Mae Garddwriaeth Cymru yn eich gwahodd yn wresog i Gyfarfod Cymru Gyfan gan Glwstwr Perllannau Treftadaeth Genedlaethol

Ein cynllun ar gyfer y dydd:

• 2020 a Thu Hwnt: Mae’r Clwstwr hwn eich angen CHI! Sut mae’r Clwstwr yn symud yn ei flaen yn 2020 a thu hwnt.
• Hanesion Aelodau’r Clwstwr a rhwydweithio – cyfle i rannu arbenigedd Perllannau Cenedlaethol Cymru
• Taith o amgylch cyfleusterau Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS)
• Cinio a lluniaeth ar gael

Mae tocynnau am ddim, ond rydym angen i chi gofrestru yma.

Pryd ac ymhle?

Dydd Mercher 4 Mawrth 2020
11.00am – 3.00pm
IBERS, Prifysgol Aberystwyth, Penglais, Aberystwyth SY23 3DA

Fe welwn ni chi yno!