ASTUDIAETH ACHOS: CANOLFAN ARDDIO SEVEN OAKS, RHUTHUN

Yn ddiweddar buom ni yng ‘Nghanolfan Arddio a Chaffi’r Flwyddyn’ Cymru – Canolfan Arddio Seven Oaks sy’n cael ei rhedeg gan Ian Forsyth yn Rhuthun. Buom yn trafod y busnes ganolfan arddio yng Nghymru, tyfu yng Nghymru a’r gwaith rydym wedi ei wneud gyda’i fusnes. Rydym wrth ein bodd â’i safbwynt cadarnhaol ar ganolfannau garddio bychan yng Nghymru.

YNGHYLCH CANOLFAN ARDDIO SEVEN OAKS

Mae Ian wedi treulio ei fywyd mewn garddwriaeth. Ers iddo brynu Seven Oaks yn 2001, mae’r busnes wedi tyfu’n raddol o ran poblogrwydd a maint.

Fy mhrif nod yw parhau i adeiladu busnes lleol, wedi ei redeg gan berson lleol. Nid wyf am iddo fod yn rhan o gadwyn.’

Mae Canolfan Arddio Seven Oaks yn gwerthu planhigion tymhorol ffres ac mae hanfodion ‘tyfu-eich-hun’ ar gael trwy’r flwyddyn. Mae’n ganolfan arddio annibynnol bychan gyda staff profiadol a chyfeillgar.

Mae golygfeydd o fryniau Clwyd i’w gweld o’r caffi, ac mae’r fwydlen yn llawn blas bwyd cartref ac yn cael eu gwneud â chynnyrch Cymreig lleol. Mae’n le hyfryd i fagu nerth newydd a mwynhau Dyffryn Clwyd. Nid yw’n syndod eu bod wedi ennill y wobr. Mae wir yn le hyfryd.

Nid yw popeth yn rhedeg yn esmwyth o hyd. Yn ôl gwefan Seven Oaks: ‘Mae’r enw ‘Seven Oaks’ yn dod o dref enedigol Ian, Sevenoaks yng Nghaint. Fel ei chydenw, mae Seven Oaks wedi bod trwy ambell i storm, gan gynnwys tân trydanol sawl blwyddyn yn ôl a fuodd bron â dinistrio’r ganolfan arddio. Yn fwy na dim, mae natur benderfynol Ian ynghyd â’i gwsmeriaid ffyddlon wedi galluogi’r ganolfan arddio hon i ail-adeiladu, gwella ac ehangu. Mae hyn wedi arwain at yr atyniad gweledig swynol sydd i’w weld heddiw.’ Mae stori Ian yn ysbrydoliaeth inni.

CANOLFANNAU GARDDIO CYMRU – CYFLWR PRESENNOL A’R CYFLEOEDD

Mae gan Ian safbwynt hynod gadarnhaol ar y busnes ganolfan arddio yng Nghymru.

‘Oherwydd beth sy’n digwydd yn y diwydiant gyda chanolfannau mawr, mae cyfle da i ganolfannau arddio llai. Mae’r stryd fawr yn diflannu ac mae pwyslais mawr ar fynd ar-lein, ond mae canolfannau garddio i weld yn gwneud yn dda. Mae pobl yn dal i fod eisiau siarad â phobl. Nid ydych yn cael siocled poeth gyda’ch planhigion ar y we! Rwyf yn ceisio gwerthu pethau y byddwn i’n eu prynu fy hun. Rwyf yn gwerthu nifer o Fasarn Japaneaidd oherwydd fy mod wrth fy modd â nhw. Yma, gallwch siarad â rhywun sy’n angerddol.’

Mae Ian yn credu bod angen i ganolfannau arddio bychain, fel ei un fo, fod ag arbenigedd a pherchennog a staff sydd wirioneddol yn malio ac sy’n wybodus er mwyn llwyddo. Dyna beth sy’n eu gwneud i sefyll ar wahân i’r canolfannau garddio cadwyni mawr a siopau archfarchnadoedd/bargian. Does dim modd dianc rhag brwdfrydedd Ian am Fasarn Japaneaidd, hyd yn oed os yw’n honni bod ganddo ddigon o ffeithiau i’ch rhoi i gysgu.

‘Mae angen i’r canolfannau arddio llai a chanolfannau arddio planhigfeydd ganolbwyntio ar rywbeth penodol – nid cacennau a chaffis yn unig!’ Mae rhai wedi colli eu ffocws. Mae angen iddynt fynd yn ôl at y rheswm y dechreuodd y perchennog y busnes yn y lle cyntaf. Gallaf rhoi bobl i gysgu wrth sôn am fasarn! Mae angen inni osod ein hunain ar wahân i’r cadwyni.’

HERIAU CANOLFANNAU GARDDIO CYMRU

O ran yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant yng Nghymru, mae Ian yn ystyried pobl fel yr her fwyaf – boed yn staff neu’n bobl sy’n rhedeg busnesau fel ei fusnes ef.

‘Yr heriau yw ceisio dod o hyd i’r staff iawn mewn amgylchedd gwledig. Mae’n anodd yng Nghymru. Mae nifer o bobl yn mwynhau garddio, ond nid oes llawer eisiau gweithio yn y diwydiant.’

Ni fyddwn yn tyfu llawer yng Nghymru oni bai bod pobl yn gweithio yn y diwydiant. Mae pobl eisiau mynd i’r brifysgol, nid rhedeg y busnes hwn. Nid yw pobl yn ystyried hwn fel swydd. Mae pobl ond yn dechrau dangos diddordeb unwaith eu bod yn eu 40au ac mae pethau’n fwy cyfforddus, maent wedi cael digon o deithio’n bell, mae’r plant wedi gadael cartref, efallai bod perthnasoedd wedi torri – mae pobl yn dechrau dangos diddordeb yn hwyrach ymlaen yn eu bywydau. Mae’n broblem’.

GARDDWRIAETH CYMRU A CHANOLFAN ARDDIO SEVEN OAKS

Drwy weithio gyda Seven Oaks, rydym wedi adnabod ffynonellau cymorth gan gynnwys cyfeirio at Busnes Cymru a hyfforddiant am ddim, y mae aelod o staff wedi cwblhau. Rydym hefyd wedi helpu gyda’r gwaith marchnata a hyrwyddo ar-lein.

Oherwydd pryderon staffio Ian, rydym wedi ei gyfeirio at Twf Swyddi Cymru. Gall gael cefnogaeth o ran dod o hyd i aelodau tîm a thalu hanner eu cyflog am y 6 mis cyntaf.

Fel nifer o’n haelodau, mae Ian yn fwy na pharod i rannu ei wybodaeth a’i arbenigedd. Rydym wedi cyflwyno Ian i Rod yn y Ganolfan Sgiliau Coetir i ddarganfod a all ei brofiad planhigfa fod o fudd i’w syniad am fferm lafant.

Oherwydd bod Garddwriaeth Cymru yn rhan o dîm menter Prifysgol Glyndŵr, rydym hefyd yn adnabod cydweithiwr a all ein helpu gyda chymorth arloesi. Gallwn efallai helpu Ian gydag ambell un o’i brosiectau, gan gynnwys ail-adeiladu ei dŷ acer neu uwchraddio ei system labelu. Rydym hefyd yn annog Ian i ymgymryd â’r gwobrau Gwella Entrepreneuriaeth.

Diolch yn fawr iawn Ian.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Arddio Seven Oaks yma.