Siaradwr: Ray Bailey, y Gerddi Hanesyddol ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas. Prosiect HLF i ddylunio ac adeiladu gerddi Fictoraidd, Tuduraidd a Chanoloesol, mor cywir â phosibl, i gyd-fynd ag adeiladau presennol o fewn y parc Treftadaeth.
Bydd Ray yn dweud mwy wrthym am em gudd Gogledd Cymru – Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, ei henebion niferus, sut mae’r prosiect Gerddi Hanesyddol hwn yn gweddu o fewn y Parc Treftadaeth 70 erw. Sut y cafodd ei sefydlu, ei bwysigrwydd a rôl y gerddi a’r planhigion yn y Parc heddiw.
Siaradwyr: Dan Hunt (Perchennog), Siop Ddiwastraff Sustainable Weigh, Caernarfon a Paul Whitlam (Perchennog), Meithrinfeydd New Leaf, Caergybi
Mae Dan yn rhedeg siop ddiwastraff lwyddiannus yng Nghaernarfon ac yn frwd dros leihau gwastraff a phlastig. Mae bellach wedi dechrau tyfu perlysiau ffres ym mlaen y siop, a’i nod yw gwerthu perlysiau ffres yn gynaliadwy, a heb fod angen pecynnu.
Bydd Paul yn dweud wrthym am ei angerdd dros dyfu planhigion o ansawdd heb blaladdwyr, ac annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau tyfu.
Mae Paul yn cyflenwi pecynnau hadau a photiau bioddiraddiadwy ‘tyfu eich hun’ i Dan yn ogystal â rhedeg ei wefan ei hun, mynychu gwyliau bwyd, ac mae’n bwriadu agor stiwdio gydag ardal fanwerthu yn 2021.