Nod Garddwriaeth Cymru yw uno cymunedau, tyfwyr a thechnoleg

Mae prosiect Garddwriaeth Cymru, sy’n cael ei redeg drwy Brifysgol Glyndŵr, yn ôl, ac yn well nag erioed. Mae tîm newydd yn gwthio’r prosiect ymlaen, yn cefnogi tyfwyr a chynhyrchwyr Cymreig i ddatblygu eu cynnig garddwriaethol a’u cefnogi i ddefnyddio ystod o ddulliau tyfu traddodiadol a chyfoes. Nod Garddwriaeth Cymru yw uno cymunedau, tyfwyr a thechnoleg.

Mae Rheolwr Prosiect Garddwriaeth Cymru, Jon Thomas, a’r Cynorthwyydd Prosiect, Mark Roberts, wedi sefydlu amgylcheddau tyfu prawf ar gampws y brifysgol yn Llaneurgain, gan weithio ar y cyd â phrosiect Tech Tyfu Menter Môn. Cyn bo hir, bydd tyfwyr hefyd yn gallu ymweld â’r safle i weld y gwahanol gyfleoedd ffermio fertigol ar waith, o dechnolegau newydd i systemau hydroponeg sy’n cael eu bwydo drwy ddisgyrchiant.

Molly Poulter, Swyddog Prosiect Tech Tyfu Menter Môn; ‘Mae ein tîm ar ben eu digon i fod yn gweithio mewn partneriaeth â Garddwriaeth Cymru i ymestyn y cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau ac atgyfnerthu gwytnwch mewnbynnau arallgyfeirio gweledig drwy amaeth amgylcheddol a reolir.’

‘Pleser yw gweithio ochr yn ochr â Tech Tyfu i greu hwb rhanbarthol at ddibenion addysg ac ymchwil. Gan helpu i roi sylw i dechnegau tyfu amgen a defnyddiau helaeth y systemau.’  Jon Thomas.

Mae Becky a Bethan, Swyddogion Prosiect, wedi bod yn ymweld â chynhyrchwyr yng Nghymru i ddatblygu Clwstwr Cnydau Arbenigol newydd, sy’n ceisio uno tyfwyr Cnydau Arbenigol. Mae’r rhain wedi cynnwys ymweld â pherfeddion Eryri er mwyn sefydlu Real Fun Guy Gourmet Mushrooms ac wedi sefydlu Cynnyrch Mynydd ffermwyr hydro 1200 troedfedd uwch lefel y môr ger Wrecsam. Mae’r tîm hefyd wedi ymuno â phrosiectau cymunedol creadigol fe Be you to Blossom a Heart Community Productions. Mae Garddwriaeth Cymru yn pontio anghenion tyfwyr, ymgysylltiad cymunedol ac yn meithrin cysylltiadau er mwyn gwthio garddwriaeth yng Nghymru i’r lefel nesaf.

Prosiect Perllannau Treftadaeth Cymru yw’r peth sylweddol nesaf ar yr agenda, gydag Ian Sturrock, yr archwilydd afalau chwedlonol, sy’n cael ei alw’n Indiana Jones Amrywiaethau Treftadaeth Cymreig mewn rhai cylchoedd. Mae Garddwriaeth Cymru yn cyflwyno rhagor o berllannau i’r maes, yn annog ac yn grymuso perchnogion perllannau yng Nghymru i blannu rhagor o Amrywiaethau Treftadaeth Cymreig, mewn ymgais i gofleidio amrywiaethau hynafol a threftadaeth Gymreig er mwyn parhau i ddathlu hanes arbennig y wlad.

Bydd Garddwriaeth Cymru yn parhau i chwilio am ragor o aelodau Perllannau Treftadaeth Cymru a Chnydau Arbenigol, felly, os ydych chi’n meddwl eich bod yn adnabod unrhyw dyfwyr fydd â diddordeb, cysylltwch â ni:
horticulturecluster@glyndwr.ac.uk neu cysylltwch drwy ein rhestr bostio drwy www.horticulturewales.co.uk. I gael y newyddion diweddaraf, dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol @HortWales a Menter Môn; www.mentermon.com.

Caiff prosiect Garddwriaeth Cymru ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r UE hyd nes Mehefin 2023, gyda’r nod o godi proffil tyfwyr, garddwyr a chynhyrchwyr Cymreig, gan hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth ym maes Garddwriaeth Cymru a chynnyrch garddwriaethol Cymreig.