cael eu hadnabod drwy sgrinio proffiliau samplau yn erbyn fersiwn bresennol Fingerprint Explorer FruitID – SSR Malus taenlen MS Excel a ddatblygwyd gan Mr Peter Laws. Mae’r daenlen yn cynnwys dros 3,000 o fathau o afalau gan gynnwys Casgliad Ffrwythau Cenedlaethol Brogdale cyfan a chyltifarau sydd eisoes wedi’u sgrinio drwy’r cynllun Cofrestr Cyltifarau Lleol.
Telerau ac Amodau
Hyderwn fod y canlyniadau a dderbyniwch o ran adnabod yn gywir, ac yn adlewyrchu hunaniaeth enoteipaidd y samplau o feinweoedd a ddarperir. Fodd bynnag, sylwch y gallai mân amrywiadau o’r math hysbys fodoli (gelwir hyn yn ‘sports’). Cânt eu creu drwy fwtaniadau llysieuol mewn rhannau bach iawn o enom y planhigyn (genau sengl yn aml). Gall y mwtaniadau hyn gael effeithiau mawr ar nodweddion amrywiad, er eu bod i bob pwrpas yn debyg iawn i gyfansoddiad genetig y planhigyn gwreiddiol. Amrywiad cyffredin a rheolaidd o Eginblanhigyn y Bramley yw’r Crimson Bramley. Fel y byddech chi’n disgwyl, mae’n cynhyrchu ffrwythau sy’n llawer mwy coch na’i amrywiad agos. Ni fydd y data proffilio DNA a gasglwn yn gallu gwahaniaethu rhwng yr amrywiadau hyn. Gellid cynnal dadansoddiad morffolegol er mwyn gwahaniaethu. Drwy ddatblygu ymhellach technolegau dilyniant y genhedlaeth nesaf (NGS), fel maent yn cael eu galw, efallai y bydd hi’n bosibl cynnal profion genetig o fewn cwmpas cyllideb gyfartalog aelwyd i sgrinio ar gyfer ffurfiau mwtan fel hyn.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am hunaniaeth gyltifar y ffrwyth mewn adroddiad a fydd yn cynnwys y data proffil DNA crai. Byddwn yn cadw’r data fel cyfeirnod cyfrinachol. Efallai yr hoffech gyflwyno amrywiad annhebyg i’w ystyried i gael ei enwi a’i gofrestru ar restr y Gofrestr Cyltifarau Lleol, dan reolaeth Peter Laws o FruitID. I gael rhagor o fanylion am y cynllun hwn, ewch i wefan FruitID.com neu cysylltwch â Rhwydwaith Afalau Marcher. Nid yw cofrestru’n golygu Hawliau Bridwyr Planhigion na’n nodi unrhyw werth o ran y cyltifar sydd wedi’i gofrestru ar y cynllun.
Yn yr achos annhebygol na fyddwn yn gallu prosesu eich sampl, byddwn yn cysylltu â chi ac yn fodlon iawn derbyn sampl arall i’w ddadansoddi am ddim.
Ein nod yw nodi eich sampl yn y cyfnod amser byrraf posibl. Mae hyn yn dibynnu ar nifer y samplau sydd gennym i’w prosesu, gan ei fod yn llawer mwy cost-effeithiol i brofi samplau gyda’i gilydd, ond gallwch ddisgwyl cael gwybod o fewn chwe mis ar y mwyaf o dderbyn y sampl.
Dolenni Defnyddiol:
DNA profiling at Aberystwyth University – Marcher Apple Network