GARDD FURIOG FICTORAIDD ERLAS YN NHŶ PAWB GYDA GARDDWRIAETH CYMRU

Ar y cyd â Thîm Gwella Entrepreneuriaeth Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, rydym yn treialu menter newydd gyda Thŷ Pawb, hwb cymunedol Wrecsam.

Yn garedig iawn, maent wedi rhoi benthyg berfâu i aelodau ein prosiect. Darganfyddwch fwy yma.

GARDD FURIOG FICTORAIDD ERLAS YN NHŶ PAWB

Ddoe, aethom draw i weld ein haelodau yng Ngardd Furiog Fictoraidd Erlas wedi paratoi ac yn barod i gwrdd â phobl Wrecsam. Roeddent wedi dod â phopeth gyda nhw, o hadau ac egin blanhigion, i geirw wedi’u saernïo a nwyddau wedi’u gweu, popeth wedi’i gynhyrchu ar eu safle yn Wrecsam. Pan ofynnon ni sut mae pethau’n mynd, dywedodd Pat ‘mae’n brysur yn barod, rydym wedi gwerthu ambell i beth, ac nid yw hi’n 10am eto!’. Rydym mor falch eu bod wedi cael dechrau da!

Bydd Erlas yn Nhŷ Pawb bob dydd Iau rhwng nawr a’r Nadolig. Peidiwch â cholli’r cyfle.

YNGHYLCH GARDD FURIOG FICTORAIDD ERLAS

Nod Gardd Furiog Fictoraidd Erlas yw hyrwyddo a diogelu iechyd pobl ag anableddau drwy gynnig gweithgareddau ystyrlon yn ystod y dydd, addysg a phrofiad gwaith mewn amgylchedd busnes gardd, gan alluogi unigolion i ddatblygu eu galluoedd meddyliol a chorfforol, a thrwy hynny, gwella ansawdd eu bywyd.

Maent yn hyrwyddo cadwraeth, diogelu a gwella amgylchedd naturiol a ffisegol Gardd Furiog Fictoraidd Erlas, er budd addysg a mwynhad y cyhoedd.

YDYCH CHI EISIAU LLE AR GYFER EICH BUSNES YN NHŶ PAWB?

Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael o hyd yn Nhŷ Pawb – cysylltwch os hoffech chi gael lle ar gyfer eich busnes.