Clwstwr Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd

Mae Clwstwr Eirin Dyffryn Clwyd Dinbych yn hwyluso sefydlu clwstwr tyfwyr/cynhyrchwyr yn llwyddiannus yn dilyn y statws Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO) a ddyfarnwyd iddynt yn ddiweddar.

Datblygwyd y clwstwr hwn ar adeg pan oedd Eirin Dinbych yn y broses o dderbyn ei statws PDO, a sicrhawyd drwy ein cydweithwyr yn ADAS. Cytunodd Garddwriaeth Cymru i gynnal digwyddiad lansio mewn lleoliad lle’r oedd perllan eirin newydd ei phlannu, Llaethdy Llaeth y Llan yn Llanefydd, ar gyrion Dinbych a chyllido’r siaradwyr ar y diwrnod. Adroddodd Fay Francis o ADAS hanes y daith o sicrhau statws PDO a rhoddodd Peter James, o Safonau Masnachu Abertawe sgwrs am gydymffurfiaeth gyfreithiol mewn perthynas â chynnyrch. Creodd Garddwriaeth Cymru, ar y cyd ag ADAS, becyn i dyfwyr, sydd ar gael i bob tyfwr a chynhyrchwr, i roi canllawiau ar bob agwedd ar gydymffurfiaeth mewn perthynas â statws PDO. Bydd ar gael i unrhyw un ei lawrlwytho.

Pecyn i Dyfwyr Eirin Dinbych Garddwriaeth Cymru