ADOLYGIAD FFRAMWAITH PRENTISIAETHAU CYMRU – YMGYNGHORIAD CYHOEDDUS – YN CYNNWYS GARDDWRIAETH

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Lantra i gynnal adolygiad o sawl fframwaith prentisiaeth ar gyfer y sector diwydiannau’r tir (i gynnwys pob lefel) ac maent wedi bod yn gweithio gyda’r sectorau diwydiant priodol i adolygu’r fframweithiau presennol perthnasol.

Mae ymgynghoriadau cyhoeddus nawr wedi dechrau ar gyfer y fframweithiau drafft newydd ar gyfer Amaethyddiaeth, Peirianneg Diwydiannau’r Tir, Coed a Phren, Garddwriaeth a Chadwraeth Amgylcheddol.

Fel rhan o’r adolygiad, mae’n bwysig bod darparwyr hyfforddiant, cyflogwyr, sefydliadau cyflogwyr, undebau llafur a phrentisiaid yn rhoi adborth er mwyn gweld y darlun cyflawn o safbwynt addasrwydd y newidiadau arfaethedig i’r fframweithiau.
Felly, byddai Lantra yn ddiolchgar pe baech yn cymryd rhan.

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal dros bedair wythnos, ac yn dod i ben ar 4 Chwefror 2020.

Gallwch gwblhau’r arolygon yma:

• Amaethyddiaeth: www.surveymonkey.co.uk/r/AgricultureWales
• Cadwraeth Amgylcheddol: www.surveymonkey.co.uk/r/EnvironmentalConservationWales
• Garddwriaeth: www.surveymonkey.co.uk/r/HorticultureWales
• Peirianneg Diwydiannau’r Tir: www.surveymonkey.co.uk/r/LandbasedEngineeringWales
• Coed a Phren: www.surveymonkey.co.uk/r/TreesTimberWales

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r tîm Prentisiaethau drwy Apprenticeships@Lantra.co.uk