ASTUDIAETH ACHOS: CANOLFAN SGILIAU’R GOEDWIG

Wythnos ddiwethaf, cawsom sgwrs gyda Rod Waterfield o Ganolfan Sgiliau’r Goedwig am y gwaith maen nhw’n ei wneud, yr hyn maen nhw wedi ei gyflawni gyda Garddwriaeth Cymru a dyfodol garddwriaeth yng Nghymru. Rydym yn gobeithio y byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ei weledigaeth gadarnhaol ar ddyfodol tyfu bwyd a chynhyrchu bwyd ar raddfa fach yng Nghymru.

BETH YW CANOLFAN SGILIAU’R GOEDWIG

Mae Canolfan Sgiliau’r Goedwig yn safle 50 acer. 70 mlynedd yn ôl roedd y rhan fwyaf o’r safle yn borfa arw wedi ei chytrefu gan natur. Cymerodd dîm Rod y safle dan eu hadain oddeutu 40 mlynedd yn ôl gyda thri amcan rheoli: cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd – wedi eu pwysoli’n gyfartal bob tro.

Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosib fwynhau a defnyddio’r coetir, o fewn yr hyn y gall y tir ei wrthsefyll.’

Mae gan Rod safbwyntiau clir ar y potensial sydd gan goetiroedd i gymunedau a’r economi, a sut y dylid eu rheoli:

Yn ein barn ni, mae’n rhyfedd fod pobl yn disgwyl symiau mawr o gymhorthdal cyhoeddus i reoli coetir. Dylai coetir fod yn adnodd economaidd…Os nad allwch wneud i’ch coetir ddwyn elw, trosglwyddwch yr awenau i rywun sydd yn gallu!

Mae ganddynt 50 acer o dir ‘gradd isel’ sydd bellach yn cefnogi oddeutu 12 – 14 swydd llawn amser.

Cychwynnodd Rod a’i dîm gynnal cyrsiau mewn crefftau traddodiadol oddeutu 25 mlynedd yn ôl. Hyd heddiw mae’r tir yn eiddo preifat i’w deulu, ond mae’r ganolfan yn eiddo i fenter gymdeithasol nid er elw, cymunedol.

GARDDWRIAETH A CHANOLFAN SGILIAU’R GOEDWIG

Felly beth yw cysylltiad Canolfan Sgiliau’r Goedwig â garddwriaeth?

Rydym eisiau gweld os allwn greu incwm o dir gradd isel. Dyma pam ein bod ni’n gwneud pethau fel y winllan, y berllan a’r ardd llysiau meddyginiaethol traddodiadol. Rydym hefyd am gael gardd lafant fechan yma ymhen blwyddyn neu ddwy. Mae’r rhain i gyd yn weithgareddau garddwriaeth ar raddfa fach, sydd a’r potensial i gynnig cyflogaeth, cyfleoedd ac incwm.’

Mae’r ganolfan yn gweithio gyda phartneriaid, plant, pobl ddi-waith, pobl sydd â phroblemau cyffuriau/alcohol…dyma pam eu bod nhw’n dilyn strwythur busnes sy’n eiddo i’r gymuned. A dyma pan eu bod nhw’n arbrofi gyda chynnyrch gardd ar raddfa fach. Maent hefyd yn ymwneud â phresgripsiynu cymdeithasol. Rhan o’r therapi yw bod yn yr awyr agored, a’r rhan arall yw gwneud rhywbeth cynhyrchiol. Mae’r elfennau garddwriaeth a rheoli coetir yn rhan annatod o hyn.

Mae Canolfan Sgiliau’r Goedwig hefyd yn hwb rhanbarthol i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru sydd wedi derbyn cyllid yn ddiweddar ar gyfer ‘Tyfu’r Dyfodol II’. Roedd yn hwb gwreiddiol i ‘Tyfu’r Dyfodol I’ oedd yn canolbwyntio fwy ar yr elfen o ardd. Mae’r cyllid newydd yn fwy amgylcheddol eang. Gofynnwyd iddynt gynnal cyrsiau compostio, dylunio ac adeiladu gwelyau planhigion uwch, impio/tocio, rheoli coedlannau cyll a gwneud cynnyrch ohonynt.

PA RAI O’N GWASANAETHAU MAENT WEDI EU DEFNYDDIO?

Mae ein perthynas â Chanolfan Sgiliau’r Goedwig yn un ddwy ffordd. Siaradodd Rob yn ein digwyddiad i lansio Clwstwr Perllannau Treftadaeth Genedlaethol Cymru a cynhaliodd weithdy yn ein digwyddiad cydweithio gyda Cywain ym Mhenarlâg.

Rydym wedi hyrwyddo Canolfan Sgiliau’r Goedwig ar sawl achlysur.  Rydym hefyd wedi cyfeirio aelodau eraill atynt. Rydym newydd fod mewn cysylltiad ag Ian Forsyth o Seven Oaks Nursery sydd yn hapus i helpu gyda gwybodaeth am dyfu lafant.

Maen nhw hefyd yn aelod o’n Clwstwr Perllannau Treftadaeth Genedlaethol Cymru.

Mae Canolfan Sgiliau’r Goedwig yn dda iawn am weithio gydag eraill, a rhannu gwybodaeth ac offer:

Rydym wedi bod yn siarad â Gwinllan Conwy gan nad yw’n werth i ni gael yr offer yma ar hyn o bryd. Gallwn ni gynaeafu ac fe allan nhw brosesu. Bellach mae gennym beiriant gwasgu afalau mwy hefyd. Mae ar gael i unigolion a grwpiau cymunedol. Rydym yn ceisio gwneud rhywbeth ynghylch y ffaith fod afalau’n syrthio oddi ar goed mewn gerddi di-rif, ond fod pobl, mae’n debyg, yn mynd i’r archfarchnad leol i’w prynu!

BETH MAENT EISIAU I NI EI WNEUD YN Y DYFODOL?

‘Byddem yn croesawu cymorth gyda’r winllan ac efallai sefydlu menter cynhyrchu madarch yma – ac yn y tymor hir gyda’r lafant.’

Rydym yn credu fod gan Rod a’i dîm y sgiliau a’r wybodaeth i feithrin tyfwyr a chynhyrchwyr brwdfrydig nesaf Cymru. Mae’n adeiladu model i eraill ei ddatblygu a’i defnyddio wrth arallgyfeirio. Rydym yn adnabod digon o bobl a allai gael budd o’u gwybodaeth a’u safle.

DYFODOL GARDDWRIAETH YNG NGHYMRU

Pan wnaethom ofyn i Rob am ei farn am ddyfodol garddwriaeth yng Nghymru, dywedodd ‘Mae’n enfawr! Rydym am weld newid mewn patrymau defnydd tir. Rwy’n credu y byddwn yn symud o systemau cynhyrchu cig helaeth. Rydym am gynyddu faint o lysiau sydd mewn diet, i gymryd lle cig. Mae galw enfawr gan ddefnyddwyr ac mae pobl eisiau bod ynghlwm â chynhyrchiant lleol ar raddfa fach.

Ychwanegodd ‘Wrth symud oddi wrth dda byw at arddwriaeth graddfa fach sy’n cael ei chynhyrchu a’i bwyta yn lleol, gellir cynhyrchu mwy o arian fesul acer na gwartheg cig eidion. A llawer mwy o swyddi. Efallai mai dim ond un gweithiwr sydd ei angen gyda da byw, ond efallai y byddwch angen 10 neu 15 yn gweithio ar bethau sydd ar raddfa fach.

Roedd gweledigaeth Rob yn canolbwyntio ar ddod â phopeth yn ôl yn lleol.

Pan rydych yn mynd i Ffrainc, mae gan bob tref iard goed ac mae’r rhan fwyaf o’r coed yn dod o 20 milltir i ffwrdd. Sylwch nad oes gan y rhan fwyaf o fasnachwyr coed yma goed sy’n dod o Brydain. Rydym yn plannu llawer o gastanwydd pêr yma. Ar ein tir gwael rydym yn plannu castanwydd pêr ac mae’n gnwd gwerthfawr. Rydym angen plannu coed sydd â defnydd iddynt. Mae gwifren ffens yn para hyd at 30 mlynedd, ond dim ond pum mlynedd o ddefnydd sydd i’r pyst – yma byddwn yn tyfu castanwydd pêr, fydd yn para yn y tir cyhyd â choed derw.’

Mae Rob yn credu, os ydyn ni am symud oddi wrth amaethyddiaeth ar raddfa fawr, mae angen i ni fod yn fwy arbrofol – dyna beth maen nhw’n ei gynnig, ar ffurf cyngor, arbenigedd a safle.

ADEG GYFFROUS I ARDDWRIAETH YNG NGHYMRU

I ddod a’n sgwrs i ben gyda Rob, gwnaethom drafod y potensial ar gyfer garddwriaeth yng Nghymru, ac roedd ei ymateb yn ysbrydoledig.

‘Rydym yng nghanol cyfnod cyffrous iawn gan ein bod ni’n deall y broblem ac yn gwybod beth yw rhai o’r atebion. Nid yw hyn yn golygu ein bod ni’n gweithredu eto. Ond ni allwn feirniadu pobl am ddefnyddio tanwyddau ffosil, taflu sbwriel i’r môr. Mae wedi digwydd. Ond rydym yn gwybod nawr. Ac mae’n gyffrous dros ben. Ond mae’n rhaid i ni ail-edrych ar beth sydd angen ei wneud a beth rydym yn fodlon talu amdano. Felly mae unrhyw beth sy’n annog dulliau gwahanol o ddefnyddio tir, cynhyrchu bwyd a garddwriaeth yn bwysig iawn. Ond mae angen cefnogaeth.

Diolch yn fawr iawn i chi, Rod.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Sgiliau’r Goedwig yma.