Tyfu er ansawdd

Horticulture Wales

1. Tyfu er ansawdd

Tyfu er ansawdd Mae tyfu cnydau o ansawdd o fudd i bawb yn y gadwyn gyflenwi. Mae tyfwyr yn cael gwell prisiau, llai o golledion wrth storio ac mae llai o’u cnydau’n cael eu gwrthod; gall cyfanwerthwyr a manwerthwyr feithrin enw da a sicrhau ‘teyrngarwch’ cwsmeriaid ac mae’r defnyddiwr yn cael cynnyrch o ansawdd da.

Mae’r Canllaw hwn yn ymdrin â ffrwythlondeb y pridd, amrywogaethau cnydau, rheoli plâu ac afiechydon a rheoli dŵr. Gyda’i gilydd, mae’r ffactorau hyn yn hybu planhigion cryf sy’n tyfu’n gyflym i gystadlu yn erbyn chwyn, gwrthsefyll neu oddef heriau o ran plâu ac afiechydon, lleihau problemau yn ystod storio a lleihau’r nifer o gnydau a gaiff eu gwrthod.

Ffrwythlondeb y pridd a’i reoli Mae pridd iach yn sail i system gynhyrchu gynaliadwy a chynhyrchiol. Mae rheolaeth pridd yn bwnc eang ac mae canllaw Rheolaeth Pridd ar gyfer Garddwriaeth AHDB (yn llawn) yn darparu gwybodaeth fanwl a chanllawiau ymarferol. Dyma’r prif bwyntiau: Gofynion maeth a chyflenwad • Mae cnydau yn amrywio o ran eu gofynion maeth. Dengys y tabl isod y ‘symiau a dreulir’ o’r maetholion planhigion allweddol – Nitrogen (N), Ffosfforws (P) a Photasiwm (K) gan rai cnydau allweddol.

Mae’r cydbwysedd o faetholion yn amrywio o gnwd i gnwd. Mae gan domatos, ciwcymbrau a chnydau eraill lle mae’r ffrwyth yn cael ei gynaeafu alw uchel am botasiwm; mae gan fresych a chnydau deiliog eraill alw uchel am nitrogen; ac mae gan datws ofynion uwch am ffosfforws a photasiwm.

• Mae rhai maetholion eraill yn ofynnol (mewn rhai achosion symiau bychain iawn) ond maent yr un mor bwysig. Mae Calsiwm yn allweddol i ddatblygiad cellfur a Boron gan ei fod yn helpu i atal cwymp pilen blasmaidd y gell. Yn ymarferol, mae lefelau cywir o’r maetholion hyn yn golygu bod cnydau yn storio’n well am gyfnod hirach. Mae lefelau Calsiwm digonol, yn benodol, yn lleihau pydredd pen blodyn mewn tomatos a phompiynau. Mae’n helpu i atal pydredd mewn bresych wrth iddynt gael eu storio sy’n un o brif achosion colledion ar ôl cynaeafu yn y cnydau hyn. Mae gan ganllaw AHDB i Egwyddorion rheoli maetholion a defnydd o wrtaith fwy o fanylion. • Bydd y Canllaw Rheoli Maetholion a gyhoeddwyd gan AHDB yn eich helpu i deilwra cyflenwadau maetholion i gnydau unigol a gellir dod o hyd i ganllawiau ar ddulliau asesu a dadansoddi pridd yma. • Mae’r daflen ffeithiau hon yn grynodeb defnyddiol ar gyfer tyfwyr organig ac amaeth-ecolegol ar reoli maetholion yn y systemau hyn, gan ganolbwyntio ar y defnydd o wyndonnydd adeiladu ffrwythlondeb, gwrtaith gwyrdd, compost a gwrtaith anifeiliaid. pH

Er y caiff ffrwythlondeb ei drafod yn aml yng nghyd-destun y maetholion sydd ar gael yn y pridd, yr hyn sy’n cyfrif o ddifrif yw i ba raddau y mae’r maetholion hynny’n cael eu treulio gan y planhigion. Mae pH pridd yn ffactor allweddol yn hyn o beth. Treulir maetholion ar gyfraddau gwahanol ac ar lefelau pH gwahanol, fel y crynhoir yn y diagram isod.

Nid oes yr un pH sy’n addas i bob maetholyn, ond i dyfwyr llysiau mae pH o 6.0 – 7.0 yn cynrychioli canol teg. • Yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf o bridd yn tueddu i fod yn asidig. Addasir pridd felly drwy ychwanegu calch i gynyddu’r pH, ar raddau a gyfrifwyd o ganlyniadau dadansoddi pridd.

Bywydeg pridd a deunydd organig Mae deunydd organig yn elfen hanfodol o bridd. Mae ganddo sawl rôl gan gynnwys:

• Dal agregau pridd ynghyd a chynnal y strwythur • Bwydo microbau’r pridd sy’n sicrhau bod y maetholion sydd wedi’u cloi yn y deunydd organig ar gael i’r planhigion • Bwyd ar gyfer sawl math arall (heb fod yn ficrobaidd) o organebau pridd • Galluogi priddoedd i ddal a storio carbon (Rhagor yma) • Cynnal lleithder y pridd (ceir rhagor o ganllawiau yn ddiweddarach yn y gyfres hon).

Mae tyfwyr organig ac amaeth-ecolegol yn canolbwyntio’n benodol ar adeiladu deunydd organig pridd (SOM) y gellir ei gyflawni drwy: Gylchdroeon cnydau sy’n ymgorffori camau adeiladu ffrwythlondeb; gwrtaith gwyrdd tymor byr; a defnydd o gompostau a gwrtaith anifeiliaid. Mae’r canllaw hwn yn amlinellu’r elfennau sylfaenol. Fodd bynnag, mae cynyddu SOM yn hanfodol i bob tyfwr, waeth beth yw ei faint neu system. Dengys yr astudiaeth achos hon sut y gwnaeth ymgorffori gwrtaith gwyrdd mewn system tyfu bresych gonfensiynol ar raddfa-caeau arwain at fuddion gwirioneddol.

Strwythur pridd

Mae strwythur pridd yn allweddol i bridd gweithredol, cynhyrchiol. Mae strwythur agored da gyda digonedd o fylchau aer sy’n caniatáu i ocsigen dreiddio i mewn (ar gyfer resbiradaeth organebau pridd), yn helpu gyda draenio da ac yn sicrhau cyflenwad digonol o faetholion a dŵr i’r planhigyn. Mae sawl ffactor yn effeithio ar strwythur pridd

• Gwead – y cyfrannau cymharol o glai, tywod a silt. Llywir hyn i raddau helaeth gan y ddaeareg dan y pridd. Mae’n hynod bwysig, ond ychydig iawn y gall tyfwyr ei wneud i’w newid • Deunydd Organig Pridd. Fel y trafodwyd uchod, mae SOM yn hanfodol wrth adeiladu a chynnal strwythur. • Difrod strwythurol. Gall strwythur pridd gael ei ddifetha’n ddifrifol gan: o Amaethu pridd gwlyb, yn enwedig ar briddoedd trymach. Gallai gymryd blynyddoedd i adfer strwy thur pridd ar ôl amaethu amhriodol a bod yn gostus iawn yn nhermau llai o gynnyrch, ansawdd a thraeniad. o Cywasgu gan stoc a/neu beiriannau. Gellir lleihau cywasgu gan beiriannau drwy osgoi gyrru ar gaeau gwlyb (mae pridd gwlyb yn hynod agored i ddifrod gan gywasgu); lleihau maint peiriannau a chyfan swm pwysau echel; a lleihau gwasgedd teiars (gweler Rheolaeth Pridd ar gyfer Garddwriaeth am fanylion).

Dewis amrywogaeth

Mae dewis amrywogaeth yn fater o gydbwyso nifer o ffactorau gan gynnwys amodau tyfu, math o bridd, cadwyni cyflenwi a marchnadoedd. Yn hanesyddol, byddai’r Sefydliad Cenedlaethol Botaneg Amaethyddol (NIAB) yn cynnal treialon helaeth yn edrych ar ystod eang o ffactorau megis cynnyrch, ymwrthedd i blâu ac afiechydon, egni a nodweddion agronomig eraill. Fodd bynnag, dros y 15 mlynedd diwethaf, mae cwmnïau hadau wedi datblygu i fod yn brif ffynhonnell y math hwn o wybodaeth. Yr eithriad yw tatws ac mae AHDB Potatoes yn dal i gadw cronfa ddata o amrywogaethau yma

Mae’r llwybr i’r farchnad yn dylanwadu’n fawr ar y dewis o amrywogaeth.

• Mae cynhyrchu ar gyfer cyfanwerthwr mawr neu gadwyn gyflenwi archfarchnad yn gofyn am dyfu symiau mawr o ystod fach o gnydau, a gynaeafir un neu ddwywaith. Mae’r holl gnwd felly angen bod yn barod i’w gynaeafu tua’r un pryd. Mae’r rhan fwyaf o dyfwyr sy’n cynhyrchu ar gyfer y farchnad hon felly yn ffafrio amrywogaethau hybrid F1 sy’n ddibynadwy o unffurf. • Mae tyfu ar gyfer cynllun blychau neu stondin mewn marchnad yn golygu cynaeafu symiau bychain o ystod eang o gnydau dros gyfnod hir. Yma, mae angen i blanhigion aeddfedu ar adegau gwahanol dros gyfnod o wythnosau neu hyd yn oed misoedd, ac mae amrywogaethau hunan-beillio yn tueddu i fod yn fwy addas.
• Mae’r cyfnod/tymor y mae’r cynnyrch yn ofynnol ar ei gyfer yn ffactor allweddol. Mae gan sawl cnwd amrywogaethau gwanwyn / hydref / gaeaf / cynnar / hwyr. Mae’n bosib sicrhau cyflenwadau gydol y flwyddyn o rai cnydau megis blodfresych yn y cae, a chnydau salad deiliog sy’n tyfu dros y gaeaf mewn twnelau polythen. Gall fod angen pump i chwe amrywogaeth wahanol i gyflawni cynhyrchu gydol y flwyddyn. • Rhaid ystyried hyfed y graddau o beiriannau a’r nifer o gamau trin ar ôl cynaeafu sy’n ofynnol. Er enghraifft, lle defnyddir peiriannau i becynnu a graddio tomatos, mae amrywogaethau gyda chroen mwy trwchus yn ofynnol. Mae’r rhain yn gwrthsefyll peiriannau yn eu trin (a dyma un o’r rhesymau pam fod nifer o bobl yn credu bod tomatos gyda chroen mwy tenau, cartref yn blasu’n well). • Os oes angen storio’r cnydau, mae rhai amrywogaethau yn cadw’n well na’i gilydd: Bridir rhai amrywogaethau o nionod yn benodol gyda storio dan sylw; mae rhai amrywogaethau o foron yn fwy goddefgar o rew nag eraill ac felly’n cadw’n well yn y cae; ac mae gan rai tatws megis amrywogaethau Sarpo gysgadrwydd wedi’i feithrin ynddynt fel y gellir eu storio’n bell i mewn i’r gwanwyn heb yr angen am eu storio mewn amodau oer.

Rheolaeth o blâu, afiechydon a chwyn O safbwynt ôl-gynaeafu mae rheoli plâu ac afiechydon yn y cnwd a dyfir yn bwysig am ddau reswm
1. I leihau’r nifer o gnydau a gaiff eu gwrthod 2. I leihau plâu/heintiau sy’n datblygu wrth storio ac yn achosi colledion sylweddol.
Mae rheolaeth lwyddiannus o blâu ac afiechydon yn cynyddu’r ffracsiwn marchnad – y gyfran o gnydau a dyfir sy’n werthadwy. Mae systemau rheolaeth integredig o blâu/afiechydon wedi’u datblygu’n dda erbyn hyn ar gyfer systemau plâu / pathogenau / cnydau. Mae’r systemau hyn yn edrych ar ddefnyddio plaladdwyr fel y dewis olaf, a chyn unrhyw beth arall yn dibynnu ar gyfuniad o ddulliau di-gemegol (mae cynhyrchwyr organig yn dibynnu bron yn gyfan gwbl ar y dulliau hyn). Maent yn cynnwys:
• Rheolaeth ddiwylliannol. Mae hyn yn ymwneud â’r ffordd y caiff y cnwd ei dyfu ac yn cynnwys cylchdroi cnydau, amseroedd plannu a chynaeafu, arferion amaethu i reoli plâu a chwyn yn y pridd, a dewis amrywogaeth; • Dulliau ffisegol/mecanyddol. Mae’r rhain yn cynnwys chwynnu, defnyddio cnu heb ei wehyddu, rhwyllau neu rwydi i atal pryfed/adar rhag gallu pigo ar y cnwd, taenfeydd i reoli chwyn etc; • Rheolaeth fiolegol. Naill ai drwy gyflwyno ysglyfaethwyr / parasitiaid llesol (mwyaf perthnasol i dai gwydr/ twnelau polythen), neu drwy ehangu’r amgylchedd / creu cynefin ar gyfer y rhain ar y fferm ac o fewn y system gnydio; • Bioblaladdwyr. Plaladdwyr ‘naturiol’ yw’r rhain. Gallant fod yn seiliedig ar echdynion planhigyn (e.e. garlleg), tocsinau microbaidd (megis Bacillus thuringinenses), neu o bathogenau byw megis ffyngau entomopathogenaidd sy’n bwydo ar bryfed megis Beauveria a Metarhizium.
Mae Canllaw Rhif 3 yn y gyfres hon: ‘Rheoli Plâu, Chwyn ac Afiechydon’ yn darparu rhagor o wybodaeth.

Rheoli dŵr Mae osgoi straen dŵr, o ganlyniad i ormod neu ddim digon, yn allweddol i dyfu cnydau iach a chryf. Yn aml, mae effeithiau straen dŵr yn eithaf cyffredinol, er enghraifft oediad yn natblygiad y cnwd, llai o gynnyrch, neu lai o allu i wrthsefyll/ goddef plâu ac afiechydon a chystadlu yn erbyn chwyn. Fodd bynnag, mewn rhai cnydau mae goblygiadau ôl-gynaeafu penodol. Er enghraifft, mae amodau sych adeg sefydlu cloron yn hybu aflwydd mewn tatws a gall gor-ddyfrio arwain at domatos yn hollti. Mae Canllaw Rhif 2 yn y gyfres hon: ‘Rheoli Dŵr’ yn darparu rhagor o wybodaeth. Crynodeb Er bod y gyfres hon o ganllawiau yn canolbwyntio ar faterion ôl-gynaeafu, mae hwsmonaeth a rheolaeth dda o gnydau yn y cae yn cael effaith ddirfawr ar effeithlonrwydd y gadwyn gyflenwi. Mae’n ymwneud yn bennaf â chael yr elfennau sylfaenol yn iawn; rheolaeth dda o bridd a maetholion, cyflenwi a chynnal y lefelau lleithder pridd gorau posib, dewis yr amrywogaeth briodol, ac ymdopi â phlâu, chwyn ac afiechydon.
Adnoddau Canllawiau a thaflenni gwybodaeth
• Soil Management for Horticulture AHDB Horticulture https://horticulture.ahdb.org.uk/publication/soil-management-horticulture • Nutrient Management Guide (Sections 1 and 6) AHDB https://ahdb.org.uk/RB209
• Ffosfforws a photasiwm mewn systemau organig: Cael y gorau o’ch pridd Canolfan Organig Cymru http://organiccentrewales.org.uk/uploads/l1_pandkbestfromsoiljune2010engx.pdf
• The importance of soil organic matters: Key to drought resistant soil and sustained food production. FAO http://www.fao.org/3/a-a0100e.pdf • Canllaw ffermwyr i gynhyrchu ffrwythau a llysiau organig Canolfan Organig Cymru http://www.organiccentrewales.org.uk/uploads/hortguide_eng.pdf • Using green manures to optimise nitrogen availability to Brassica crops Innovative Farmers https://www.innovativefarmers.org/field-lab/?id=e94c6449-cb51-e711-8140-005056ad0bd4 • Cronfa Ddata o Amrywogaethau o Datws AHDB Potatoes https://potatoes.ahdb.org.uk/online-toolbox/potato-variety-database Papurau ymchwil
• AHDB Calcium Review: https://horticulture.ahdb.org.uk/sites/default/files/research_papers/FV%20457%20ADAS%20Review.pdf ADAS • Reducing wastage in stored winter cabbage and swede AHDB Horticulture https://horticulture.ahdb.org.uk/sites/default/files/research_papers/FV%20430_Report_Final_2016_0.pdf AHDB • Independent assessment of field and storage potential of onion varieties 2017/18, AHDB Horticulture https://horticulture.ahdb.org.uk/publication/independent-assessment-field-and-storage-potential-onion-varieties-201718 • Field storage of carrots: Identifying novel techniques AHDB Horticulture https://horticulture.ahdb.org.uk/project/carrots-identifying-novel-field-storage-techniques • Characteristics of Sarpo potato varieties Sarpo Potatoes Ltd http://sarpo.co.uk